Yr wythnos nesaf bydd yr Aelodau'n trafod adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn dilyn ei ymchwiliad i wasanaethau rheilffyrdd a’r craffu blynyddol ar waith Trafnidiaeth Cymru. Dyma rai pwyntiau allweddol cyn y ddadl:
- O ran perfformiad corfforaethol, croesawodd y Pwyllgor gamau Trafnidiaeth Cymru i gau’r bwlch cyflog rhywedd a hybu amrywiaeth yn y gweithlu Ond dywedodd fod diffyg cynnydd tuag at ei argymhellion o 2022 i wella tryloywder proses gyllideb Trafnidiaeth Cymru.
- O ran gwasanaethau rheilffyrdd, clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Transport Focus, Railfuture Wales a Community Rail. Hefyd, holodd Drafnidiaeth Cymru ynghylch materion megis peidio â chyflawni ymrwymiadau masnachfraint, y cyllid ychwanegol sydd ei angen i gynnal gwasanaethau, a gorwario ar brosiect Metro De Cymru.
- Cydnabu’r Pwyllgor y ffaith bod y cyfnod hwn yn un heriol i Drafnidiaeth Cymru o ran adnewyddu cerbydau a phrosiect moderneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd (CVL) sy’n mynd rhagddo, ond daeth i'r casgliad “nad yw perfformiad Trafnidiaeth Cymru yn ddigon da”.
- Dywedodd hefyd fod y ddarpariaeth rheilffyrdd ar gyfer digwyddiadau mawr, yn syml, “yn annigonol”. Gwnaeth y Pwyllgor gyfanswm o 21 o argymhellion i Drafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru.
- Ysgrifennodd y Pwyllgor hefyd at Archwilydd Cyffredinol Cymru yn gynharach y mis hwn yn galw am adolygiad o’r modd y darperir gwasanaethau rheilffyrdd ac adolygiad gwerth am arian o brosiect moderneiddio CVL.
- Derbyniodd Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru bob un o argymhellion y Pwyllgor naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.
Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar Senedd TV ddydd Mercher 3 Gorffennaf.
Pigion gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru