Fframweithiau cyffredin yw cytundebau rhwng y DU a llywodraethau datganoledig ar sut i reoli ymwahanu mewn rhai meysydd polisi a arferai gael eu llywodraethu neu eu cydlynu ar lefel yr UE.
Mae gan Lywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig gynlluniau ar gyfer 26 fframwaith cyffredin mewn meysydd sydd wedi’u datganoli i Gymru, fel diogelwch bwyd, ansawdd aer, gwastraff ac iechyd y cyhoedd. Daeth y rhan fwyaf o fframweithiau cyffredin i rym dros dro ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit ar 31 Rhagfyr 2020.
Ym mis Rhagfyr 2021, gwnaethom ofyn ai fframweithiau cyffredin oedd y darn olaf ar gyfer mynd i’r afael â’r pos cyfansoddiadol o sut i reoli ymwahanu yn y DU ar ôl Brexit. Flwyddyn a hanner yn ddiweddarach, maent yn parhau i fod heb eu gorffen a’r fframweithiau terfynol eto i’w cytuno.
Mae Pwyllgorau’r Senedd wedi bod yn craffu ar fframweithiau dros dro ac wedi gwneud nifer o argymhellion ar sut y gellid eu gwella cyn iddynt gael eu cwblhau.
Bydd dadl ar adroddiad gan Bwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd ar y rhaglen fframweithiau cyffredin yn cael ei chynnal ar 12 Gorffennaf. Mae’r erthygl hon yn edrych ar y stori hyd yma a phenodau coll yn y stori.
Pam bod fframweithiau cyffredin yn cael eu datblygu?
Ar ôl i’r DU adael yr UE, gall Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig fabwysiadu dulliau gweithredu gwahanol mewn meysydd polisi a gafodd eu llywodraethu neu eu cydlynu yn flaenorol ar lefel yr UE.
Yn 2017, penderfynodd pedair llywodraeth y DU y byddent yn cyd-ddylunio fframweithiau cyffredin i reoli’r potensial hwn ar gyfer ymwahanu mewn meysydd lle gallai achosi aflonyddwch neu lle byddai cydgysylltu yn fuddiol. Mae ein herthygl ar eu datblygiad yn rhoi mwy o wybodaeth am eu tarddiad a’u pwrpas.
Pam bod y fframweithiau hyn yn bwysig a pham y dylai pobl yng Nghymru gymryd sylw?
Mae Fframweithiau Cyffredin yn bwysig oherwydd bod y pedair llywodraeth wedi cytuno y dylai penderfyniadau gan un llywodraeth i ymwahanu neu ddatblygu polisïau neu gyfreithiau newydd fynd drwy’r broses fframweithiau ac y dylai llywodraethau eraill gael cyfleoedd i ddefnyddio proses datrys anghydfod os ydynt yn gwrthwynebu neu’n anghytuno. Gallai hyn gael effaith ymarferol ar y prosesau ar gyfer datblygu cyfreithiau a pholisïau newydd a rôl deddfwrfeydd a rhanddeiliaid ynddynt.
Gall unrhyw un o’r pedair llywodraeth ofyn i Lywodraeth y DU eithrio maes a gwmpesir gan fframwaith cyffredin o gwmpas Deddf Marchnad Fewnol y DU. Mae cyfraith Cymru sy'n gwahardd gwerthu rhai plastigion untro yn un enghraifft o gyfraith sy’n dod o fewn eithriad o’r fath. Mae ein herthygl ar gynllun yr Alban ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes yn enghraifft arall o pam mae’r agwedd hon ar fframweithiau yn arwyddocaol.
Mae'r fframweithiau hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd i gyfranogiad y llywodraethau datganoledig mewn materion rhyngwladol, er bod y Prif Weinidog wedi dweud nad yw’r uchelgeisiau hyn wedi eu gwireddu eto. Mae’r cyfleoedd hyn yn cynnwys gweithredu cytundebau rhwng y DU a’r UE.
Yn ôl y Cwnsler Cyffredinol:
Common Frameworks have the potential to be enduring, flexible and increasingly significant governance mechanisms for the policy areas previously governed by EU law. They can help facilitate policy alignment and manage regulatory divergence amongst the four governments.
Beth yw rôl y Senedd?
Cytunodd pedair llywodraeth y DU y byddai gan ddeddfwrfeydd y DU gyfle i graffu ar fersiynau drafft y fframweithiau ac i wneud argymhellion cyn i’r fersiwn derfynol gael ei chwblhau.
Mae’r pedair deddfwrfa yn y DU wedi cyflawni’r dasg hon mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, sefydlodd Tŷ’r Arglwyddi bwyllgor newydd. Yng Nghymru, mae pwyllgorau pwnc unigol wedi ystyried fframweithiau yn eu meysydd yn fanwl tra bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi goruchwylio datblygiad y rhaglen gyffredinol a’r materion trawsbynciol sy’n deillio ohoni.
Beth mae Pwyllgorau'r Senedd wedi'i ddweud?
Mae Pwyllgorau’r Senedd ar y cyd wedi gwneud dros 100 o argymhellion ar sut y gellid gwella'r fframweithiau. Mae’r rhain yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion, o ymgysylltu â rhanddeiliaid i argymhellion penodol a manwl am gynnwys eu polisi.
Yn ei adroddiad, mae’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi dwyn ynghyd y materion allweddol o waith y pwyllgorau pwnc. Mae’n dod i’r casgliad, ymhlith pethau eraill, y dylai Llywodraeth Cymru:
- Egluro sut y bydd yn sicrhau na fydd fframweithiau cyffredin yn cyfyngu ar rôl Llywodraeth Cymru, y Senedd, na rhanddeiliaid yng Nghymru wrth ddeddfu a llunio polisïau.
- Sicrhau bod pob fframwaith cyffredin yn nodi'n glir pryd a sut y bydd rhanddeiliaid yn cyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau.
- Sicrhau bod adroddiadau rheolaidd i’r Senedd ar weithredu pob fframwaith.
- Sicrhau bod fframweithiau cyffredin yn cynnwys cyfeiriad at Ddeddf Marchnad Fewnol y DU a’r broses eithriadau.
- Sicrhau bod fframweithiau cyffredin yn cael eu diwygio i gynnwys manylion am sut y bydd llywodraethau’r DU yn cydweithio ar rwymedigaethau a pholisi rhyngwladol.
Gallwch ddarllen mwy am yr hyn y mae pwyllgorau wedi'i ddweud am fframweithiau unigol ar dudalennau fframwaith cyffredin y Senedd ac am y fframweithiau eu hunain yn ein dogfennau briffio.
Pam nad ydynt wedi’u gorffen a beth sy’n digwydd nesaf?
I ddechrau, roedd oedi gyda’r fframweithiau cyffredin oherwydd anghytundebau rhwng y pedair llywodraeth ar faterion trawsbynciol fel materion rhyngwladol a Deddf Marchnad Fewnol y DU. Yn fwy diweddar, bu oedi pellach oherwydd absenoldeb Gweithrediaeth yng Ngogledd Iwerddon er mwyn trafod â nhw ac absenoldeb Cynulliad i graffu arnynt.
Er gwaethaf hyn, mae mwyafrif y fframweithiau ar waith dros dro. Mae’n ymddangos bod llywodraethau’n defnyddio’r strwythurau newydd i wneud penderfyniadau allweddol ar bolisi a chytuno ar ddulliau ar gyfer deddfau newydd mewn meysydd fel gwastraff.
Mae pedair llywodraeth y DU wedi dweud na fyddant yn ymateb yn unigol i argymhellion a wnaed gan y deddfwrfeydd. Yn hytrach, byddant yn adolygu'r argymhellion a wneir ar y cyd cyn iddynt drafod, cytuno ar unrhyw newidiadau ac ymateb i bwyllgorau. Mae hyn yn gadael cyfnod sylweddol posibl o amser lle mae penodau olaf y fframweithiau yn dal heb eu hysgrifennu.
Mae’r pedair llywodraeth wedi cytuno i adrodd yn flynyddol ar sut mae fframweithiau’n gweithredu a'r penderfyniadau a wneir drwyddynt unwaith y bydd yr holl fframweithiau wedi'u cwblhau. Yn y cyfamser, mae penderfyniadau pwysig yn cael eu gwneud heb i lywodraethau orfod dweud wrth ddinasyddion a deddfwrfeydd beth ydynt.
Mae hyn yn gwneud gwaith Pwyllgorau’r Senedd a dadleuon, fel yr un ar 12 Gorffennaf, yn bwysicach fyth. Gallwch ddilyn y ddadl yn fyw ar Senedd.tv.
Erthygl gan Nia Moss Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru