Llun agos o ddau berson yn rhoi darnau o bapur mewn blwch pleidleisio

Llun agos o ddau berson yn rhoi darnau o bapur mewn blwch pleidleisio

Golwg agosach ar ganlyniadau etholiad cyffredinol y DU yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/09/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 4 Gorffennaf 2024, aeth pobl ledled y DU i'r polau i bleidleisio mewn etholiad cyffredinol. Y canlyniad oedd mwyafrif mawr yn y DU i'r Blaid Lafur, a enillodd 411 o’r 650 o seddi.

Yng Nghymru, enillodd Llafur 27 o’r 32 o seddi. Enillodd Plaid Cymru 4 sedd, ac enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol 1.

Mae'r erthygl hon yn edrych ar y canlyniadau yng Nghymru mewn mwy o fanylder, gan ganolbwyntio ar ganrannau pleidleisiau a'r nifer a bleidleisiodd, yn ogystal ag edrych yn agosach ar berfformiad pob plaid.

Seddi a enillwyd

Ffigur 1: Nifer y seddi a enillwyd yn ôl plaid

Siart bar wedi'i liwio yn lliwiau'r pleidiau sy'n dangos bod Llafur wedi ennill 27 sedd, Plaid Cymru 4, a'r Democratiaid Rhyddfrydol 1.

 

Ffynhonnell: BBC

Enillodd Llafur y mwyafrif helaeth (84 y cant) o’r seddi yng Nghymru. Am y tro cyntaf ers 2001, ni enillodd y Ceidwadwyr unrhyw seddi.

Nid oes modd gwneud cymhariaeth uniongyrchol â nifer y seddi a enillwyd yn 2019, oherwydd yn yr etholiad hwnnw etholodd Cymru 40 AS (yn hytrach na 32 y tro hwn).

Digwyddodd y gostyngiad hwn mewn ASau ar ôl i’r Comisiwn Ffiniau i Gymru gynnal adolygiad o etholaethau seneddol, yn unol â gofyniad newydd i wneud maint etholaethau (ac eithrio'r 'etholaeth warchodedig' Ynys Môn) yr un maint (fwy neu lai). Yr etholiad ar 4 Gorffennaf oedd y tro cyntaf i'r etholaethau newydd hyn fod ar waith.

Ffigur 2: Seddi a enillwyd yn ôl plaid ers 2015

Graff llinell wedi ei liwio mewn lliwiau’r pleidiau sy’n dangos cyfanswm y seddi mae’r pedair prif blaid yng Nghymru wedi’u hennill ers 2015.

 

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin 2015 / Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin 2017 / Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin 2019 / Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin 2024

Mae'r siart yn dangos bod Llafur wedi ennill mwyafrif o’r seddi sydd ar gael yng Nghymru yn etholiadau cyffredinol y DU yn gyson. Y Ceidwadwyr sydd wedi gweld y newidiadau mwyaf o ran nifer y seddi; yn yr etholiad hwn, collodd y blaid bob un o’r 14 o seddi a enillwyd yn 2019.

Er bod gostyngiad yn nifer y seddi cyffredinol yng Nghymru, enillodd Llafur 5 sedd yn fwy nag yn 2019, ac enillodd Plaid Cymru yr un nifer o seddi ag yn y ddau etholiad blaenorol. Enillodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu sedd gyntaf mewn etholiad cyffredinol ers 2015 (enillodd Jane Dodds Isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed yn 2019).

Mapio’r canlyniadau

O gymryd y canlyniadau uchod, dyma sut olwg sydd ar fap etholaethol Cymru ar ôl yr etholiad.

Ffigur 3: Map Etholaethau Cymru 2024

Map o etholaethau Cymru, gydag etholaethau wedi eu lliwio yn seiliedig ar ba Blaid enillodd y sedd honno.

 

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin

Gan fod etholiadau cyffredinol y DU yn defnyddio a system etholiadol y Cyntaf i'r Felin, etholir un AS fesul etholaeth. Fodd bynnag, gall ystyried pa blaid ddaeth yn ail helpu i roi darlun manylach o sut y pleidleisiodd pobl.

Ffigur 4: Etholaethau wedi'u lliwio yn ôl y blaid a ddaeth yn ail

Map o etholaethau Cymru, gydag etholaethau wedi eu lliwio yn ôl pa Blaid ddaeth yn ail yn yr etholaeth honno. Mae llawer o gymoedd de Cymru yn las golau (Reform UK). Mae 10 sedd wedi eu lliwio mewn glas y Ceidwadwyr.

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin

Er na enillodd y blaid sedd, daeth Reform UK yn ail mewn 13 etholaeth, gan gynnwys nifer sylweddol o seddi yng nghymoedd y de.

Daeth y Ceidwadwyr yn ail mewn 10 sedd, tra daeth Plaid Cymru yn ail mewn 4. Gorffennodd Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail mewn 2 sedd, a’r Blaid Werdd oedd yr heriwr agosaf mewn 1 etholaeth: De Caerdydd a Phenarth.

Mae'n werth nodi bod y canlyniadau yn agos rhwng yr ail, y drydedd, ac weithiau'r bedwaredd blaid mewn sawl etholaeth, ac nad yw'r canlyniadau agos hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y map uchod.

Pleidleisiau a fwriwyd

Ffigur 5: Cyfran y pleidleisiau a chyfanswm y pleidleisiau fesul plaid

Siart yn dangos y gyfran o’r bleidlais ar gyfer pob plaid, yn ogystal â’r newid canrannol ers 2019 a chyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd i’r blaid honno.

 

Ffynhonnell: BBC

Tra bod Llafur wedi ennill y mwyafrif o’r seddi yng Nghymru, disgynnodd eu cyfran gyffredinol o’r bleidlais 3.9 y cant o’i chymharu â 2019.

Gwelodd y Ceidwadwyr ostyngiad sylweddol yn eu cyfran o’r bleidlais, sef gostyngiad o 17.9 y cant o’i chymharu â 2019. Er na lwyddodd Reform UK i ennill sedd, daeth y blaid yn drydydd o ran cyfanswm y pleidleisiau a gafwyd, y tu ôl i Lafur a’r Ceidwadwyr.

Cafodd Plaid Cymru ei chyfran uchaf erioed o’r bleidlais mewn etholiad cyffredinol, gan ennill 14.8 y cant o’r bleidlais.

Ffigur 6: Cyfran o’r bleidlais yn ôl plaid ers 2015

Graff llinell wedi’i liwio mewn lliwiau’r pleidiau sy’n dangos y gyfran o’r bleidlais a enillwyd gan bleidiau yng Nghymru ers 2015.

 

Ffynhonnell: BBC 2015 / BBC 2017 / BBC 2019 / BBC 2024

Mae’r siart uchod yn dangos mai Llafur sydd wedi ennill y nifer uchaf o bleidleisiau a fwriwyd yng Nghymru yn gyson mewn etholiadau cyffredinol. Cafwyd lleihad yn y bwlch rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn etholiad 2019. Fodd bynnag, gyda’r Ceidwadwyr yn colli 17.9 y cant o’i cyfran o’r bleidlais yn yr etholiad hwn, mae’r bwlch wedi cynyddu eto.

Mae’n werth nodi hefyd y gostyngiad yng nghyfran pleidlais UKIP a’r cynnydd dilynol ym Mhlaid Brexit / Reform UK. Dim ond 1 ymgeisydd UKIP a safodd yng Nghymru yn yr etholiad hwn, yn Llanelli.

Mwyafrifoedd

Ffigur 7: Maint y mwyafrif ar gyfer pob etholaeth, wedi'u trefnu o'r mwyaf i'r lleiaf

Siart bar wedi'i liwio mewn lliwiau’r pleidiau sy'n dangos maint y mwyafrif ar gyfer pob etholaeth. Mae wedi’i threfnu o'r mwyaf ar y chwith i'r lleiaf ar y dde.

 

Ffynhonnell: BBC

Enillodd Plaid Cymru gyda'r ddau fwyafrif mwyaf, yn Nwyfor Meirionydd a Cheredigion Preseli (15,876 a 14,789 o bleidleisiau, yn y drefn honno). Y mwyafrif mwyaf nesaf oedd Blaenau Gwent a Rhymni, a enillodd Llafur gyda mwyafrif o 12,183 o bleidleisiau.

Enillodd Plaid Cymru hefyd y sedd â’r mwyafrif lleiaf – Ynys Môn (637 o bleidleisiau). Mae ennill Ynys Môn gyda mwyafrif mawr wedi bod yn beth prin yn y blynyddoedd diwethaf; mae tair plaid wahanol wedi ennill yn yr etholaeth yn y tri etholiad diwethaf.

Y mwyafrif lleiaf ond un oedd buddugoliaeth Llafur yng Ngogledd Clwyd, sef 1,196 o bleidleisiau, a’r lleiaf ar ôl hynny oedd yr unig sedd a enillwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol, Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe, gyda 1,472 o bleidleisiau.

Y ganran a bleidleisiodd

Ar lefel y DU a Chymru, gwelwyd lleihad yn y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol hwn. Roedd y gostyngiad yng Nghymru yn fwy, o 67 y cant i 56 y cant.

Dyma’r Etholiad Cyffredinol cyntaf yn y DU lle roedd yn ofynnol i bleidleiswyr ddod â dogfen adnabod ffotograffig wrth bleidleisio. Ystyriodd ein herthygl ar etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2024 ddadleuon ynghylch cyflwyno gofyniad i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod ac effaith bosibl hynny ar y nifer fyddai’n pleidleisio.

Ffigur 8: Y nifer a bleidleisiodd mewn etholiadau cyffredinol yng Nghymru

Graff llinell sy’n dangos y nifer a bleidleisiodd mewn etholiadau cyffredinol yng Nghymru a’r DU ers 2015.

 

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin 2015 / Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin 2017 / Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin 2019 / BBC

Mae ystyried y nifer a bleidleisiodd ar lefelau etholaethau unigol yn datgelu rhai patrymau diddorol.

Ffigur 9: Y nifer a bleidleisiodd ym mhob etholaeth, wedi'u trefnu o'r uchaf i'r isaf

Siart bar wedi'i liwio mewn lliwiau’r pleidiau sy'n dangos y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad cyffredinol hwn fesul etholaeth. Mae'n wedi’i threfnu o'r etholaethau â’r nifer uchaf yn pleidleisio ar y dde i'r isaf ar y chwith.

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin

Er bod ffiniau etholaethau wedi newid rhywfaint, Sir Fynwy (Mynwy gynt), Gogledd Caerdydd, ac Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe (Brycheiniog a Sir Faesyfed gynt) fu'r tair etholaeth â'r lefelau pleidleisio uchaf yn etholiadau cyffredinol 2015, 2017, a 2019.

Mae Merthyr Tudful ac Aberdâr (Merthyr Tudful a Rhymni gynt) yn gyson yn y tri isaf mewn etholiadau cyffredinol diweddar (yn 2005, 2010, 2015, 2017 a 2019) o ran y nifer a bleidleisiodd.


Erthygl gan Adam Cooke, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru