Yn gywir ddigon, bu llawer o ffocws ar iechyd a'r GIG yn ystod yr ail don hon o'r pandemig ac wrth inni agosáu at fisoedd anodd y gaeaf sydd o'n blaenau. Ond beth yw'r problemau mawr ym maes gofal cymdeithasol? Dyma'r gyntaf mewn cyfres o erthyglau sy'n edrych ar rai o'r prif bryderon sy'n cael eu codi gan y sector ar hyn o bryd.
Heddiw, edrychwn ar y cyfyngiadau ar ymweliadau â chartrefi gofal. Mae erthygl yfory yn myfyrio ar brofi mewn cartrefi gofal a lleoliadau gofal cartref ac mae erthygl dydd Iau yn canolbwyntio ar ofalwyr di-dâl.
Ymweliadau â chartrefi gofal
Un o'r pryderon mwyaf o ran gofal cymdeithasol fu'r niwed sylweddol a achoswyd i breswylwyr cartrefi gofal a'u hanwyliaid sydd wedi cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd am gyfnodau hir oherwydd cyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill.
Er bod y cyfyngiadau hyn wedi'u rhoi ar waith mewn ymgais i ddiogelu preswylwyr rhag y coronafeirws, mae rhanddeiliaid fel y Comisiynydd Pobl Hŷn a Chymdeithas Alzheimer Cymru yn bryderus iawn bod diffyg cyswllt mor hir â ffrindiau a pherthnasau yn arwain at ddirywiad difrifol yn iechyd a lles llawer o bobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal.
Yn ôl y Comisiynydd, mae tystiolaeth sy'n dangos bod datblygiad dementia yn cael ei arafu pan fydd preswylwyr yn cael y math hwn o gyswllt, tra gall diffyg cysylltiad gyflymu datblygiad dementia. Mae teuluoedd hefyd wedi siarad am y boen o gael eu gwahanu oddi wrth anwyliaid â dementia, a gweld yn ddiweddarach sut y maent wedi dirywio i'r pwynt na all y preswylydd eu hadnabod mwyach.
Dywed Cymdeithas Alzheimer mai pobl â dementia yw'r rhai sydd wedi eu 'taro waethaf' gan y pandemig, gan dynnu sylw at y ffaith mai dementia yw'r cyflwr sengl mwyaf cyffredin sy'n bodoli eisoes mewn marwolaethau sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws. Ymhlith pobl sydd â dementia hefyd y bu’r cynnydd mwyaf mewn marwolaethau ychwanegol nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod hyn, a dywedodd y bydd angen gwneud rhagor o waith ymchwil i ymchwilio’n llawn i'r rhesymau dros y cynnydd hwn.
Llinell amser y cyfyngiadau
Penderfynodd llawer o gartrefi gofal atal ymwelwyr rhag dod i mewn i'r cartref ddiwedd mis Chwefror / dechrau mis Mawrth i geisio diogelu preswylwyr. Cynghorodd Llywodraeth Cymru gyfyngu ymweliadau o 23 Mawrth, ond gwnaeth y rhan fwyaf o garterfi hynny yn gynharach. Caniatawyd ymweliadau cyfyngedig gan gadw pellter cymdeithasol ar rai adegau yn ystod y flwyddyn.
Ganol mis Mehefin / Gorffennaf, dechreuodd rhai cartrefi gofal ganiatáu ymweliadau awyr agored â chyfyngiadau, ac ar ddiwedd mis Awst, diweddarwyd Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cartrefi gofal i ganiatáu ar gyfer ymweliadau dan do gan gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, dywedodd y canllawiau hefyd, pe bai cyfraddau trosglwyddo’r coronafeirws yn codi yn y gymuned neu ar lefel genedlaethol, y gallai’r ymweliadau ddod i ben.
Roedd hyn yn wir ym mis Medi pan gafwyd cyfyngiadau symud lleol mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, gyda’r cyfnod atal byr cenedlaethol i ddilyn. Daeth ymweliadau â chartrefi gofal i ben eto yn ystod y cyfnodau hyn, ond caniatawyd iddynt ailgychwyn pan ddaeth y cyfnod atal byr i ben ar 9 Tachwedd. Diweddarodd Llywodraeth Cymru ei ganllawiau ar gyfer ymweld â chartrefi gofal ar 10 Tachwedd. Fodd bynnag mae'n dweud:
Gallai ymweliadau â chartrefi gofal ddod i ben os bydd cyfraddau trosglwyddo lleol yn y gymuned yn fwy na 5 y cant. Gall ymweliadau â chartrefi gofal ddod i ben os bydd cyfraddau trosglwyddo COVID-19 yn codi ar lefel genedlaethol. Gellir gosod cyfyngiadau ar ymweliadau â chartrefi gofal ar gartrefi mewn ardal benodol o'r awdurdod lleol, yn yr awdurdod lleol cyfan neu yn genedlaethol yn dibynnu ar y gyfradd drosglwyddo.
Wrth edrych ymlaen, mae'n bosibl y gallem weld cyfyngiadau eang ar ymweliadau eto. Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn eisiau gweld camau i atal 'gwaharddiadau cyffredinol' o'r fath gan ddweud:
Gyda chyfnod o ansicrwydd pellach o'n blaenau, mae'n bwysig deall yn union pa mor anodd fu’r cyfnod clo a’r cyfnod hir ar wahân i lawer o bobl hŷn a'u teuluoedd, a'r effaith y mae hyn eisoes wedi'i chael ar iechyd a lles llawer o breswylwyr cartrefi gofal. Law yn llaw â hyn, bydd cydnabod y risgiau ychwanegol i iechyd a lles pobl a fydd yn cael eu creu pe bai ymweliadau'n cael eu hatal eto yn hollbwysig wrth i benderfyniadau anodd gael eu gwneud yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
Mae Cymdeithas Alzheimer Cymru eisiau i ofalwyr teuluol gael statws gweithiwr allweddol ynghyd â’r PPE a'r profion rheolaidd sydd eu hangen arnynt i ganiatáu ymweliadau diogel ac ystyrlon â chartrefi gofal.
Nid dim ond pobl hŷn sy'n dioddef yn y sefyllfa hon; mae pobl ag anableddau sy'n byw mewn cartrefi gofal, a thai â chymorth wedi gweld cyfyngu ar ymweliadau hefyd. Dywed Fforwm Cymru Gyfan (AWF) rhieni a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu fod hyn wedi effeithio’n sylweddol ar iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl, ac mae wedi bod yn arbennig o anodd i lawer o deuluoedd sydd ag anwyliaid ag anabledd dysgu sy'n byw mewn llety byw â chymorth. Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod hyn, a chyhoeddodd ganllawiau newydd ar fyw â chymorth ar 6 Tachwedd. Ers hynny, gall pobl sy'n byw mewn llety â chymorth ffurfio cartref estynedig gydag eraill fel rhieni, brodyr a chwiorydd neu bartneriaid, gan alluogi cyswllt anghyfyngedig.
Datblygiadau diweddar
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi (23 Tachwedd) bod ‘unedau bach' dros dro yn cael eu darparu i gartrefi gofal er mwyn hwyluso ymweliadau yn ystod y gaeaf. Bydd y cynllun peilot gwerth £3 miliwn yn cynnwys caffael, gosod a phrydlesu 100 o unedau, gyda’r 30 cyntaf yn cael eu gosod ac yn barod i'w defnyddio cyn y Nadolig. Mae hyn hefyd yn cynnwys £1 miliwn ar gyfer cynlluniau i gefnogi darparwyr y mae'n well ganddynt wneud eu trefniadau eu hunain ar sail debyg. Dywed Llywodraeth Cymru:
Bydd ehangu’r lle sydd ar gael mewn cartrefi gofal yn ei gwneud yn haws cynnal ymweliadau’n seiliedig ar asesiadau risg yn ystod misoedd y gaeaf gan fod rhai darparwyr gofal wedi ei chael yn anodd trefnu ymweliadau gan nad oes digon o le dan do i allu cadw at y mesurau pellter cymdeithasol.
Yn ddiweddar dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn gweithio gyda phartneriaid ledled y DU i ddatblygu technolegau profi newydd, ac mae’n gobeithio cael newyddion cadarnhaol yn fuan am brofion cyflym newydd a allai fod ar gael i ymwelwyr â chartrefi gofal. Mae Llywodraeth y DU wedi lansio cynllun peilot i aelodau'r teulu gael profion cyflym, rheolaidd ar gyfer ymweliadau mwy diogel â chartrefi gofal sy'n caniatáu cyswllt corfforol. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi (23 Tachwedd) y bydd rhaglen beilot hefyd yn gweithredu ar draws nifer fach o gartrefi gofal yng Nghymru o 30 Tachwedd. Bwriedir i hwn fod yn beilot logistaidd i baratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno profion cyflym yn ehangach i ymwelwyr â mwy o gartrefi gofal yng Nghymru, o 14 Rhagfyr.
O ystyried y pryderon sylweddol am effaith niweidiol cyfyngiadau ar ymweliadau â chartrefi gofal ar breswylwyr ac anwyliaid, bydd llawer yn disgwyl yn bryderus am ganlyniadau'r datblygiadau newydd hyn.
Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru