Natural Resources Wales Sign

Natural Resources Wales Sign

Mae CNC yn canfod £12 miliwn o arbedion. Beth y mae hyn yn ei olygu ar gyfer ei wasanaethau?

Cyhoeddwyd 08/11/2024   |   Amser darllen munudau

Ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bellach yn cynnal caffis a siopau yn ei ganolfannau ymwelwyr, a bydd yn cau ei wasanaeth llyfrgell ffisegol fel rhan o ymgyrch i arbed £12 miliwn.

Mae CNC yn dweud y bydd y newidiadau, sydd hefyd yn cynnwys lleihau nifer y digwyddiadau llygru “categori isel” y mae’n ymateb iddynt, yn caniatáu iddo ganolbwyntio ar wasanaethau hanfodol.

Roedd ansicrwydd ynghylch a all CNC arfer ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau’n effeithiol. Mae lleihau’r gyllideb ynghyd â chyfrifoldebau ychwanegol a materion parhaus yn ymwneud â chapasiti staffio, wedi bod yn nodweddion rheolaidd o waith craffu’r Senedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r erthygl hon yn edrych ar sut y mae'r rheoleiddiwr amgylcheddol yn mynd i’r afael â’r materion hyn, wrth geisio sbarduno buddion tymor hir ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru.

Pa newidiadau y mae CNC yn eu gwneud?

Ar 6 Tachwedd, cyhoeddodd CNC y bydd yn symleiddio gweithgareddau ac yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau hanfodol y gellir eu darparu ganddo ef yn unig. Dywedodd y bydd yn buddsoddi mewn “meysydd blaenoriaeth a fydd yn gyrru buddion hirdymor i amgylchedd naturiol Cymru gan gynnwys cryfhau ymdrechion i wella ansawdd dŵr a monitro”.

Dywedodd Syr David Henshaw, Cadeirydd CNC, y canlynol:

Ein nod yw sicrhau bod pob punt o gyllid cyhoeddus yn cael ei defnyddio'n effeithlon ac yn effeithiol, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd, adfer bioamrywiaeth, a risgiau amgylcheddol. Bydd y newidiadau rydyn ni'n eu gwneud nawr yn ein helpu i wneud gwahaniaeth yn y meysydd pwysicaf.

Derbyniwyd y cynigion a nodwyd yn ‘Achos dros Newid’ CNC gan ei Fwrdd ar 5 Tachwedd. Maent yn cynnwys:

  • Torri 233 o swyddi. Mae 103 o’r rhain yn wag ar hyn o bryd, felly bydd yn cael effaith uniongyrchol ar 120 o aelodau staff. Byddant yn cael eu hadleoli yn y sefydliad, pan fo hynny’n bosibl.
  • “Gostyngiadau bach mewn gorfodi a rhai gostyngiadau mewn datblygu dulliau rheoleiddio (darparu tystiolaeth, cyngor ac arweiniad)”. Bydd mwy o gapasiti cydymffurfio rheoleiddiol ar draws dŵr a bydd y lefelau presennol yn cael eu cynnal ar gyfer gwastraff a gweithgareddau cydymffurfio’r diwydiant.
  • “goddefgarwch uwch o risg”, sy’n golygu y bydd CNC yn ceisio lleihau nifer y digwyddiadau llygru "categori isel" y mae'n ymateb iddynt.
  • Bydd darpariaeth arlwyo a manwerthu mewn canolfannau ymwelwyr yn dod i ben, ond mae CNC yn chwilio am bartneriaid allanol i gynnal y gwasanaethau hyn yn ei le.
  • Cau gwasanaeth llyfrgell ffisegol CNC ym Mangor.
  • Disgwylir i wasanaeth rheoli perygl llifogydd CNC ddarparu opsiynau ar gyfer arbediad ychwanegol £2.1 miliwn.
  • Gostyngiad mewn adnoddau ar gyfer gweithgareddau awyr agored a hamdden, polisi amgylcheddol strategol, newid hinsawdd a'r rhaglen seilwaith gwyrdd.

Ceir rhagor o fanylion am y newidiadau yn hyn y ddogfen hon gan CNC.

Sut y gwnaethom gyrraedd y cam hwn?

Cynigiodd CNC newid ei strwythur staffio ac ymgynghori â’i undebau llafur yn ystod yr haf. Dywedodd WWF Cymru y byddai’r newidiadau’n "peryglu natur".

Nododd dogfen ‘Achos dros Newid’ CNC i’r cyhoedd fanylion pam y mae CNC o’r farn bod angen y newidiadau. Nid yw’r ddogfen hon bellach ar gael i'r cyhoedd ond roedd y manylion hyn yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Y newid yng nghyfeiriad strategol CNC o ganlyniad i’w gynllun corfforaethol newydd a’i amcanion llesiant
  • Ansefydlogrwydd ariannol y sefydliad – mae CNC yn amcangyfrif y bydd bwlch ariannu £9 miliwn yn 2024/25, y mae’n dweud y bydd yn cynyddu tua £4 miliwn yn 2025/26 i £13 miliwn, gyda £4 miliwn ychwanegol yn 2026/27. Mae CNC yn dweud bod hyn yn golygu bwlch ariannol dros £17 filiwn erbyn 2026-27, os na chymerir camau.
  • Blaenoriaethu gweithgareddau a nodwyd mewn ‘ymarfer sylfaenol’ – yn dilyn hyn, datblygwyd cynigion ar gyfer newid ar gyfer pob rhan berthnasol o CNC.

Cafodd rhagor o fanylion am sut y byddai’r newidiadau’n cael eu gweithredu eu rhoi i’r undebau llafur, ond nid oeddent ar gael i’r cyhoedd. Yn dilyn ymgynghoriad â’r undebau, cyflwynwyd cynnig diwygiedig i Fwrdd CNC ar 25 Medi.

Cyfarfu’r Bwrdd ar 5 Tachwedd i wneud ei benderfyniad terfynol, gyda’r staff yn cael gwybod ar 6 Tachwedd.

A yw CNC yn cau canolfannau ymwelwyr?

Mae’r posibilrwydd i gau tair canolfan ymwelwyr CNC (Bwlch Nant yr Arian ac Ynys-las yng Ngheredigion, a Choed y Brenin yng Ngwynedd) wedi codi pryder cyhoeddus a gwleidyddol sylweddol.

Mae ymgyrchwyr yn pryderu bod cynllun i gau'r canolfannau yn cael ei guddio drwy ddweud na fydd y canolfannau’n darparu gwasanaeth manwerthu neu arlwyo mwyach. Maent yn dweud y bydd hyn yn cael effaith niweidiol iawn ar yr amgylchedd, llesiant, a'r economi leol.

Cynhaliwyd dadl ar ddeiseb â mwy na 13,000 o lofnodion gan y Senedd ar 9 Hydref. Nododd Carolyn Thomas AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, fanteision economaidd a chymunedol y canolfannau a thynnu sylw at rwystredigaeth ynghylch diffyg ymgynghori CNC â rhanddeiliaid.

Pwysleisiodd Mabon ap Gwynfor AS yr effaith negyddol bosibl ar dwristiaeth a diwylliant lleol, yn enwedig o ran Coed y Brenin, hwb beicio mynydd a gydnabyddir yn fyd-eang. Rhybuddiodd am sefyllfa ymyl clogwyn lle y gallai canolfannau gau ac na fyddai’n hawdd eu hailagor, gan erydu gwerth eu brand a’u manteision economaidd.

Pwysleisiodd Janet Finch-Saunders AS y dylai CNC “fod ar ddod o hyd i atebion ariannu cynaliadwy ac opsiynau staffio amgen”, nid gwneud toriadau a fydd yn “lleihau gwerth y mannau gwerthfawr hyn”.

Mae cynrychiolwyr o’r gymuned beicio mynydd yn dadlau bod y cynllun i gau’r canolfannau’n gwrth-ddweud Deddf Llesiant Cenedlaethau/r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n hyrwyddo datblygu cynaliadwy a llesiant cymunedol i genedlaethau'r presennol a’r dyfodol.

Er na fydd CNC yn cynnal darpariaeth arlwyo a manwerthu yn y canolfannau ymwelwyr mwyach, mae wedi dweud ei fod yn chwilio am bartneriaid i gynnal y gwasanaethau hyn. Bydd y safleoedd yn parhau i fod ar agor ar gyfer cerdded, beicio, mannau chwarae, parcio ceir a darpariaeth toiled.

Mae CNC yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn ddiweddarach yn y mis i drafod dyfodol y canolfannau ymwelwyr â rhanddeiliaid lleol.

A yw’r cynllun ailstrwythuro yn gysylltiedig â bil treth £19 miliwn CNC?

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu benthyciad £19 miliwn i CNC er mwyn talu atebolrwydd treth nas talwyd yn dilyn ymchwiliad gan Cyllid a Thollau EF (CThEF). Mae’r bil treth yn ymwneud â materion cydymffurfio hanesyddol â rheolau gweithio oddi ar y gyflogres a’r defnydd o gontractwyr.

Cadarnhaodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, i’r Senedd ar 23 Hydref fod mater y bil treth yn “gyfan gwbl ar wahân” i’r ‘Achos dros Newid’ a’r pwysau ehangach ar CNC.

Mae effaith y newidiadau hyn i’w gweld o hyd. Mae'n siŵr y bydd yr Aelodau a'r rhanddeiliaid yn gwylio gyda diddordeb wrth iddynt ymwreiddio.


Erthygl gan Jake Lloyd Newman, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Jake Lloyd Newman gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.