Arwydd gyda'r geiriau Prifysgol / University a saeth yn cyfeirio at i fyny

 Arwydd gyda'r geiriau Prifysgol / University a saeth yn cyfeirio at i fyny

Effeithiau diwygiadau fisa myfyrwyr ar brifysgolion Cymru

Cyhoeddwyd 17/09/2024   |   Amser darllen munudau

Bob blwyddyn, mae dros 25,000 o fyfyrwyr rhyngwladol o fwy na 130 o wledydd yn dod i astudio yng Nghymru. Maent yn gwneud cyfraniad ariannol sylweddol i'r sector addysg uwch yng Nghymru ac i economi Cymru. Mae eu safbwyntiau amrywiol yn cyfoethogi campysau prifysgolion, gan greu amgylchedd dysgu byd-eang sydd o fudd i bob myfyriwr. Yn ôl Tom Pursglove AS, y cyn-Weinidog Gwladol dros Ymfudo Cyfreithiol a'r Ffin, bwriad y diweddariadau i fisas myfyrwyr yw dileu gallu sefydliadau i niweidio enw da'r DU drwy "werthu mewnfudo nid addysg."

Yn dilyn cyflwyno cyfyngiadau newydd ar lwybrau fisas myfyrwyr ym mis Ionawr 2024, bu gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n dod i'r DU. Mae'r erthygl hon yn edrych ar y newidiadau fisa hynny, eu heffaith yng Nghymru ac ymatebion iddynt. Bydd ail erthygl yn y gyfres ddwy ran hon yn edrych ar gefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n astudio yng Nghymru.

Llwybrau fisa a myfyrwyr rhyngwladol

Fisa Myfyrwyr

Llwybr graddedigion

Fisas gwaith

  • I’r rhai sydd dros 16 oed ac sydd wedi cael cynnig lle ar gwrs gan noddwr myfyrwyr trwyddedig.
  • Bydd y fisa myfyriwr yn dod i ben tua 4 mis cyn gorffen y cwrs. Ar y pwynt hwn gallant wneud cais am y llwybr graddedigion.
  • Gallant wneud cais am sawl fisa gwaith
  • Y mwyaf poblogaidd o’r rhain yw’r fisa Gweithiwr Crefftus

Mae’r mesurau newydd yn cyfyngu ar ofynion fisa ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, gan ganiatáu i aelodau'r teulu ddod gyda nhw ar lwybrau ymchwil ôl-raddedig yn unig. Yn ôl Llywodraeth flaenorol y DU, mae nifer yr aelodau o'r teulu sy'n cael eu dwyn i'r DU gan fyfyrwyr wedi codi'n sylweddol. Cafodd yr hawl i fyfyrwyr rhyngwladol newid i lwybrau fisa gwaith cyn cwblhau eu hastudiaethau hefyd ei ddileu.

Mae’r llwybr i raddedigion ar gael i'r rhai sydd wedi cwblhau gradd ar lefel israddedig neu ôl-raddedig yn y DU. Mae'n caniatáu i'r graddedigion hyn aros a gweithio yn y DU am 2 flynedd (gall myfyrwyr doethurol aros am 3 blynedd). Ym mis Mawrth 2024, cafodd y Pwyllgor Cynghori ar Fudo (MAC) ei gomisiynu gan Lywodraeth y DU i gynnal adolygiad cyflym o'r llwybr hwn. Ni chanfu'r Pwyllgor unrhyw gam-drin sylweddol ac argymhellodd gadw’r llwybr ar agor.

Gall y rhai sydd ar y fisa Graddedig newid i lwybrau amgen; a’r mwyaf poblogaidd yw'r Visa Gweithiwr Medrus. Ym mis Ebrill 2024, cafodd yr isafswm cyflog sydd ei angen ar gyfer fisa Gweithiwr Medrus ei gynyddu o £26,200 i £38,700. Mae’r newid hwn yn creu heriau i'r rhai sy'n dymuno newid o'r llwybr Graddedig i'r llwybr Gweithiwr Medrus, gyda’r posibilrwydd o gyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth a lleihau nawdd cyflogwr.

Gwnaed newidiadau pellach yn gynharach eleni gan y Llywodraeth flaenorol. Roedd y rhain yn cynnwys cyfyngu ar allu gofalwyr ac uwch ofalwyr i deithio gyda dibynyddion, ei gwneud yn orfodol i bob gofalwr sy’n noddi mewnfudwyr gofrestru gyda'r Comisiwn Ansawdd Gofal, a dileu'r gostyngiad o 20% arferol i atal cwmnïau rhag peidio talu digon i fewnfudwyr mewn swyddi lle mae prinder.

Effaith newidiadau fisa yng Nghymru

Ers y newidiadau i'r llwybr fisa, bu gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n dewis astudio yn y DU. Cafodd y Swyddfa Gartref 69,500 o geisiadau ym mis Gorffennaf 2024, o'i gymharu ag 81,900 ym mis Gorffennaf 2023.

Mae Universities UK yn adrodd:

The results, from over 70 universities, reveal a significant decline in enrolments, especially of postgraduate taught students – which were reported to be down by more than 40% in January 2024 following the immigration rules changes.

Mae ffioedd myfyrwyr rhyngwladol yn hanfodol ar gyfer ariannu addysg i fyfyrwyr y DU gan eu bod yn gyfystyr ag £11.8 biliwn yn 2022-23, sy’n gynnydd o tua 5% yng nghanol y 1990au i 23% o gyfanswm yr incwm. Yn ogystal, mae gweithrediadau "gwneud colled" fel ymchwil a chyfarwyddyd myfyrwyr cartref yn cael eu gwrthbwyso'n rhannol gan y taliadau hyn.

Yn ôl Prifysgolion Cymru, bydd gostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn arwain at ganlyniadau sylweddol i'r sector addysg uwch. Yn 2023, roedd ffioedd rhyngwladol addysg uwch Cymru yn 30% o holl incwm myfyrwyr. Dywed Prifysgolion Cymru y bydd effaith newidiadau i'r llwybr Graddedig "yn cael ei gynyddu yng Nghymru, gan nad yw twf myfyrwyr rhyngwladol yng Nghymru wedi cyfateb i un y DU, gan aros yn ei unfan ar ôl dileu’r fisa Gweithio Ôl-Astudio yn 2012 cyn cynyddu eto yn fwy diweddar."

Eu dadl hefyd yw y bydd cynyddu'r trothwyon cyflog ar y Llwybr Gweithiwr Medrus “yn cael effaith anghymesur yng Nghymru, lle mae cyflog cychwynnol cyfartalog graddedigion yn ~£25,000."

Gallai’r rheoliadau newydd i atal myfyrwyr rhyngwladol rhag newid i fisas gwaith cyn cwblhau eu hastudiaethau hefyd arwain at leihad mewn gweithwyr medrus mewn rhai sectorau, megis peirianneg, adeiladu a gweithgynhyrchu, a allai niweidio economi Cymru. Yn ôl Universities UK, bydd angen 400,000 o raddedigion ychwanegol yng Nghymru erbyn 2035 er mwyn ymateb i fylchau sgiliau a heriau gweithlu'r dyfodol.

Mae hefyd yr arian y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei gynhyrchu i economi ehangach Cymru i’w ystyried. Yn 2019/20, amcangyfrifwyd bod hyn yn £661 miliwn.

Ymatebion i'r newidiadau

Mae’r Athro Iwan Davies, Cadeirydd Cymru Fyd-eang, yn cytuno ac wedi pwysleisio, "trwy ddod i Gymru, mae myfyrwyr rhyngwladol yn chwarae rhan amhrisiadwy mewn amrywiaethu a rhyngwladoli ein campysau a’n cymunedau ar adeg pan mae cynnal meddylfryd rhyngwladol yn bwysicach nag erioed."

Soniodd Jeremy Miles AS, cyn Weinidog y Gymraeg ac Addysg, yn glir beth yw pwysigrwydd myfyrwyr rhyngwladol i system addysg Cymru a dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi "ymrwymo i gefnogi ein myfyrwyr rhyngwladol a'u teuluoedd yn llwyr pan fyddant yn dewis astudio a byw yng Nghymru".

Fel mae Yr Athro Dylan Jones-Evans o Brifysgol De Cymru yn rhybuddio, efallai y dylai Prifysgolion Cymru fod yn ofalus o orddibyniaeth ar incwm myfyrwyr rhyngwladol, gydag amcangyfrifon y gallai cymaint ag £20 miliwn fod wedi cael ei wario ar asiantau i sicrhau myfyrwyr tramor. Caiff symiau sylweddol hefyd eu gwario ar y myfyrwyr rhyngwladol hunangyllido, a gaiff ei ddisgrifio fel rhywbeth sy’n amlwg yn anghynaliadwy. Mae maint y cymorth yn dangos y gallai prifysgolion fod yn gwneud llai o arian o fyfyriwr rhyngwladol o'i gymharu â myfyriwr domestig arferol pan ystyrir ysgoloriaethau a chostau asiantaethau.

Ym mis Mehefin 2022 mynegodd Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin bryderon bod darparwyr addysg uwch yn Lloegr yn wynebu risgiau ariannol os yw rhagdybiaethau ynghylch twf yn y dyfodol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol yn profi i fod yn or-optimistaidd.

Myfyrwyr rhyngwladol – beth sydd nesaf?

Mae Llywodraeth y DU yn wynebu nodau sy'n gwrthdaro i leihau mudo net a chydnabod buddion economaidd myfyrwyr rhyngwladol. Mae rhai sefydliadau fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn galw am dynnu myfyrywr rhyngwladol oddi ar ffigurau mudo net. Yn wir, roedd Llywodraeth flaenorol y DU yn wynebu’r her o leihau mudo net wrth gyflawni nod 2030 o dderbyn 600,000 o fyfyrwyr rhyngwladol y flwyddyn.

Mae newidiadau Llywodraeth Lafur newydd y DU i'r broses fewnfudo a gyhoeddwyd yn Araith y Brenin yn awgrymu ailasesiad cynhwysfawr o'r system fewnfudo. Er na fu llawer o drafod am fisas myfyrwyr, ym mis Gorffennaf, pwysleisiodd Bridgette Phillipson AS. yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, fod croeso i fyfyrwyr rhyngwladol yn y DU.

Gallai diwygiadau mewnfudo arfaethedig lywio’r dyfodol i fyfyrwyr rhyngwladol yn y DU a nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n dewis astudio ym mhrifysgolion Cymru.

Bydd ein hail erthygl, i'w chyhoeddi yfory, yn edrych ar y cymorth ariannol a chymdeithasol y mae myfyrwyr rhyngwladol yn ei gael wrth astudio yng Nghymru ac yn archwilio pryderon ynghylch sut mae eu hanghenion yn cael eu diwallu.


Erthygl gan Asmaa Alfar, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a ddarparwyd i Asmaa Alfar gan WISERD a alluogodd yr erthygl hon i gael ei chwblhau.