Gyda’r ail amrediad llanw uchaf yn y byd, ac arfordir sy’n wynebu’r Iwerydd sy’n darparu hinsawdd gwynt a thonnau ynni uchel, mae Cymru mewn sefyllfa dda i wneud y gorau o’r amgylchedd morol ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio’r sector ynni, gan gyflymu’r gwaith o ddatblygu ynni adnewyddadwy, a chyflawni sero net erbyn 2050. Mae wedi gosod targed i gyrraedd 70% o alw Cymru am drydan o ffynonellau trydan adnewyddadwy Cymru erbyn 2030. Mae hefyd wedi ymrwymo i gefnogi arloesedd mewn ynni adnewyddadwy newydd.
I nodi dechrau 'Cynhadledd y Rhanbarthau Morol Ymylol’ (CPMR), y mae'r Senedd yn ei chynnal, mae’r erthygl hon yn edrych ar yr hyn y mae ymrwymiadau Llywodraeth Cymru yn ei olygu i dechnolegau adnewyddadwy morol ym moroedd Cymru.
Ynni’r llanw: ddwywaith y dydd, bob dydd
Mae dau fath o ynni llanw; amrediad llanw a ffrwd llanw. Mae technolegau amrediad llanw yn harneisio'r ynni potensial a grëir gan y gwahaniaeth rhwng llanw isel ac uchel. Yn gyffredinol, maent yn cynnwys adeiladu morlynnoedd neu forgloddiau ar raddfa fawr sy'n dal ac yna'n rhyddhau'r llanw sy’n dod i mewn, fel y cynllun braenaru a gynigiwyd yn flaenorol ar gyfer morlyn llanw ym Mae Abertawe. Mae prosiectau sydd wedi'u cynllunio ar hyn o bryd yn cynnwys Eden Las yn Abertawe, Ynni Llanw Gogledd Cymru, a Phorthladd Mostyn.
Mae technolegau ffrwd llanw yn harneisio egni cinetig cerrynt i bweru tyrbinau. Mae prosiectau cyfredol yn cynnwys prosiect Minesto yn Nyfnder Caergybi, sef y prosiect ynni llanw cyflymder isel cyntaf yn y byd.
Erbyn 2024, dywed Llywodraeth Cymru y bydd yn datblygu ‘Her Morlyn Llanw’:
…gan roi tystiolaeth gadarn ar ddichonoldeb y dechnoleg a'r potensial i gefnogi prosiect yn nyfroedd Cymru a all ddangos cynaliadwyedd amgylcheddol yn unol ag amcanion a pholisïau Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar mai ei uchelgais “yw gwneud Cymru’n ganolfan i’r byd ar gyfer technoleg y llanw.”, ochr yn ochr â chyllid o £750,000 i gefnogi o leiaf dri phrosiect ymchwil morlyn llanw. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yr ymchwil yn mynd i’r afael â rhwystrau sy’n arafu datblygiad y dechnoleg, yn ogystal â rhoi cipolwg ar y manteision posib.
Ynni gwynt ar y môr
Mae gwynt ar y môr yn dechnoleg ynni adnewyddadwy sefydledig a phrofedig. Mae tair fferm wynt weithredol ar y môr oddi ar arfordir Gogledd Cymru: Gwynt y Môr, Gwastadeddau’r Rhyl a North Hoyle. Fodd bynnag, mae'r ffermydd gwynt ar y môr ‘sylfaen sefydlog’ hyn wedi’u cyfyngu i ddyfnderoedd dŵr o 60m.
O’r herwydd, mae ffocws wedi troi at ddatblygu technolegau gwynt ar y môr arnofiol (FLOW), sy’n cyfuno'r dechnoleg llwyfan a ddefnyddir yn y diwydiant olew a nwy, a thyrbinau gwynt. Mae hyn yn golygu y gall tyrbinau gwynt symud i ddyfroedd dyfnach lle mae cyflymder y gwynt yn uwch a chael llai o effaith weledol.
Mae tyrbinau FLOW wedi'u cynllunio i fod yn dalach na thechnolegau sefydlog traddodiadol, gan ganiatáu iddynt fanteisio ar y gwyntoedd cryfaf ar uchderau uwch. Mae’r tyrbin mwyaf mewn cynhyrchiad yn 265m, sydd ddwywaith uchder y London Eye!
Dywed Ynni Morol Cymru, sy’n cynrychioli’r diwydiant ynni morol yng Nghymru, “gwynt ar y môr fydd asgwrn cefn ein system ynni yn y dyfodol”, a bydd angen “100GW o gapasiti gosodedig erbyn 2050”.
FLOW yn y Môr Celtaidd
Mae’r Môr Celtaidd, sef yr ardal rhwng de Cymru, Iwerddon a Chernyw, yn anhygoel o wyntog, ond yn rhy ddwfn ar gyfer tyrbinau gwaelod sefydlog traddodiadol. Mae Ynni Morol Cymru yn hwyluso’r gwaith o ddatblygu FLOW yn y Môr Celtaidd, gan ddweud y gall ddarparu 24GW o ynni a miloedd o swyddi.
Mae Llywodraeth y DU am ddatblygu 5GW o FLOW erbyn 2030 fel rhan o Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain. Mae Ynni Morol Cymru yn amlygu y dylai datblygiad FLOW fod yn “gyflym” i gyflawni uchelgeisiau sero net, tra’n lleihau effaith amgylcheddol a sicrhau’r budd lleol mwyaf posibl. O’r herwydd, mae Ystad y Goron (mwy am hyn isod) wedi cynnig cyfleoedd prydlesu yn y Môr Celtaidd ar gyfer prosiectau FLOW, y gellir eu datblygu cam wrth gam. Mae’n dweud bod y dull hwn yn cydnabod yr angen i ddatblygu cadwyn gyflenwi’r DU a seilwaith ategol, ac yn darparu cyfleoedd ar gyfer twf a buddsoddiad.
Mae Ystad y Goron wedi nodi ‘Ardaloedd Chwilio’ eang ar gyfer cyfle FLOW posibl, a’u crynhoi ‘Ardaloedd Chwilio’ wedi’u mireinio wrth i ddata ddod ar gael. Mae hefyd wedi buddsoddi mewn arolygon morol, a sicrhau bod data ar gael i gynigwyr llwyddiannus i gyflymu’r broses o gyflawni prosiectau.
Mae Ynni Morol Cymru yn nodi camau y dull ‘cam wrth gam’ yn y Môr Celtaidd:
- Tri phrosiect graddfa 100MW ar wahân a phrosiectau arddangos wedi’u cyflawni gan Blue Gem Wind, Floventis a Flotation Energy. Bydd y rhain yn cael eu defnyddio mewn parthau arddangos yn nes at y lan;
- Pedwar datblygiad ar wahân ar raddfa 1GW wedi’u cynllunio erbyn 2035 Dechrau 30km o'r lan o fewn pum maes eang, a fydd angen 250 o dyrbinau arnofiol a phweru pedair miliwn o gartrefi;
- 24GW o ynni glân wedi’i gyflenwi erbyn 2035.
Lleihau effaith amgylcheddol
Mae grwpiau amgylcheddol wedi mynegi pryderon ers tro y gallai tyrbinau gwynt mewn lleoliad amhriodol gael effaith ar adar trwy wrthdaro, aflonyddwch neu ddifrod i gynefin. Mae’r RSPB yn cydnabod y risg i natur o’r argyfwng hinsawdd, gan gynnwys nifer yr achosion o osodiadau ynni adnewyddadwy, ac yn dweud:
Rhaid inni sicrhau bod ein gwaith o drawsnewid ynni yn cael ei ddatblygu law yn llaw â mesurau i warchod natur.
Gall ffermydd gwynt ar y môr gael effaith ehangach ar natur, gan gynnwys ar famaliaid morol, ecoleg gwely’r môr, pysgod, yn ogystal ag effeithiau gweledol. Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru a RSPB y gellir osgoi/lleihau'r effeithiau hyn trwy gynllunio a lleoli datblygiadau’n ofalus.
Mae’r RSPB yn awgrymu bod gan FLOW fanteision amgylcheddol dros ffermydd gwynt sylfaen sefydlog. Dywed y gall FLOW fanteisio ar ardaloedd sydd i ffwrdd o nythfeydd adar môr sy'n magu (sydd fel arfer yn agosach at y lan) ac ardaloedd porthi bas. Mae’r RSPB yn awgrymu y gallai effeithiau seilwaith is ar wely'r môr hefyd leihau'r effeithiau ar fywyd gwyllt morol.
Gwneud y mwyaf o’r manteision i Gymru
Dywed y bydd Ystad y Goron yn elwa’n ariannol yn sgil Cymru yn cynnal ynni adnewyddadwy morol, gan ei fod yn rhoi’r hawl i ddefnyddio gwely’r môr drwy broses brydlesu. Mae ein herthygl pwy sy'n berchen ar wely'r môr, a pham mae’n bwysig, yn archwilio rôl Ystâd y Goron wrth ddatblygu ynni adnewyddadwy morol Cymru.
Mae elw Ystad y Goron yn mynd i’r Trysorlys, ond caiff hefyd ei ddefnyddio fel meincnod ar gyfer lefel y cyllid cyhoeddus ar gyfer y Teulu Brenhinol, a elwir yn Grant Sofran – sydd ar hyn o bryd yn 25% o elw Ystad y Goron (cynnydd o 10% ar y 15% arferol i ariannu’r gwaith o adnewyddu Palas Buckingham). Yn gynharach eleni nodwyd bod elw wedi cynyddu £1 biliwn y flwyddyn am o leiaf tair blynedd, oherwydd cytundebau prydles ar gyfer ynni gwynt ar y môr (DU gyfan).
O ganlyniad i brydlesu gwynt ar y môr blaenorol (nad yw’n FLOW), mae Ystad y Goron yn adrodd bod gwerth ei bortffolio morol [adnewyddadwy] yng Nghymru wedi cynyddu o £49.2 miliwn o 1 Ebrill 2020, i £549.1 miliwn ar 31 Mawrth 2021. Nid yw Ystad y Goron wedi adrodd ar y gwerthoedd hyn yn ei adroddiad diweddaraf.
Mae’r cytundeb cydweithio yn nodi eu bod yn cefnogi “datganoli pwerau ac adnoddau pellach y mae ar Gymru eu hangen i ymateb yn fwyaf effeithiol i gyrraedd sero net, yn benodol rheolaeth dros Ystad y Goron a’i hasedau yng Nghymru”. Fodd bynnag, mae’r Prif Weinidog wedi tynnu sylw bod unrhyw benderfyniad i ddatganoli Ystâd y Goron yn un i Lywodraeth y DU, a bod yr awydd am ragor o ddatganoli yn y maes hwnnw’n eithaf cyfyngedig.
Mae cynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yn bwysicach fyth os yw Cymru am gyflawni ei huchelgeisiau sero net, ac mae’n amlwg y gall ynni adnewyddadwy morol chwarae rhan hanfodol yn ein system ynni yn y dyfodol.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru