Mae'r erthygl hon yn rhoi ychydig o gefndir i'r ddadl ar ddeiseb ynglŷn â chau ysgolion gwledig, a gynhelir yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 21 Tachwedd.
Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion newydd (ail argraffiad, 2018), a ddaeth i rym ar 1 Tachwedd 2018, yn sefydlu 'rhagdybiaeth yn erbyn cau' ysgolion gwledig. Mae'r Cod newydd yn cynnwys rhestr o ysgolion y nodwyd eu bod yn ysgolion 'gwledig' at y diben hwn. Mae 218 o ysgolion wedi'u rhestru yn Atodiad F o'r ddogfen.
Mae'r Cod Trefniadaeth Ysgolion yn nodi'r broses y mae'n rhaid i awdurdodau lleol (neu gyrff llywodraethu yn achos ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol) ei dilyn wrth ystyried cyfuno neu gau ysgolion ac mae'n is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
Mae'r adran berthnasol o'r Cod newydd (adran 1.8) yn nodi bod yn rhaid dilyn 'cyfres o weithdrefnau a gofynion manylach' wrth gynnig cau ysgol wledig.
Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi nodi:
Nid yw rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu na fyddant byth yn cau. Fodd bynnag, rhaid i’r achos dros gau fod yn gryf ac ni ddylid gwneud y penderfyniad i gau ysgol hyd nes i bob opsiwn arall gael ei ystyried yn gydwybodol, gan gynnwys ffedereiddio.
Y ddeiseb o dan drafodaeth
Mae'r ddeiseb sydd i'w thrafod gan y Cynulliad yn nodi y gall awdurdodau lleol gau ysgolion, y byddai rhagdybiaeth yn erbyn eu cau fel arall, lle mae'r mae'r cynnig wedi'i gychwyn cyn i'r Cod newydd ddod i rym. Y rheswm am hyn yw bod y Cod newydd (1 Tachwedd 2018) yn ei gwneud yn glir y penderfynir ar y cynnig yn unol â'r argraffiad cyntaf o'r Cod Trefniadaeth Ysgolion (2013), sydd heb ragdybiaeth o'r fath yn erbyn cau ysgolion gwledig, pan fo awdurdod lleol wedi cychwyn cyfnod ymgynghori'r broses statudol cyn y dyddiad hwn.
Mae'r ddeiseb yn nodi achos cynnig Cyngor Sir Ynys Môn i gau dwy ysgol gynradd gymunedol, sef Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, ac adeiladu ysgol newydd yn eu lle. Mae Ysgol Bodffordd ar y rhestr o ysgolion gwledig yn y Cod newydd.
Penderfynodd Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn ar 30 Ebrill 2018 fwrw ymlaen â'r cynnig, ar ôl ymgynghoriad a gynhaliodd y Cyngor rhwng 20 Chwefror a 6 Ebrill eleni.
Yn dilyn hynny, cyhoeddodd Cyngor Ynys Môn yr hysbysiad statudol ar 28 Medi 2018, ychydig cyn diwedd y cyfnod 26 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwnnw, o dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2013), mae'n rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad statudol ar ôl diwedd yr ymgynghoriad. Nododd hysbysiad statudol Cyngor Ynys Môn ei fod yn bwriadu gweithredu'r cynnig ar 1 Medi 2020.
O dan God 2013, roedd yn ofynnol i'r Cyngor roi cyfnod gwrthwynebu 28 diwrnod (hyd at 29 Hydref 2018). Yna, mae'n rhaid iddo gyhoeddi adroddiad gwrthwynebiadau, sy'n crynhoi'r gwrthwynebiadau a gafwyd a'i ymateb i'r rhain, o fewn saith diwrnod ar ôl penderfynu ar y cynnig. Oherwydd y cam datblygedig yn y broses, caiff Cyngor Ynys Môn benderfynu ar ei gynnig yn unol â Chod 2013, er bod Ysgol Bodffordd yn un o'r ysgolion gwledig a restrir yng Nghod 2018.
Trafodwyd y ddeiseb gan y Pwyllgor Deisebau ar 25 Medi 2018 a phenderfynodd ofyn iddi gael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn. Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar hyn ar 9 Hydref 2018.
Polisi Diweddar Llywodraeth Cymru
Roedd adolygiad o'r polisi ynglŷn â lleoedd gwag mewn ysgolion, gyda phwyslais ar ysgolion gwledig, yn un o'r deg blaenoriaeth addysg y cytunwyd arnynt gan Kirsty Williams â'r Prif Weinidog ar ôl ei phenodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Mehefin 2016. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru yn ystod haf 2017 ar gyflwyno rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig drwy ddiwygio'r Cod Trefniadaeth Ysgolion. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y gall 'cynnal darpariaeth ysgol hygyrch mewn rhai cymunedau gwledig, bach wneud cyfraniad sylweddol at gynaliadwyedd tymor hir y gymuned leol'.
Yn gyntaf, cynigiodd Llywodraeth Cymru ddynodi 191 o ysgolion fel ysgolion gwledig. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (PPIA) ar 28 Mehefin 2018 (paragraffau 60-76) fod yr ymgynghoriad wedi arwain at alwadau i'r diffiniad o ysgol wledig gael ei ehangu, a fyddai'n cynnwys 28 o ysgolion eraill, gan olygu mai'r cyfanswm yw 219. Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â'r awdurdodau lleol ychwanegol y byddai'n effeithio arnynt, cam ychwanegol y dywedodd ei fod wedi gohirio'r broses cyn cyflwyno'r Cod newydd.
Ar 17 Medi 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad am osod y Cod Trefniadaeth Ysgolion drafft. Ar ôl y cyfnod 40 diwrnod ar gyfer diddymiad posibl o dan weithdrefn Negyddol y Cynulliad ar gyfer is-ddeddfwriaeth, daeth y Cod newydd i rym ar 1 Tachwedd 2018.
Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddisgwyl gan awdurdodau lleol yn y cyfamser?
Wrth wraidd y mater o dan drafodaeth yr wythnos nesaf yw y caiff awdurdod lleol fwrw ymlaen â'r broses o gau ysgol wledig, ond, pe bai'r cynnig wedi'i gychwyn naw mis yn ddiweddarach (neu pe bai'r Cod newydd wedi'i gyhoeddi naw mis ynghynt), y byddai'n rhaid iddo gyflwyno achos cryfach er mwyn goresgyn rhagdybiaeth yn erbyn ei chau. Nid Ysgol Bodffordd yw'r unig ysgol y mae hyn yn gymwys iddi gan fod Ysgol Llancarfan ym Mro Morgannwg yn enghraifft arall.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ar sawl achlysur ei bod yn disgwyl i awdurdodau lleol ystyried polisi newydd Llywodraeth Cymru tuag at ysgolion gwledig wrth wneud penderfyniadau ynghylch ad-drefnu ysgolion.
Pan ofynnwyd iddi beth fyddai'n digwydd i ysgolion (fel yn achos Ysgol Bodffordd) y byddai eu statws yn cael ei ddiogelu ymhellach o dan y Cod newydd ond eu bod yn wynebu'r posibilrwydd y cânt eu cau yn y cyfamser o dan y Cod blaenorol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet yn y Cyfarfod Llawn ar 25 Ebrill 2018 (paragraffau 18-23):
Buaswn yn dweud wrth awdurdodau lleol sy'n ystyried y mater hwn ar hyn o bryd fy mod wedi bod yn glir iawn ynghylch fy nghyfeiriad teithio a'm bwriad polisi, a buaswn yn eu hannog i ystyried yr ysbryd hwnnw rhwng nawr ac unrhyw gyhoeddiad ffurfiol mewn perthynas â'r cod trefniadaeth newydd.
Ysgrifennodd (PDF 455KB) y Pwyllgor PPIA at Ysgrifennydd y Cabinet ar 6 Mehefin 2018 yn mynegi pryder am yr ansicrwydd parhaus y mae hyn yn ei olygu i ysgolion sy'n wynebu'r posibilrwydd y byddant yn cael eu cau. Gofynnodd y Pwyllgor PPIA sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn ystyried 'ysbryd' polisi'r dyfodol a'r hyn sy'n cael ei wneud i ddiogelu ysgolion rhag penderfyniadau tymor hir sy'n cael eu gwneud tra nad yw'r Cod wedi'i gwblhau.
Ymatebodd (PDF 354KB) Ysgrifennydd y Cabinet i’r Pwyllgor PPIA ar 29 Mehefin 2018, gan ddweud y canlynol:
Rydw i wedi bod yn eglur iawn o ran trywydd y polisi hwn ac fy mod yn disgwyl i awdurdodau lleol weithredu mewn ffordd sy’n gyson ag ysbryd y newidiadau arfaethedig. Fodd bynnag, rydw i wedi dweud ar sawl achlysur nad yw'r Cod yn ôl-weithredol, ac na fydd unrhyw newidiadau i'r Cod presennol yn weithredol hyd nes bod ail fersiwn y Cod yn dod i rym. Gan gofio hynny, er fy mod wedi ei gwneud yn glir beth yw fy nisgwyliadau, nid oes unrhyw ofyniad statudol ar awdurdodau lleol a chynigwyr eraill i gydymffurfio â darpariaethau sydd yn ail fersiwn y Cod hyd nes y daw hwnnw i rym.
Efallai y bydd Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid am nodi bod cau rhai ysgolion yn rhan o gynigion ad-drefnu ehangach y mae awdurdodau lleol yn dibynnu ar arian cyfatebol gan Raglen Gyfalaf Llywodraeth Cymru i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif ar eu cyfer, fel yn achos cynnig Cyngor Ynys Môn.
Sut i ddilyn y ddadl
Mae'r ddadl gan Aelodau'r Cynulliad wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mercher 21 Tachwedd 2018. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru