Mae tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn cael effaith fawr ar y de, yn enwedig ar yr economi. A oes modd cyfiawnhau costau ariannol ac amgylcheddol creu ffordd liniaru?
Bydd yn rhaid i Lywodraeth newydd Cymru wneud penderfyniadau mawr yn gynnar yn y Pumed Cynulliad ar brosiect seilwaith mwyaf Llywodraeth Cymru hyd yn hyn – ffordd liniaru'r M4. Y cynllun Mae cynlluniau i gynyddu'r capasiti ar yr M4 o amgylch Casnewydd wedi cael eu trafod ers y 1990au cynnar pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn ffafrio llwybr sy'n eithaf tebyg i'r cynigion presennol. Barnwyd yn 2009 y byddai’r prosiect yn rhy ddrud, ond fe’i hadfywiwyd yn sgil y cytundeb ar bwerau benthyca rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn 2013. Yn 2014, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y ddogfen Coridor yr M4 o Amgylch Casnewydd - Y Cynllun. Roedd y ddogfen hon yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn ffafrio llwybr ar gyfer traffordd tair lôn i'r de o Gasnewydd rhwng Magwyr a Chas-bach. Roedd y ddogfen hefyd yn rhestru pedwar ffactor pwysig a oedd yn sail i'r cynllun:- capasiti: erbyn 2037, bydd llif y traffig rhwng cyffordd 23A a chyffordd 29 yr M4 bresennol yn fwy na 100% o'r capasiti yn ystod yr oriau brig ganol wythnos;
- y gallu i ymdopi: mae angen gwella gallu'r rhwydwaith i ymdopi â gwrthdrawiadau a digwyddiadau;
- diogelwch: mae i'r M4 bresennol gyfyngiadau dylunio, tra bo tagfeydd cynyddol yn achosi mwy o ddigwyddiadau a gwrthdrawiadau; a
- datblygu cynaliadwy: mae tagfeydd yn rhwystr i dwf economaidd, ac mae ansawdd aer gwael a llygredd sŵn yn effeithio'n gynyddol ar gymunedau lleol.
Byddai'r Llwybr Glas (PDF 724 KB) yn defnyddio cyfuniad o Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol Casnewydd ar yr A48, a hen ffordd y gwaith dur ar ochr ddwyreiniol Casnewydd, i greu ffordd ddeuol newydd. Mae’r rheini sydd o blaid hyn yn dadlau y byddai modd adeiladu’r ffordd hon yn rhatach ac yn gyflymach na’r ffordd liniaru.
Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru arfarniad o’r dewisiadau eraill a ystyriwyd yn ystod y broses ymgynghori (PDF 2.39MB), ac awgrymodd yr arfarniad hwn na fyddai'r Llwybr Glas yn cyflawni amcanion y cynllun. Awgrymwyd hefyd y byddai’n galw am fuddsoddiad sylweddol heb ddigon o fanteision yn deillio ohono.
Y dyfodol Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad amgylcheddol y cynllun, gan nodi sut y bydd yn lliniaru'r effeithiau negyddol ar yr amgylchedd. Nid yw'n glir eto i ba raddau y mae’r datganiad hwn yn lleddfu’r pryderon amgylcheddol. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd ddeddfwriaeth ddrafft a oedd yn paratoi'r ffordd ar gyfer y gwaith adeiladu, ynghyd ag ystod o adroddiadau eraill. Ym mis Mai 2015, dywedodd y Prif Weinidog wrth y Pedwerydd Cynulliad y byddai'r cynllun yn costio dipyn yn llai na £1 biliwn. Er mai £857 miliwn yw’r amcangyfrif a geir o’r gost adeiladu yn y dogfennau newydd, gan gynnwys £45 miliwn ar gyfer gwaith ar yr amgylchedd a'r dirwedd, mae'r gwerthusiad economaidd yn amcangyfrif mai cyfanswm y gost fydd £1.131 biliwn, heb gynnwys TAW a chwyddiant. Yn dibynnu ar yr ymatebion i'r datganiad amgylcheddol a'r gorchmynion drafft, bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus, yn ôl pob tebyg yn ystod hydref neu aeaf 2017. Yn dibynnu wedyn ar adroddiad yr ymchwiliad hwnnw, byddai'n rhaid i’r Llywodraeth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen. Pe bai’n gwneud hynny, ac oni bai bod her gyfreithiol i’r cynllun, gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn ystod gwanwyn 2018, gyda'r ffordd yn agor yn hydref 2021. Ffynonellau allweddol- CBI Cymru, Cynllun ar gyfer ffyniant (2015)
- Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, M4 relief road consultation response (PDF 628 KB) (Saesneg yn unig) (2013)
- Llywodraeth Cymru, Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd (gwefan)
- Llywodraeth Cymru, gwybodaeth amgylcheddol ffordd liniaru'r M4 (gwefan)
- Llywodraeth Cymru, gorchmynion drafft yr M4 (gwefan)
- Llywodraeth Cymru, adroddiadau cysylltiedig â'r M4 (gwefan)
- Sefydliad Materion Cymreig, The Blue Route (PDF 724 KB) (Saesneg yn unig) (2013)
- Siambr Fasnach De Cymru, Campaign for Welsh Business 2015-2020 (PDF 1522 KB) (Saesneg yn unig) (2014)