- Derek Vaughan, Llafur Cymru (28.2%): dyma fydd ei ail dymor yn Senedd Ewrop gan iddo gael ei ethol gyntaf yn 2009;
- Nathan Gill, UKIP (27.6%): sy’n cymryd lle John Bufton, yr ASE cyntaf o UKIP i gynrychioli Cymru (2009-14);
- Dr Kay Swinburne, y Ceidwadwyr Cymreig (17.4%): fel Derek, dyma fydd ail dymor Kay gan iddi gael ei hethol yn 2009;
- Jill Evans, Plaid Cymru (15.3%): hi sydd wedi gwasanaethu hiraf o’r pedwar ASE o Gymru, a dyma fydd y pedwerydd tymor o’r bron i Jill Evans ers iddi gael ei hethol gyntaf ym 1999.
Etholiadau Senedd Ewrop 2014
Cyhoeddwyd 03/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
03 Mehefin 2014
Erthygl gan Nigel Barwise, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gregg Jones, Swyddfa'r EU
Cynhaliwyd etholiadau Senedd Ewrop ledled yr Undeb Ewropeaidd rhwng 22 a 25 Mai, mewn perthynas â’i fandad ar gyfer 2014-19. Mae’r holl ganlyniadau ar gael ar wefan etholiadau Senedd Ewrop (sy’n cynnwys canlyniadau 2009 at ddibenion cymharu - gweler y linc ar ddiwedd y darn hwn).
Cymru
Mae pedwar o’r 73 Aelod o Senedd Ewrop (ASE) a etholwyd gan y DU yn cynrychioli Cymru, sef y canlynol (yn nhrefn cyfran y bleidlais yng Nghymru - a ddangosir mewn cromfachau):