Ar 21 Ionawr, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal dadl Cyfnod 3 ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Cyfnod 3 yw pan fydd pob un o 60 o Aelodau'r Cynulliad yn gallu pleidleisio i gytuno neu wrthod y newidiadau y mae unrhyw Aelod wedi'u hawgrymu ers dechrau trafodion Cyfnod 3 ar 29 Hydref 2019.
Mae y papur yma yn esbonio y newidiadau a wnaed i’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yn ystod trafodion Cyfnod 2.
Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru