- newid i'r amseriad a'r dull o gyflwyno brechlyn MenC;
- cyflwyno rhaglen i gyflwyno'r brechiad rotafirws i fabanod pan fyddant yn ddau a thri mis oed;
- cyflwyno brechiad rhag yr eryr i bobl dros 70 oed;
- trefnu bod plant dwy a thair oed, a disgyblion ysgol ym mlwyddyn 7, i gael y brechiad rhag y ffliw tymhorol; a
- chyflwyno ail frechiad rhag y ffliw i blant hyd at naw oed yr ystyrir eu bod mewn perygl o ddatblygu cymhlethdodau.
Imiwneiddio a brechu yn y GIG
Cyhoeddwyd 24/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
24 Tachwedd 2014
Erthygl gan Dr Shane Doheny, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1899" align="alignright" width="225"] Llun o Flickr gan Daniel Paquet. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Ar 11 Mehefin 2013, cyhoeddodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, newidiadau i'r Rhaglen Frechu Genedlaethol 2013-14. Gall pob un o bedair gwlad y DU benderfynu ar ei strategaeth imiwneiddio ei hun, ond mae'r rhain yn cael eu seilio fel arfer ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), fel ffordd o sicrhau bod mesurau'n cael eu cymryd ledled y DU i rwystro rhai clefydau penodol. Ym mis Mehefin 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi: