- Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Ymchwiliad i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol (2013) ac ymateb Llywodraeth Cymru
- Llywodraeth Cymru, Law yn Llaw at Iechyd - Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes (2013) a Law yn Llaw at Iechyd Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes: Adroddiad Blynyddol 2014
- Diabetes UK, adroddiad ar gyfer Cymru - Cyflwr y Genedl - Heriau ar gyfer 2015 a thu hwnt (Saesneg yn unig)
- Diabetes UK, Diabetes: Ffeithiau ac Ystadegau (2015) (Saesneg yn unig)
- Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, National Diabetes Inpatient Audit (NaDIA) - 2013 (Saesneg yn unig)
Darlun o diabetes yng Nghymru
Cyhoeddwyd 16/11/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
16 Tachwedd 2015
Erthygl gan Philippa Watkins a Helen Jones, y Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae 14 Tachwedd 2015 yn Ddiwrnod Diabetes y Byd. Mae oddeutu 180,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu trin ar hyn o bryd ar gyfer diabetes (dros 5% o gyfanswm y boblogaeth ac oddeutu 7% o’r boblogaeth sy’n oedolion).
Amcangyfrifir bod 70,000 o bobl eraill yng Nghymru sydd â diabetes Math 2 ond eu bod naill ai ddim yn gwybod bod ganddynt y cyflwr neu nad ydynt wedi cael diagnosis. Mae 540,000 o bobl eraill yn wynebu risg uchel o ddatblygu’r cyflwr.
Mae Diabetes Math 1 yn gyflwr awto-imiwn lle nad yw’r pancreas yn cynhyrchu dim inswlin. Fel arfer gwneir y diagnosis mewn plant ac oedolion ifanc.
Mae Diabetes Math 2 yn llawer mwy cyffredin na Math 1, ac mae i gyfrif am oddeutu 90% o oedolion sydd â diabetes. Mae Math 2 yn aml yn gysylltiedig â ffactorau ffordd o fyw. Gordewdra yw’r ffactor risg mwyaf arwyddocaol, a gallai fod yn gyfrifol am 80-85% o’r risg o ddatblygu diabetes Math 2.
Mae tystiolaeth gynyddol, a phryder, bod y cynnydd mewn gordewdra ymhlith plant wedi arwain at gynnydd yn yr achosion o ddiabetes Math 2 sy’n cael diagnosis mewn grwpiau oedran iau.
Mae amddifadedd yn gysylltiad pendant â lefelau uwch o ordewdra, anweithgarwch corfforol, ysmygu a ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â risg pobl o ddiabetes, a’u gallu i reoli’r cyflwr ac i osgoi cymhlethdodau difrifol.
Mae Diabetes yn costio oddeutu £500 miliwn i’r GIG yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i oddeutu 10% o gyllideb y GIG yng Nghymru.
Mae 18% o welyau mewn ysbytai acíwt yng Nghymru yn cael eu cymryd gan bobl sydd â diabetes. Mae dros 90% o’r cleifion hyn â Diabetes Math 2.
Deunydd darllen pellach: