Cyhoeddwyd 31/05/2024
  |  
Amser darllen
munudau
Ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd a lleihau rhestrau aros yng Nghymru.
Yn anochel, mae ôl-groniadau mewn gofal arferol wedi cynyddu yn ystod y pandemig COVID-19, gan arwain at arosiadau hir am ddiagnosteg a thriniaeth.
Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn benderfynol o wneud y defnydd gorau posibl o fuddsoddiad ychwanegol i gynyddu capasiti, cyflymu cynnydd ac adeiladu system iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer y tymor hir.
Dywed Llywodraeth Cymru na ellir datrys yr ôl-groniadau mewn gofal arferol dros nos. Mae wedi nodi ei hymrwymiad i leihau rhestrau aros drwy bum uchelgais allweddol. Mae ein herthygl yn edrych ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ac ar y perfformiad presennol yn eu herbyn.
A fydd Llywodraeth Cymru yn gwireddu ei huchelgeisiau?
Cyhoeddir data ar amseroedd aros y GIG bob mis ar StatsCymru. Mae’r data yn dangos nifer y llwybrau cleifion yn hytrach na nifer y cleifion, a gall un claf fod ar sawl llwybr. Mae pob llwybr yn cynnwys yr amser ers i glaf gael ei atgyfeirio gan feddyg teulu neu ymarferydd meddygol arall i’r ysbyty ar gyfer triniaeth gan y GIG yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys amser a dreulir yn aros am apwyntiadau ysbyty, profion, sganiau neu driniaethau eraill y gall fod eu hangen cyn triniaeth.
Mae’r data’n dangos nifer y llwybrau cleifion lle mae’r arhosiad yn hwy na 53 wythnos yn hytrach nag arosiadau hwy na blwyddyn, a nifer y bobl sy’n aros yn hwy na 105 wythnos yn hytrach nag aros yn hwy na dwy flynedd. Mae’r graffiau isod yn dangos data o fis Ionawr 2020 hyd at y dyddiad diweddaraf sydd ar gael.
|
Cliciwch ar y blychau i weld uchelgeisiau eraill
Uchelgais 1: Neb i aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022
Ym mis Mawrth 2024, roedd 61,100 o lwybrau cleifion yn aros dros 53 wythnos (mwy na blwyddyn) am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf.
Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth yn ôl mis, wythnosau wedi'u grwpio a cham y llwybr
Uchelgais 2: Dileu nifer y bobl sy'n aros am fwy na dwy flynedd ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023
Ym mis Mawrth 2024, roedd 5,394 o lwybrau cleifion yn aros dros 105 wythnos (mwy na dwy flynedd) am driniaethau trawma ac orthopedig, roedd 2,883 yn aros am driniaeth ar y clustiau, trwyn a gwddf, ac roedd 2,877 yn aros am offthalmoleg.
Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi'u grwpio a swyddogaeth driniaeth, Ionawr 2021 ymlaen
Uchelgais 3: Dileu nifer y bobl sy'n aros am fwy na blwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025
Ym mis Mawrth 2024, roedd 29,061 o lwybrau cleifion yn aros dros 53 wythnos (mwy na blwyddyn) am driniaethau trawma ac orthopedig, 28,547 am offthalmoleg, a 18,289 ar gyfer triniaethau llawfeddygaeth gyffredinol.
Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth fesul mis, wythnosau wedi'u grwpio a swyddogaeth driniaeth, Ionawr 2021 ymlaen
Uchelgais 4: Cynyddu cyflymder profion diagnostig ac adrodd i wyth wythnos ac 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn gwanwyn 2024
Ym mis Mawrth 2024, roedd 39,905 o lwybrau cleifion yn aros wyth wythnos neu’n hwy am wasanaethau diagnostig. Roedd 13,893 ychwanegol o lwybrau cleifion yn aros 14 wythnos neu’n hwy am wasanaethau therapi.
Ffynhonnell: StatsCymru, Amseroedd aros gwasanaeth diagnostig a therapi
Uchelgais 5: Diagnosis a thriniaeth canser i ddigwydd o fewn 62 diwrnod ar gyfer 80 y cant o bobl erbyn 2026
Ym mis Maw 2024, 60.5% oedd canran y bobl â diagnosis o ganser a oedd wedi dechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i’r pwynt y cafodd canser ei amau gyntaf.
Ffynhonnell: StatsCymru, Llwybr amheuaeth o ganser (llwybrau caeedig): Nifer y cleifion a israddiwyd, a ddechreuodd eu triniaeth, a gafodd eu trin, a gafodd eu trin o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth gyntaf o ganser, yn ôl bwrdd iechyd lleol, safle’r canser, grŵp oedran, rhyw, mesur a mis.
|
Ceir rhagor o wybodaeth am yr ôl-groniad presennol o ran amseroedd aros a pham mae mynd i’r afael ag ef yn un o’r heriau mwyaf i GIG Cymru yn ein herthygl ‘Oedi mynediad: yr ôl-groniad o ran amseroedd aros yn GIG Cymru’.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru