- £70 miliwn ar gyfer y GIG yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Ionawr.
- £14.6 miliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
- £16.5 miliwn ar gyfer Gwyddoniaeth, yr Economi a Thrafnidiaeth, £15 miliwn ar gyfer Cynllun Rhyddhad Manwerthu Cymru ac £1.5 miliwn ar y Cynllun Ardrethi Busnes Ardaloedd Menter.
- £8.4 miliwn ar gyfer Addysg a Sgiliau ar gyfer Her Ysgolion Cymru, Rhaglen Sgiliau Hyblyg; Cymorth Datblygu Proffesiynol Parhaus ar gyfer y Fargen Newydd; a Phrentisiaethau’r Sector Gofal.Nid oes dim newidiadau i ddyraniadau cyfalaf.
- Gwelir manylion am drosglwyddiadau rhwng adrannau ac o fewn adrannau yn y nodyn esboniadol.
Llywodraeth Cymru Cyllideb Atodol 2015-16
Cyhoeddwyd 25/06/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
25 Mehefin 2015
Erthygl gan Martin Jennings and David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cymru
Gosododd y Gweinidog Cyllid (Jane Hutt AC) y Gyllideb Atodol 2015-16 gyntaf ar 23 Mehefin, 2015. Yn cydfynd â’r gyllideb roedd nodyn esboniadol a thablau a oedd yn dangos dyraniadau adrannol. Mae’r gyllideb atodol hon yn diwygio Cyllideb Derfynol 2015-16, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2014.
Mae hithau’n gynnar yn y flwyddyn ariannol, mae’r Gyllideb Atodol Gyntaf yn y flwyddyn yn dangos ychydig o newidiadau’n unig.
Mae’r gyllideb Atodol hon yn cadarnhau’r dyraniadau refeniw a ganlyn, a ariennir o gronfeydd wrth gefn: