Ar 16 Tachwedd, bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Cysylltedd digidol - band eang. Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o argymhellion y Pwyllgor.
Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae’r bwlch rhwng mynediad at fand eang cyflym iawn yng Nghymru a chyfartaledd y Deyrnas Unedig wedi lleihau’n aruthrol, yn dilyn buddsoddiad a arweiniwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Cyflymu Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn band eang, sy’n faes a gadwyd yn ôl, drwy grantiau unigol a phrosiectau seilwaith ar raddfa fawr, ond yn gynnar yn 2022, cafodd y cyllid hwn ei leihau. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn esgusodi Llywodraeth y DU drwy ariannu rhywbeth y mae San Steffan yn gyfrifol amdano.
Cytunodd adroddiad un o bwyllgorau’r Senedd yn ddiweddar â'r dadansoddiad hwn a galwodd ar Lywodraeth y DU i ddarparu mynediad i eiddo nad ydynt yn gallu cael band eang digonol, gydag ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr atebion hyn yn addas i Gymru.
Ni all 0.6% o eiddo gael band eang digonol
Yn ôl yn 2014, gallai 55% o eiddo preswyl gael band eang ar gyflymder o 30 megabeit yr eiliad (Mbps) neu fwy, o gymharu â 75% ar draws y DU yn ei chyfanrwydd. Yn 2022, roedd y ffigur hwn wedi codi i 95% (cyfartaledd y DU yw 96%). Dyma’r math o gyflymder sy’n galluogi un person i ffrydio fideo 4K/Diffiniad Uchel Iawn neu ddefnyddio sawl dyfais ar yr un pryd.
Cwmpas eiddo yn ôl y rhwydweithiau band eang sefydlog yng Nghymru o gymharu â chyfartaledd y DU yn 2022
Metrig | Cymru | Y DU |
Ffeibr Llawn [1] | 35% | 37% |
300 Mbps neu gyflymach | 49% | 68% |
100 Mbps neu gyflymach | 51% | 70% |
30 Mbps neu gyflymach | 95% | 96% |
10 Mbps neu gyflymach | 97% | 98% |
Cyflymder lawrlwytho sy’n llai na 10 Mbps neu gyflymder lanlwytho o 1 Mbps | 3% | 3% |
Ffynhonnell: Diweddariad Cysylltu’r Gwledydd: Hydref 2022 – Adroddiad rhyngweithiol - Ofcom
[1] Darperir y cysylltiad o’r gyfnewidfa i’r eiddo yn gyfan gwbl dros ffeibr optig. Yn gyffredinol, nid yw pellter yr eiddo yn effeithio ar y cyflymder a ddarperir.
Mae Ofcom yn amcangyfrif na all tua 10,000, neu 0.6%, o eiddo yng Nghymru gael gwasanaeth band eang digonol gyda chyflymder lawrlwytho o 10 Mbps o leiaf a chyflymder lanlwytho o 1 Mbps o rwydweithiau sefydlog neu ddiwifr sefydlog. O gymharu, yn 2019, roedd gan 98% o eiddo yng Nghymru fynediad i Deledu Daearol Digidol ac roedd tuag 80% o’r eiddo ar y grid nwy.
Ymyriadau Llywodraeth Cymru
Dros y degawd diwethaf, bu dwy brif elfen i bolisi band eang Llywodraeth Cymru: rhoi grantiau i unigolion, a thalu darparwyr band eang (BT ym mhob achos) i ddefnyddio band eang cyflym yn gyffredinol y tu allan i ardaloedd sy’n fasnachol hyfyw.
Yn y cynllun Cyflymu Cymru gwreiddiol, a oedd ar waith rhwng 2012 a 2018, talwyd £220 miliwn i BT i gysylltu tua 700,000 o eiddo i fand eang cyflym iawn (h.y. dros 24 Mbps).
Ar hyn o bryd, drwy ei is-gwmni isadeiledd Openreach, mae BT yn darparu cynllun olynol i Lywodraeth Cymru gysylltu tua 37,000 o eiddo ychwanegol erbyn mis Mawrth 2023. Yn ddiweddar, gostyngodd Llywodraeth Cymru nifer yr eiddo o 39,000 ac estynodd y dyddiad cau. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfrannu £24 miliwn o gyfanswm o £55 miliwn o gyllid cyhoeddus. Daw gweddill yr arian cyhoeddus o’r UE (£29 miliwn) a Llywodraeth y DU (£2 filiwn).
Cysylltu fy hun
Mae ystod o grantiau ar gael gan Lywodraethau Cymru a’r DU ar gyfer pobl sydd am wella eu cysylltiadau band eang.
- Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru yn darparu grantiau o hyd at £800 ar gyfer cysylltiadau band eang newydd i gartrefi a busnesau yng Nghymru.
- Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael i gefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol drwy ei Chronfa Band Eang Lleol.
- Mae Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol y DU gyfan yn galluogi pobl i ofyn am gysylltiad gwell gan BT lle na allant gael mynediad i fand eang "digonol" (cyflymder lawrlwytho o 10 Mbps a chyflymder lanlwytho o 1 Mbps) ac ni fyddant yn cael eu cysylltu gan gynllun arall o fewn 12 mis. Dylai BT ddarparu cysylltiad lle bydd hyn yn costio llai na £3,400: uwchlaw hyn, gall y cwsmer ddewis talu’r gweddill. Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i drafod y cap prisiau hwn gyda Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu costau uwch gosod band eang ers lansio’r cynllun yn 2020.
Erbyn hydref 2021, roedd 108 o archebion am rwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol wedi eu cyflwyno yng Nghymru ers lansior cynllun ym mis Mawrth 2020, a ddylai wasanaethu 689 o gartrefi. Mae hyn yn tua 7% o gartrefi Cymru nad oes ganddynt fynediad at fand eang digonol o wasanaeth sefydlog neu wasanaeth diwifr.
Talebau Gigabeit: nid yw Llywodraeth Cymru bellach yn "esgusodi Llywodraeth y DU"
Mae cynllun talebau band eang Gigabeit Llywodraeth y DU yn darparu cyllid o hyd at £1,500 ar gyfer cartrefi a £3,500 i fusnesau ar gyfer gosod band eang a all drosglwyddo data ar gyfradd gigabeit (h.y. 1,000 Mbps) mewn ardaloedd gwledig. Hyd at fis Mawrth 2022, byddai Llywodraeth Cymru yn dyblu’r cyllid hwn dan amgylchiadau penodol. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, wrth Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd bod yr arian ychwanegol hwn wedi bod yn cuddio embaras Llywodraeth y DU, lle nad oedd ei chynllun talebau atodol yn ddigonol i dalu'r costau cysylltedd ychwanegol yng Nghymru.
Mae telathrebu yn fater a gadwyd yn ôl. Teimlai’r Dirprwy Weinidog, drwy wario cyllid Llywodraeth Cymru ar swyddogaeth heb ei datganoli, fod Llywodraeth y DU yn gwneud i Lywodraeth Cymru wario arian mewn meysydd lle na ddylai fod yn gwario arian, a’i bod yn esgusodi Llywodraeth y DU.
Roedd y Pwyllgor Cyllid yn cytuno â'r farn hon. Galwodd ar Lywodraeth y DU i ddarparu mynediad i eiddo na allant gael band eang digonol, gydag ymgysylltiad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr atebion hyn yn addas i Gymru.
Mae’r defnydd o wasanaethau digidol yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas
Os yw pobl eisiau mynediad i fand eang digonol yng Nghymru, a gallant dalu amdano, mae’n bosibl i 99% ohonynt gael hynny. Dengys gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag, nad yw 7% o oedolion ar-lein, ac mae mynediad at wasanaethau ar-lein yn adlewyrchu anghydraddoldebau eraill mewn cymdeithas.
Ceir y gwahaniaeth mwyaf amlwg mewn perthynas ag oedran. Roedd 98% o bobl 16-49 oed yn defnyddio'r rhyngrwyd o gymharu â 49% o bobl 75 oed neu hŷn. Roedd y rhai mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o fod â mynediad i’r rhyngrwyd gartref (96%) na'r rhai a oedd yn ddi-waith (84%) neu a oedd yn economaidd anweithgar (78%).
Mae chwe darparwr band eang yn cynnig "tariffau cymdeithasol" cost is i aelwydydd cymwys. Cafodd y Pwyllgor sioc o glywed mai dim ond 1.2% o aelwydydd cymwys a oedd ar dariff cymdeithasol (ers hynny, mae’r ffigur hwn wedi codi i 3.2%), a galwodd ar lunwyr polisïau a darparwyr band eang i gynyddu’r nifer sy’n eu defnyddio. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cynlluniau ers hynny i’w gwneud yn haws i bobl gofrestru ar gyfer tariffau cymdeithasol.
Mae cyllid preifat a chyhoeddus yn parhau i leihau nifer yr eiddo nad yw’n gallu cael cysylltiad band eang digonol. Wrth i’r cynnydd mewn costau byw frathu, yr her fwy i wleidyddion efallai yw sut y gall pobl fforddio’r pecynnau sydd ar gael.
Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru