Mae pandemig COVID-19 yn parhau i godi materion mawr yn ymwneud â hawliau plant yng Nghymru. Mae enghreifftiau clir o sut mae hyn yn digwydd yn cynnwys cwestiynau fel:
- Beth mae'r rheolau’n ei ddweud os yw plentyn 12-15 oed eisiau cael brechlyn COVID-19, ond nid yw ei rieni am iddo ei gael?
- A oedd digon o ffocws ar hawliau plant i'w haddysg pan oedd penderfyniadau’n cael eu gwneud ynghylch cau safleoedd ysgolion fel rhan o fesurau i atal y feirws rhag lledaenu?
- A fydd plant a phobl ifanc wedi cael eu cyfran deg o’r £811 miliwn o gyllid COVID gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2021-22, sy'n cael ei ddyrannu wrth i'r gofynion godi?
Prif nod Comisiynydd Plant Cymru yw diogelu a hybu hawliau a lles plant. Yn ei Hadroddiad Blynyddol olaf fel Comisiynydd, mae Sally Holland yn rhoi ei dyfarniad ynghylch yr hyn yr oedd 2020-21 yn ei olygu i hawliau plant yng Nghymru. Mae hefyd yn ymchwilio i weld a yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon.
Rhai o'r prif faterion y mae Sally Holland yn siarad amdanynt yw:
- yr heriau hirsefydlog y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu i gael y cymorth iechyd meddwl cywir pan fydd ei angen arnynt;
- sicrhau nad yw plant y mae eu rhieni'n dewis eu haddysgu gartref yn mynd o dan y radar; ac
- ei phryderon ynghylch gwneud elw o ofal cymdeithasol plant.
Bydd Aelodau o’r Senedd yn cael dweud eu dweud ar y materion hyn a’r amrywiaeth eang o faterion eraill yn yr adroddiad pan gaiff ei drafod ddydd Mawrth nesaf (12 Hydref).
Pa hawliau sydd gan blant yng Nghymru?
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yn cynnwys 54 erthygl. Mae'r rhain yn pennu amrywiaeth eang o hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 mlwydd oed, gan gynnwys yr hawl i ddiogelwch, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden. Mae'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn golygu bod angen i Weinidogion Cymru roi 'sylw dyledus' i CCUHP ym mhopeth a wnânt.
Hawl plant a phobl ifanc i gael eu clywed
O dan CCUHP, mae gan blant yr hawl i fynegi eu barn am bethau sy'n effeithio arnynt ac i’w barn gael ystyriaeth pan wneir penderfyniadau. Un o brif flaenoriaethau'r Comisiynydd pan ddechreuodd y pandemig oedd “gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn cael gwrandawiad”. Mae ei Hadroddiad Blynyddol yn cyfeirio at y 44,000 o blant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru a gymerodd ran yn arolygon “Coronafeirws a Ni” Swyddfa'r Comisiynydd.
Cyhoeddwyd canlyniadau Coronafeirws a Fi ym mis Mai 2020. Cymerodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc rhwng 3 a 18 oed ran yn yr arolwg. Y tri ymateb mwyaf cyffredin gan blant 12-18 oed i effaith Covid oedd:
- methu â threulio amser gyda ffrindiau;
- methu ymweld ag aelodau'r teulu; a
- ysgolion a cholegau yn cau.
Cafodd yr arolwg Covid dilynol o 20,000 o blant ym mis Ionawr 2021 yr un tri ymateb uchaf ag arolwg 2020. Tair prif flaenoriaeth plant a phobl ifanc oedd:
- cymorth i wneud ichi deimlo'n hapus ac yn iach;
- cymorth i wneud gwaith ysgol; a
- rhagor o wybodaeth am bethau i'w gwneud pan fyddwch yn aros gartref.
Comisiynydd Plant newydd
Er mai hwn yw Adroddiad Blynyddol olaf Sally Holland ar ôl bron i saith mlynedd fel Comisiynydd, dadl ddydd Mawrth fydd y tro cyntaf i'r Chweched Senedd ystyried barn Comisiynydd Plant ar gynnydd hawliau plant yng Nghymru.
Bydd yr Aelodau hefyd yn cadw llygad ar bwy fydd yn cael ei benodi'n olynydd iddi. Gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pumed Senedd y dylid trosglwyddo cyfrifoldeb am benodi, atebolrwydd ac ariannu Comisiynydd Plant Cymru o Lywodraeth Cymru i'r Senedd ar y cyfle cyntaf.
Gallwch wylio Aelodau o'r Senedd yn trafod hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru ar Senedd TV prynhawn dydd Mawrth 12 Hydref.
Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru