Dechreuodd toriad yr haf gyda chyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’i buddsoddiad ychwanegol arfaethedig o £206m ym Maes Awyr Caerdydd ("y Maes Awyr") dros ddeng mlynedd. Mae'r cyllid yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd y mae disgwyl i’w adroddiad gael ei gyhoeddi ar 2 Hydref.
Mewn datganiad ar 22 Gorffennaf 2024, dywedodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ar y pryd:
Er mwyn gwella cysylltedd, bydd y Maes Awyr yn ceisio datblygu llwybrau i'r rhannau hynny o'r byd y nodwyd yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru eu bod yn bwysig i sicrhau twf economaidd, megis y Dwyrain Canol a De Asia… Yr Undeb Ewropeaidd … [a] Gogledd America.
Mae'r erthygl hon yn esbonio'r hyn rydyn ni'n ei wybod hyd yma a’r cysylltiadau rhwng y buddsoddiad a'r Strategaeth Ryngwladol.
Faint mae Llywodraeth Cymru wedi ei fuddsoddi hyd yma?
Dywedodd Llywodraeth Cymru, ym mis Awst 2024, ei bod wedi buddsoddi cyfanswm o £179.6m yn y Maes Awyr. Mae hyn yn cynnwys cost proses gaffael Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2013 a'i phryniant dilynol o gyfranddaliadau ychwanegol (£67.9m). Mae hefyd yn cynnwys grantiau (£41.9m) a benthyciadau (£69.8m, sy'n cynnwys balans y benthyciad, gyda llog cronedig ym mis Mai 2021, sef £27.2m a £42.6 miliwn y diddymodd Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021 fel rhan o'i chynllun achub ac ailstrwythuro).
Yn ein herthygl ‘Maes Awyr Caerdydd - beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf?’ (Mehefin 2021), gwnaethom gynnwys amserlen yn dangos buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y Maes Awyr, a’i benthyciadau iddo. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth am y cymorth ariannol a ddarparwyd ganddi o dan y cynllun achub ac ailstrwythuro.
Ers i ni gyhoeddi’r adroddiad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu rhagor o gymorth ar gyfer y Maes Awyr. Ym mis Hydref 2023, cyhoeddodd fuddsoddiad ecwiti ychwanegol o £6.6m ar gyfer cost Sganwyr Diogelwch 3D y Genhedlaeth Nesaf y mae'n rhaid i'r Maes Awyr eu gosod i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch hedfan Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cynyddu cyfanswm cost proses gaffael Llywodraeth Cymru a buddsoddiadau ecwiti (ei ‘chyfranddaliadau’) i fyny i £67.9m. Ym mis Awst 2024, dywedodd Llywodraeth Cymru mai gwerth ei chyfranddaliadau yw £17.8m.
Y Strategaeth Ryngwladol a Maes Awyr Caerdydd
Nod Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru (2020-25) yw:
- codi proffil Cymru yn fyd-eang;
- tyfu’r economi drwy gynyddu allforion a denu mewnfuddsoddiad; a
- sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.
Sut gall y buddsoddiad gyfrannu at y nodau hyn?
Cyfeirir at Faes Awyr Caerdydd ddwy waith yn y Strategaeth – yn gyntaf, i ddisgrifio cysylltedd Cymru â gweddill y byd (“gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd sy’n tyfu’n gyflym, gyda hediadau rheolaidd i Doha a dinasoedd yn Ewrop”) ac, yn ail, mewn perthynas â thwristiaeth antur gynaliadwy (“ein huchelgais y bydd Maes Awyr Caerdydd yn dod yn ganolfan yn y Deyrnas Unedig ar gyfer hedfan carbon-isel”).
Er nad ydynt ymhlith y 250 a mwy o gamau gweithredu a restrir yn y Strategaeth, mae'r ymrwymiadau hyn yn dal i fod yn werth eu nodi ac yn cael eu harchwilio isod.
Cysylltedd â gweddill y byd
Nid yw cyhoeddiad mis Gorffennaf 2024 yn cadarnhau'r llwybrau datblygu newydd lle mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyflawni mwy o gysylltedd.
Mae ei threfniadau rhyngwladol i’w gweld ar y ffeithlun isod, gan gynnwys yn y rhanbarthau y nodwyd eu bod yn bwysig ar gyfer twf economaidd.
Mae’r Maes Awyr yn gweithredu 33 llwybr uniongyrchol a 145 o lwybrau anuniongyrchol trwy Amsterdam.
Nid yw Qatar Airways wedi ailddechrau’r hediadau uniongyrchol rhwng Caerdydd a Doha ers iddynt ddod i ben ym mis Mawrth 2020 yn ystod y pandemig. Ers hynny, mae'r cwmni hedfan wedi ailddechrau ei holl lwybrau eraill yn y DU. Ym mis Medi, dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus (PAPAC) fod trafodaethau i ailddechrau yn parhau a bod y trafodaethau'n parhau'n gadarnhaol ond eu bod yn fasnachol sensitif.
Canolfan Brydeinig ar gyfer hedfan carbon isel
Nid yw'r Maes Awyr wedi bodloni'r targed i ymrwymo, erbyn 31 Mawrth 2023, i fod yn niwtral o ran carbon, a oedd wedi'i gynnwys yn y cynllun achub ac ailstrwythuro y cytunodd arno â Llywodraeth Cymru. Mae'r targed yn cynnwys pum ymrwymiad, gan gynnwys rhai ar gyfer fferm solar, datblygu tanwydd hedfanaeth cynaliadwy a cherbydau trydan neu hybrid.
Ym mis Mai 2023, dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor PAPAC:
Ymrwymodd y Maes Awyr i gyrraedd sawl targed erbyn 31 Mawrth 2023 i roi'r maes awyr ar drywydd i fod yn garbon niwtral. Fodd bynnag oherwydd yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae'n heriol iawn i unrhyw faes awyr rhanbarthol gyflawni'r amcan hwn erbyn 2050 ar draws ei holl weithrediadau.
Ym mis Awst 2024, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru nad oedd y Maes Awyr wedi ymrwymo eto i gyflawni sero net.
Craffu ar y Strategaeth Ryngwladol
Ymddangosodd Vaughan Gething AS, cyn-Prif Weinidog Cymru, mewn sesiwn graffu flynyddol ar gysylltiadau rhyngwladol gerbron y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (CCWLSIR) ar 19 Mehefin 2024, tua mis cyn y cyhoeddiad am y buddsoddiad.
Ni soniodd am y Maes Awyr er gwaethaf cwestiynau penodol am flaenoriaethau rhyngwladol ar gyfer y dyfodol a'r gweithgarwch yn y rhanbarthau a glustnodwyd ar gyfer llwybrau hedfan newydd. Ni soniwyd am y Maes Awyr mewn sesiynau craffu blynyddol blaenorol fel blaenoriaeth o ran cysylltiadau rhyngwladol â’r cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford AS (yn 2022 a 2023).
Cyllideb gyfan Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yw £8.1m. Mae'r Strategaeth a'i chynlluniau gweithredu cysylltiedig yn cynnwys rhestrau clir o dros 250 o gamau. Mae’r ffaith nad yw’r llywodraeth yn adrodd ar gynnydd yn erbyn cyflawni yn fater craffu parhaus ar gyfer CCWLSIR o ran asesu canlyniadau, cyflawni a gwerth am arian (yn yr un modd â’r pwyllgor oedd yn ei ragflaenu).
Mae Llywodraeth Cymru’n cyhoddi adroddiad blynyddol ar weithgareddau ei 20 o swyddfeydd tramor ond nid yw’r sylwadau’n gysylltiedig â nodau neu gamau gweithredu penodol yn y Strategaeth. Mae’r cyfeiriadau at y Maes Awyr yn y tri adroddiad hyd yma yn canolbwyntio ar ailddechrau’r llwybr Caerdydd-Doha.
Mae CCWLSIR wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn cwestiynau am gysylltiadau'r buddsoddiad â'r Strategaeth Ryngwladol. Roedd disgwyl ateb ar 19 Medi ond nid oedd wedi dod i law ar adeg cyhoeddi'r erthygl hon.
Craffu ar y buddsoddiad hyd yma
Ynghylch ei pherchnogaeth o’r Maes Awyr, ar 3 Gorffennaf 2024, dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ar y pryd, yr hyn a ganlyn wrth y Cyfarfod Llawn am Lywodraeth Cymru:
… rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr i ddarparu amcangyfrifon wedi'u diweddaru o fudd economaidd cyfredol a phosibl y maes awyr, fel bod gennym drywydd hirdymor…
Wrth gyhoeddi ei strategaeth hirdymor arfaethedig a'i phecyn ariannol ar 22 Gorffennaf 2024, dywedodd Llywodraeth Cymru:
… er bod gan Lywodraeth Cymru a'r Maes Awyr gynllun ar gyfer y ffordd y byddai'r arian buddsoddi newydd yn cael ei dargedu, ni fyddwn yn cyhoeddi dadansoddiad o'r ffigurau.
Fodd bynnag, ar 19 Medi, dywedodd swyddogion Llywodraeth Cymru wrth PAPAC y byddent, yn amodol ar sensitifrwydd masnachol, yn bendant yn gallu rhannu mwy o wybodaeth am y cynllun hirdymor a'r pecyn ariannu. Fodd bynnag, nid oedd yn gallu gwneud hynny tra bo'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn ystyried ei chynnig.
Cadw llygad am adroddiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd
Er ei bod yn nodi ei bod yn hyderus bod ganddi achos cadarn dros gymhorthdal, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod yn datblygu cyngor i Weinidogion ar ddulliau amgen pe na bai proses yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn alinio'n llawn ag uchelgeisiau'r Gweinidogion ar gyfer y Maes Awyr. Ni fydd unrhyw wybodaeth ar gael am y rhain tan ar ôl i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd gyhoeddi ei adroddiad ac mae’r Gweinidogion wedi cytuno ar ffordd ymlaen. Mae'n ymddangos efallai y bydd angen i ni aros tan y flwyddyn newydd i ddarganfod mwy.
Yn y cyfamser, mae cystadleuydd rhanbarthol agosaf Caerdydd, Maes Awyr Bryste, wedi ymateb i'r cyhoeddiad, gan ddisgrifio'r buddsoddiad fel un sylweddol a nodi ei fod yn gweithredu heb unrhyw gost i'r trethdalwr ac yn helpu i gefnogi economi Cymru yn sylweddol heb fod angen unrhyw gyfraniad ariannol gan y wladwriaeth.
Erthygl gan Sara Moran a Joanne McCarthy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru