Subject to a referendum, all three income tax rates would be reduced by 10p, and the Assembly would decide a separate Welsh rate for each band. Those Welsh rates would be added to the reduced UK rates. […] Given the other financial provisions in the Bill and the full devolution of business rates, […] the Assembly would become responsible for raising around a quarter of the money that it spends.Yn ôl amcangyfrifon Swyddfa'r DU â Chyfrifoldebau dros y Gyllideb, byddai 10c o dreth incwm yng Nghymru yn sicrhau tua £2 biliwn i Lywodraeth Cymru yn 2014-15. Yn dilyn gwelliannau Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi, mae'r Ddeddf yn caniatáu i'r Cynulliad ostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer refferendwm at bwerau i godi trethi, ond dim ond i'r refferendwm hwnnw y byddai unrhyw newid i'r oedran pleidleisio yn berthnasol. Mae'r Ddeddf yn ymestyn tymhorau'r Cynulliad yn barhaol o bedair i bum mlynedd, gan ei gwneud yn llai tebygol y bydd etholiadau'r Cynulliad yn cyd-daro ag etholiadau seneddol San Steffan yn y dyfodol. Mae hefyd yn cael gwared ar y gwaharddiad ar ymgeiswyr yn etholiadau'r Cynulliad rhag sefyll mewn etholaeth ac ar restr ranbarthol, ac mae'n gwahardd Aelodau rhag cyflawni dwy swydd, sef bod yn Aelodau Seneddol ac yn Aelodau Cynulliad ar yr un pryd.
Deddf Cymru 2014
Cyhoeddwyd 18/12/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau
18 Rhagfyr 2014
Erthygl gan Steve Boyce, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_2069" align="alignright" width="201"] Llun o Flickr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru[/caption]
Yr wythnos diwethaf, cwblhaodd Bil Cymru ei daith drwy'r Senedd a'r wythnos hon, cafodd Gydsyniad Brenhinol, gan gwblhau proses a ddechreuodd â'r Darlleniad Cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar 20 Mawrth 2014.
Mae'r Ddeddf yn gweithredu rhai o argymhellion adroddiad cyntaf Comisiwn Silk, gan gynnwys rhoi pwerau newydd i'r Cynulliad yng nghyswllt codi trethi a materion ariannol eraill, a phwerau benthyca i Weinidogion Cymru. Mae'n gwneud rhai newidiadau i'r rheolau ynghylch etholiadau'r Cynulliad hefyd, ac yn atal Aelodau'r Cynulliad rhag bod yn Aelodau Seneddol ac yn Aelodau Cynulliad ar yr un pryd.
Prif ddarpariaethau'r Ddeddf
Mae'r Ddeddf yn caniatáu i'r Cynulliad gynnal refferendwm ynghylch a gaiff amrywio cyfradd y dreth incwm yng Nghymru hyd at 10 pwynt canran. Ar ei ffurf wreiddiol, câi'r Cynulliad amrywio'r dreth incwm, ond dim ond yn ôl yr un nifer o bwyntiau canran ar gyfer y cyfraddau sylfaenol, uwch ac ychwanegol o dreth, sef y "cam clo". Dilëwyd hyn drwy welliant gan Lywodraeth y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Mae'r Ddeddf hefyd yn rhoi pwerau i'r Cynulliad ynghylch treth stamp, treth dir a threth dirlenwi, ac mae'n rhoi pwerau benthyca byrdymor ehangach i Lywodraeth Cymru, a phwerau newydd i fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn y ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin ar 10 Rhagfyr: