Llun o grŵp o bobl mewn cylch gyda breichiau o amgylch ysgwyddau eu gilydd. Ymddengys fod y grŵp, sy’n amrywiol ei natur, yn hapus.

Llun o grŵp o bobl mewn cylch gyda breichiau o amgylch ysgwyddau eu gilydd. Ymddengys fod y grŵp, sy’n amrywiol ei natur, yn hapus.

Mae cynnyddu amrywiaeth mewn llywodraeth leol yn parhau i fod yn “ystyfnig o araf”

Cyhoeddwyd 07/02/2024   |   Amser darllen munudau

Dywedodd Marie Curie unwaith: “Fe’m dysgwyd nad oedd llwybr cynnydd yn gyflym nac yn hawdd”. Gellid dweud yr un peth am gyflymder y cynnydd a wneir i wella cynrychiolaeth ar draws ein holl sefydliadau democrataidd.

Gwnaeth John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn y Senedd, ddisgrifio’r cynnydd a wneir i wella amrywiaeth cynghorwyr lleol Cymru yn “ystyfnig o araf” yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor i’r mater hwn.

Mae’r data o etholiad llywodraeth leol 2022 yn ategu hyn, gan ddangos bod 60% o'r holl ymgeiswyr bryd hynny’n ddynion, a bod 40% ohonynt yn fenywod. Cofnododd Cyfrifiad 2021 fod menywod yn 51.1% o boblogaeth Cymru gyfan.

Fodd bynnag, gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys y sector llywodraeth leol ei hun, yn nodi pa mor “dameidiog” yw'r sylfaen dystiolaeth, mae asesu cynnydd yn anodd.

Data, data, a mwy o ddata!

Mewn byd lle mae data’n hollbresennol, ac yn allweddol i ddeall popeth – o’n harferion siopa i’r hyn yr ydym yn ei hoffi ar gyfryngau cymdeithasol – bydd yn syndod i rai efallai fod data am nodweddion y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar ein rhan yn gyfyngedig. Dywedodd Cymdeithas Diwygio Etholiadol (ERS) Cymru wrth yr ymchwiliad fod diffyg mecanweithiau priodol ar gyfer casglu a chyhoeddi data amrywiaeth yng Nghymru a ledled y DU.

Yn ôl yn 2011, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth i geisio llenwi rhai o’r bylchau yn ein gwybodaeth am bwy sy’n cynrychioli etholwyr yn siambrau’r cynghorau. Ers hynny, mae'n ofynnol yn gyfreithiol i awdurdodau lleol gynnal Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol, sef arolwg o ymgeiswyr aflwyddiannus a chynghorwyr etholedig yn eu hardal ar ôl pob etholiad. Mae'r arolwg yn ceisio creu darlun o nodweddion y rhai sy'n ymgeisio am swydd, o ran eu rhyw, eu hil, eu hoedran, eu cefndir addysgol, a mwy.

Mae’n orfodol i awdurdodau lleol gynnal yr arolwg, ond nid yw'n orfodol ei lenwi. Ers yr arolwg cyntaf yn 2012, mae cyfran yr ymgeiswyr sy’n ymateb iddo wedi gostwng 23 pwynt canran. Yn 2012, 35% o ymgeiswyr oedd wedi ymateb i’r arolwg, ac yn 2022, cafodd yr arolwg ymgeiswyr ymateb gan 12% o’r ymgeiswyr yn unig.

Ni chlywodd y Pwyllgor fawr o gytundeb ynghylch y ffordd ymlaen, ond cydnabu Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, fod angen newidiadau, a nododd y bwriad i addasu’r ffordd y mae'r arolwg yn gweithredu.

Ymrwymiad ac arweinyddiaeth

Er gwaethaf pryderon ynghylch data, mae pocedi o gynnydd i’w gweld mewn rhai ardaloedd o Gymru. Yn fwyaf nodedig, efallai, yw Cyngor Sir Fynwy. Yn ôl ym mis Mehefin 2021, cyflwynodd arweinydd Ceidwadol y cyngor ar y pryd, y Cynghorydd Richard John, gynnig yn galw ar bob grŵp gwleidyddol i anelu at gydraddoldeb rhwng y rhywiau ymhlith cynrychiolwyr etholedig. Cafodd y cynnig ei basio’n unfrydol.

Heb fynd i lo mân gwleidyddiaeth fewnol y pleidiau, roedd gan bob grŵp gwleidyddol ei ddull ei hun o annog a chefnogi mwy o fenywod i sefyll i gael eu dethol gan blaid ac, yn y pen draw, ymgeisio am swyddi etholedig. Sir Fynwy oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i gael cydbwysedd o 50:50 rhwng y rhywiau, yn dilyn etholiadau 2022. Yna, yn sgil is-etholiad ym mis Hydref 2022, daeth Sir Fynwy y cyngor cyntaf yng Nghymru gyda mwyafrif o fenywod.

Wrth edrych ar gamau cadarnhaol Sir Fynwy, dyma a ddywedodd ERS Cymru wrth y Pwyllgor:

In the last elections, that really good commitment that was cross-party, that worked really well. It was technically more of a voluntary quota, I guess, if you want to categorise it, but it worked much more like a legislative gender quota, because everyone was so committed to it, and they have 50:50; they’ve now gone beyond 50:50.

Er bod amgylchiadau'n wahanol ym Mro Morgannwg, mae’r cyngor hwnnw wedi sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith ei gynghorwyr. Myfyriodd ERS Cymru ar y camau cadarnhaol sydd wedi cael eu cymryd o fewn y Blaid Lafur leol, lle mae 72% o gynghorwyr etholedig y blaid yn fenywod.

A rhoi gwleidyddiaeth o’r neilltu, roedd y Pwyllgor yn awyddus i bwysleisio’r ymrwymiad a’r arweiniad sydd eu hangen i yrru cynnydd o’r fath yn ei flaen.

Hyrwyddo’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig

Un datblygiad polisi arwyddocaol yn y maes hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yw sefydlu'r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig. Galwodd y Pwyllgor blaenorol am i gronfa o'r fath gael ei sefydlu i gynorthwyo ymgeiswyr anabl i ymgeisio am swyddi etholedig. Yn 2021, sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun peilot a fyddai’n cael ei weinyddu gan Anabledd Cymru ar ei rhan.

Canfu gwerthusiad o’r gronfa fod ymgeiswyr “yn hynod gadarnhaol am y broses ymgeisio”. Fodd bynnag, nododd hefyd fod lle i wella. Ymdriniodd Anabledd Cymru â hyn yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, gan nodi'r angen i hyrwyddo'r gronfa yn well a sicrhau bod y gronfa ar gael i ymgeiswyr yn gynharach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y gronfa yn ofyniad statudol. Mae Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru ddarparu cynllun cymorth ariannol i gynorthwyo ymgeiswyr anabl yn etholiadau Cymru. Nid yw’r Bil yn mynd mor bell ag ymestyn y ddyletswydd i ddarparu cymorth ariannol i nodweddion gwarchodedig eraill, sef rhywbeth y mae rhai rhanddeiliaid yn galw amdano. Fodd bynnag, mae yn galluogi Gweinidogion Cymru yn y dyfodol i sefydlu “cynlluniau cymorth ariannol i helpu ymgeiswyr mewn etholiadau Cymreig sydd â nodweddion penodol neu amgylchiadau penodol i oresgyn rhwystrau i gyfranogiad”.

Yr hyn sydd yn y dyfodol

Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor fod llawer iawn o gynnydd wedi cael ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf, ond cydnabu hefyd fod llawer iawn mwy y mae angen ei wneud.

Er bod llawer yn rhwystredig gyda chyflymder y newid, mae rhai arwyddion bod pethau’n newid yn araf. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod absenoldeb tystiolaeth gynhwysfawr yn gwneud mesur newid yn fanwl gywir yn llawer anoddach.

Cynhelir dadl ar adroddiad y Pwyllgor yn y Senedd heddiw. Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd TV.


Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru