pleidleisio

pleidleisio

Deddf Etholiadau’r DU: Beth mae'n ei olygu i bleidleiswyr Cymru?

Cyhoeddwyd 23/05/2022   |   Amser darllen munudau

Daeth y Ddeddf Etholiadau ('y Ddeddf') i rym ar 28 Ebrill 2022.

Er na fydd y Ddeddf yn cael effaith fawr ar etholiadau’r Senedd, mae wedi ychwanegu cymhlethdod posibl i bleidleiswyr ar ddiwrnodau etholiadau yng Nghymru, gyda haenau gwahanol o ddeddfwriaeth yn berthnasol ar gyfer gwahanol fathau o etholiadau.

Mae mwyafrif y Ddeddf yn berthnasol i etholiadau a gadwyd yn ôl yn unig – hynny yw, etholiadau senedd y DU (gan gynnwys etholaethau Cymreig), etholiadau lleol yn Lloegr, ac etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr. Ni fydd, ar y cyfan, yn effeithio ar etholiadau datganoledig yng Nghymru – hynny yw, etholiadau cyffredinol y Senedd a’i hisetholiadau, ac etholiadau lleol Cymru.

Mae’r erthygl hon yn ystyried sut y bydd y Ddeddf yn effeithio ar Gymru, safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Ddeddf, ac a fydd y weithdrefn ar ddiwrnodau etholiadau yng Nghymru yn newid.

Beth fydd y Ddeddf Etholiadau yn ei wneud?

Etholiadau a gadwyd yn ôl yng Nghymru

Mae’r Ddeddf yn gwneud newidiadau sylweddol i etholiadau a gadwyd yn ôl yn y DU. Ar gyfer etholiadau sy’n cynnwys seddi Cymru yn Senedd y DU – yn ogystal ag etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru – mae’r newidiadau a ganlyn yn berthnasol:

  • Bydd gofyn i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod gyda ffotograff mewn gorsafoedd pleidleisio.
  • Caiff y system cyntaf i'r felin ei defnyddio ar gyfer etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sy'n newid o'r system pleidlais atodol flaenorol.
  • Bydd y cyfnod amser y gall person wneud cais am bleidleisio drwy’r post yn cael ei gyfyngu i dair blynedd. Ar ôl hynny, bydd angen i bleidleiswyr wneud cais eto. At hynny, bydd pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr yn cael eu gwahardd rhag trin dogfennau pleidleisio drwy'r post.
  • Bydd nifer y bobl y gall person bleidleisio ar eu rhan (pleidleisio drwy ddirprwy) wedi’i gyfyngu i bedwar, a dim ond dau ohonynt a all fod yn bleidleiswyr yn y DU.
Etholiadau datganoledig yng Nghymru

Ni fydd yr un o’r newidiadau uchod yn berthnasol yn etholiadau’r Senedd, isetholiadau’r Senedd nac etholiadau awdurdodau lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae'r Senedd wedi cytuno i roi cydsyniad ar gyfer sawl cymal yn y Ddeddf sy’n effeithio ar etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Newidiadau i reolau 'dylanwad gormodol', y drosedd o fygwth defnyddio grym neu drais i wneud i rywun bleidleisio mewn ffordd arbennig. Os ceir person yn euog, ni fyddai’n gallu sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau’r Senedd neu etholiadau lleol Cymru.
  • Cyflwynwyd sancsiwn etholiadol newydd ar gyfer y rheini a gafwyd yn euog o fygwth ymgeiswyr. Byddai’r person a gollfarnwyd yn cael ei wahardd rhag sefyll dros swyddi dewisol penodol – neu ddal y swyddi hynny – gan gynnwys Senedd Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru, am bum mlynedd.
  • Rhaid i ddeunydd ymgyrchu digidol gynnwys 'argraffnod digidol' yn rhestru enw a chyfeiriad ei hyrwyddwr, ac unrhyw berson y cyhoeddir y deunydd ar ei ran.

Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflwyno system dogfennau adnabod pleidleiswyr. Fodd bynnag, cydnabu nad yw’n berthnasol ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru, ac felly nid yw’n ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol.

Roedd Llywodraeth Cymru yn anghytuno gyda Llywodraeth y DU ar sawl maes o’r Bil ar y pryd, gan ddadlau ei fod yn syrthio oddi fewn i gymhwysedd y Senedd. Cododd nifer o bryderon, gan gynnwys:

  • Cymalau a osododd ddyletswyddau ar y Comisiwn Etholiadol i ‘roi sylw i’ strategaeth a datganiad polisi sy'n nodi blaenoriaethau Llywodraeth y DU ar gyfer materion etholiadol. Dadleuodd Llywodraeth Cymru fod hyn yn anghydnaws â Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ac y byddai’n effeithio ar allu’r Senedd i graffu ar waith y Comisiwn Etholiadol (y mae’n gwneud drwy gyfrwng Pwyllgor y Llywydd); a’r
  • effaith y bydd darpariaethau argraffnod digidol a bygwth yn ei chael ar y Senedd. Yn ôl Llywodraeth Cymru, dylai’r Senedd gael yr opsiwn i gyflwyno ei deddfwriaeth ei hun ar y materion hyn, yn hytrach na’u bod yn cael eu cyflwyno drwy un o ddeddfau’r DU.

Golygai’r pryderon hyn bod Llywodraeth Cymru wedi argymell, yn y lle cyntaf, yn erbyn cydsynio i’r Bil ar y pryd.

Yn dilyn hyn, cyflwynwyd sawl gwelliant yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi fel ei gilydd, wnaeth hepgor etholiadau datganoledig Cymru o lawer o’r darpariaethau. Golygai hynny na fyddai’r cymalau yr oedd Llywodraeth Cymru yn eu gwrthwynebu – gan gynnwys datganiad strategaeth y Comisiwn Etholiadol – yn berthnasol, mwyach, i etholiadau’r Senedd nac etholiadau lleol yng Nghymru. Disgrifiodd y Cwnsler Cyffredinol hyn fel llwyddiant i ddatganoli.

Er gwaethaf y consesiynau, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ailddatgan ei bod yn anghytuno gyda'r argraffnodau digidol a’r darpariaethau o ran bygwth, gan ddweud eu bod yn syrthio oddi fewn i bwerau’r Senedd, ac felly ni ddylid eu gyflwyno ar gyfer etholiadau datganoledig drwy gyfrwng un o ddeddfau’r DU. Honnodd Llywodraeth y DU nad oedd angen cydsyniad y Senedd ar gyfer y darpariaethau hyn.

A fydd dyddiau etholiadau yng Nghymru yn newid?

Er bod y Senedd wedi cytuno i gydsynio, mae pryderon yn parhau ynghylch canlyniadau’r ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau yng Nghymru. Rhybuddiodd Llywodraeth Cymru am “ganlyniadau anfwriadol” posibl, fel dryswch i bleidleiswyr ac ymgeiswyr a chymhlethdod i weinyddwyr sy’n deillio o’r bil.

Roedd etholiadau’r Senedd yn 2021 yn bleidlais â gyfunwyd ag ethol y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Os bydd hynny’n digwydd eto, bydd yn ofynnol i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod gyda ffotograff er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, ond nid yn etholiadau'r Senedd. Mae Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru wedi mynegi pryderon “y bydd yn rhaid i glercod pleidleisio wrthod mynediad i bobl wrth ddrysau’r gorsafoedd pleidleisio”.

Dywedodd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd ei fod yn teimlo pryder ynghylch yr effaith y gallai’r Ddeddf ei chael ar ymgysylltiad dinasyddion Cymru â’r broses ddemocrataidd. Argymhellodd – yn dilyn pasio’r Ddeddf – y dylai’r Cwnsler Cyffredinol gyhoeddi datganiad ar oblygiadau’r ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau datganoledig yng Nghymru.

Ar adeg cyhoeddi, nid oes datganiad o'r fath wedi'i wneud. Fodd bynnag, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud y bydd ‘Bil diwygio a gweinyddu etholiadol’ yn cael ei ddwyn gerbron y Senedd hon gyda'r nod o wella gweinyddiaeth etholiadau datganoledig yng Nghymru.


Erthygl gan Philip Lewis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru