Mae'r papur briffio hwn yn crynhoi'r prif ddarpariaethau ym mhob rhan o'r Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ac yn rhoi enghreifftiau damcaniaethol o sut y mae'r Ddeddf yn debygol o weithio'n ymarferol.
Gosododd Llywodraeth y DU Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (248KB) ar 9 Medi. Roedd hyn yn dilyn ymgynghoriad pedair wythnos ar y Bil rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2020.
Cafodd y Bil y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Rhagfyr 2020. Gwnaed nifer o welliannau i'r Bil yn ystod ei hynt drwy Dŷ'r Arglwyddi. Ni roddodd Senedd Cymru na Senedd yr Alban eu cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil.
Mae'r Ddeddf yn cynnwys:
- darpariaethau sy'n gosod rheolau newydd ynghylch sut y gall deddfwrfeydd a llywodraethau yn y DU ddeddfu i reoleiddio nwyddau a gwasanaethau yn y dyfodol;
- darpariaethau ar reoleiddio cymwysterau proffesiynol yn y DU;
- darpariaethau ar weithredu’r protocol ynghylch Iwerddon a Gogledd Iwerddon;
- darpariaethau i roi pwerau gwario newydd i Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig;
- darpariaethau i gadw'n ôl bwerau sy'n gysylltiedig â rheoli cymorthdaliadau.
Erthygl gan Nia Moss, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru