Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Mynd i'r afael â materion recriwtio meddygol yng Nghymru
Cyhoeddwyd 15/09/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
Mae unrhyw system gofal iechyd yn dibynnu ar gael digon o staff wedi'u hyfforddi'n dda, sy'n fedrus ac yn llawn cymhelliant, ac nid yw GIG Cymru yn eithriad. Mae meddygon yn rhan allweddol o'n gwasanaethau iechyd lleol, ond mae pryderon am recriwtio, cadw a chynaliadwyedd y gweithlu meddygol wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd. Yn hanner cyntaf 2017, fe wnaeth Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ymchwiliad i recriwtio a chadw staff meddygol yng Nghymru. Bydd Adroddiad y Pwyllgor yn dilyn yr ymchwiliad yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Medi.
Cylch gorchwyl yr ymchwiliad
Roedd yr ymchwiliad ar recriwtio meddygol yn rhan o raglen waith ehangach y Pwyllgor ar gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd yr ymchwiliad yn edrych ar:
- Gallu'r gweithlu meddygol i ddiwallu anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, yng nghyd-destun newidiadau i'r dull o gyflwyno gwasanaethau a datblygiad modelau gofal newydd;
- Y goblygiadau i'r gweithlu meddygol wedi i'r DU adael yr UE;
- Y ffactorau sy'n dylanwadu ar y broses o recriwtio a chadw meddygon, gan gynnwys unrhyw broblemau mewn rhai meysydd arbenigol neu ardaloedd daearyddol penodol;
- Datblygu a chyflwyno ymgyrchoedd recriwtio meddygol, gan gynnwys i ba raddau y mae rhanddeiliaid perthnasol yn cael eu cynnwys, a dysgu oddi wrth ymgyrchoedd blaenorol ac arfer da mewn mannau eraill;
- I ba raddau y mae prosesau/arferion recriwtio yn gydgysylltiedig, yn darparu gwerth am arian ac yn sicrhau gweithlu meddygol cynaliadwy.
Mae hyn yn dilyn ymchwiliad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad ar y gweithlu meddygon teulu, a darn cychwynnol, eang o gasglu tystiolaeth a gynhaliwyd gan y Pwyllgor presennol i helpu i ddeall materion allweddol y gweithlu ar draws y sector iechyd a gofal.
Casglu tystiolaeth
Roedd y Pwyllgor yn dymuno sicrhau bod yr ymchwiliad yn clywed gan ystod eang o sefydliadau ac unigolion; yn ystod hydref 2016 cynhaliodd ymgynghoriad ac mae'r ymatebion wedi cael eu cyhoeddi. Hefyd, cynhaliodd y Pwyllgor nifer o sesiynau lle clywodd dystiolaeth gan fyrddau iechyd lleol, Deoniaeth Cymru, cyrff proffesiynol, yr ysgolion meddygol, staff clinigol unigol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, a ddarparodd hefyd dystiolaeth ysgrifenedig i'r Pwyllgor.
Roedd y Pwyllgor hefyd yn awyddus i glywed barn meddygon dan hyfforddiant eu hunain, ac roedd un o'r sesiynau tystiolaeth yn cynnwys panel o feddygon dan hyfforddiant a gynullwyd yn arbennig o bob cwr o Gymru o feddygaeth teulu a nifer o wahanol arbenigeddau ysbytai. Yn ogystal, roedd y dystiolaeth ysgrifenedig a dderbyniwyd gan y Pwyllgor yn cynnwys adroddiad yn amlinellu barn meddygon dan hyfforddiant presennolmewn Meddygaeth Frys ledled Cymru ar eu hyfforddiant meddygol, ac un arall sy'n cynnwys arolwg o'r myfyrwyr presennol a blaenorol o Raglen Feddygaeth Mynediad i Raddedigion Abertawe (GEMP).
Ymwelodd y Pwyllgor â Phrifysgol Caerdydd hefyd, lle gwelwyd rhai o'r cyfleusterau a ddefnyddir wrth hyfforddi staff clinigol y dyfodol, clywyd am waith y Brifysgol ar addysg ryngbroffesiynol a chafwyd cyfle i siarad â myfyrwyr am eu profiad o hyfforddiant a beth oedd wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i hyfforddi yng Nghymru.
Nodwyd rhai themâu cyffredin yn y dystiolaeth a welodd ac a glywodd y Pwyllgor, gan gynnwys:
- Yr angen am fwy o ymgysylltu ag ysgolion a disgyblion yng Nghymru, i annog diddordeb mewn meddygaeth fel gyrfa a mwy o geisiadau i ysgolion meddygol - yn arbennig y rhai yng Nghymru;
- Er gwaethaf rhai gwelliannau, mae nifer y myfyrwyr o Gymru sy'n astudio meddygaeth yn dal i fod yn llai na gwledydd eraill y DU, ac mae'r nifer sy'n gwneud cais i astudio yng Nghymru yn parhau'n isel, ac mae angen cynyddu recriwtio disgyblion Cymru i ysgolion meddygol yng Nghymru;
- Yr angen i gynyddu lleoedd hyfforddi israddedig ac ôl-raddedig yng Nghymru;
- Sicrhau hygyrchedd ac ansawdd yr hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer staff mewn ardaloedd mwy gwledig;
- Pwysigrwydd cynyddol y tîm amlddisgyblaeth ehangach mewn hyfforddiant a gwasanaethau;
- Pwysigrwydd cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith i'r holl staff meddygol a'u teuluoedd, gan gynnwys bod o fewn cyrraedd da i ysgolion, cymunedau a bywyd cymdeithasol, a sefydlogrwydd lleoliadau hyfforddiant. Gwelwyd yr ymgyrchoedd recriwtio diweddar i Gymru yn rhai cadarnhaol;
- Yr anawsterau wrth recriwtio mewn nifer o feysydd penodol fel meddygaeth teulu ac mewn ardaloedd daearyddol penodol, yn enwedig lleoliadau gwledig;
- Effaith bosibl Brexit ar recriwtio a chadw staff meddygol;
- Yr angen am weledigaeth strategol glir ar gyfer gofal iechyd yn y dyfodol yng Nghymru, gan gynnwys ffocws cynyddol ar ganoli gwasanaethau a rôl y tîm gofal iechyd ehangach;
- Effaith pwysau ar y gwasanaeth a gofynion ar hyfforddiant yn ogystal â delwedd y proffesiwn meddygol fel gyrfa a all olygu pwysau mawr.
Roedd y gefnogaeth ar gyfer lleoedd meddygol israddedig ychwanegol yng Nghymru yn arbennig o gryf. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau yn ddiweddar am 1,500 yn rhagor o leoedd i fyfyrwyr mewn ysgolion meddygol yn Lloegr, ac yn eu tystiolaeth i'r ymchwiliad, dywedodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru “Without an equivalent increase in Wales, we are likely to see undergraduates recruited over the border who may not return to Wales to practice”.
Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet y galwadau am gynyddu lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru, ond yn ei dystiolaeth i'r Pwyllgor dywedodd ei fod yn credu y gallai'r ysgolion meddygol ddarparu mwy o fewn yr adnoddau presennol a byddai unrhyw fuddsoddiad ychwanegol i ehangu lleoedd mewn ysgolion meddygol “would have to be on the basis that there would be more Welsh-domiciled students taking up those places”.
Argymhellion y Pwyllgor
Mae'r adroddiad yn nodi un ar bymtheg o gasgliadau ac argymhellion, sy'n cwmpasu nifer o feysydd allweddol:
- Cynllunio gweithlu'r dyfodol: Erbyn Medi 2017, dylid cyhoeddi cynllun gweithredu a llinell amser ar gyfer sefydlu'r corff sengl newydd a fydd yn gyfrifol am gynllunio, hyfforddi ac addysgu'r gweithlu ar gyfer GIG Cymru;
- Datblygu addysg feddygol israddedig: Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r ysgolion meddygol yng Nghymru a Deoniaeth Cymru i gynyddu:
- Nifer y lleoedd israddedig mewn ysgolion meddygol yng Nghymru;
- Nifer y myfyrwyr sy'n hanu o Gymru sy'n ymgeisio am leoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ac yn eu cael, ynghyd â mwy o gefnogaeth a chyngor i ddisgyblion yng Nghymru ar dderbyniadau a chyfweliadau o ran ysgolion meddygol;
- Argaeledd addysg feddygol israddedig yng Ngogledd Cymru, wedi'i chefnogi drwy gyhoeddi cynllun clir erbyn haf 2017.
- Mwy o ffocws ar ofal cymunedol a gwledig: Dylai Llywodraeth Cymru, yr ysgolion meddygol, y Ddeoniaeth a GIG Cymru weithio i gynyddu amser mewn meddygaeth teulu ar gyfer y cwricwlwm israddedig a hyfforddiant sylfaenol meddygon dan hyfforddiant a datblygu cynllun gweithredu ar gyfer hyfforddiant ac addysg feddygol wledig.
- Cynyddu'r capasiti hyfforddi: Datblygu a chytuno ar gynigion ar gyfer mwy o leoedd hyfforddi i feddygon dan hyfforddiant; dylai hyn gynnwys pwerau ar gyfer mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio capasiti hyfforddi yn lleol, yn enwedig hyfforddiant meddygon teulu;
- Diwygio rheoliadau: Llywodraeth Cymru i geisio diwygio'r rheoliadau presennol, fel y gall meddygon sydd wedi cwblhau'r ail flwyddyn o Hyfforddiant Sylfaenol (F2) weithio fel meddygon teulu locwm. Mae angen trafodaethau gyda GIG Lloegr hefyd i alluogi meddygon i fod ar restr y perfformwyr meddygol ar gyfer Cymru a Lloegr;
- Datblygu strategaethau recriwtio: Dylai Llywodraeth Cymru:
- Sicrhau bod sylfaen dystiolaeth gynhwysfawr ar recriwtio a chadw yn cael ei datblygu i hysbysu ymgyrchoedd recriwtio yn y dyfodol;
- Gwerthuso'r ymgyrch recriwtio bresennol Hyfforddi, Gweithio, Byw, gan ganolbwyntio ar y canlyniadau a gyflawnwyd a'r gwersi a ddysgwyd, i lywio ymgyrchoedd recriwtio meddygol parhaus;
- Adrodd erbyn diwedd 2017 ar effaith y Cynllun Cymhelliant Meddygon Teulu a nodi opsiynau ar gyfer cynlluniau cymhelliant eraill i ddenu a chadw meddygon posibl a rhai sy'n ymarfer.
- Swyddi gwag: Datblygu opsiynau ar gyfer pwynt mynediad sengl cenedlaethol ar gyfer hysbysebu swyddi meddygol gwag yng Nghymru. Yn ychwanegol, dylid casglu a chyhoeddi niferoedd y swyddi gwag yng Nghymru, er mwyn llywio cynllunio'r gweithlu'n well;
- Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Llywodraeth Cymru i barhau â deialog â Llywodraeth y DU, gyda'r nod o egluro gallu gwladolion yr Undeb Ewropeaidd i barhau a dechrau gweithio yn y DU, a gofyn am sicrwydd am allu gwladolion yr UE i weithio fel meddygon yng Nghymru yn y dyfodol.
Ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r Adroddiad, gan dderbyn un ar ddeg o argymhellion y Pwyllgor a derbyn pump ohonynt yn rhannol, ac yn nodi:
- Y bwriad, yn dilyn ymlaen o Ddatganiad y Gweinidog yn ddiweddar, i gyhoeddi llinell amser ym Medi 2017 ar gyfer sefydlu'r mudiad Addysg a Gwella Iechyd Cymru newydd;
- Y bwriad i weithio gydag ysgolion meddygol Cymru i gynyddu ceisiadau gan ddisgyblion sy'n hanu o Gymru i astudio meddygaeth yng Nghymru ac i gefnogi rhaglenni ar gyfer disgyblion sydd â diddordeb mewn meddygaeth fel gyrfa;
- Er nad oedd yn cefnogi'r achos dros ysgol feddygol yng ngogledd Cymru, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ym mis Gorffennaf, gan gydnabod yr angen am lefelau uwch o addysg feddygol yng Ngogledd Cymru, i'w chyflwyno ar y cyd gan Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor;
- Cefnogi mwy o ffocws mewn hyfforddiant ar feddygaeth yn y gymuned ac iechyd gwledig;
- Derbyn yr achos dros dargedu mwy o leoedd i feddygon dan hyfforddiant mewn meysydd blaenoriaeth, er yn nodi y byddai angen cyllid ychwanegol ar gyfer hyn;
- Byddai trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth y DU ar restr perfformwyr ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr a gyda'r Ddeoniaeth i archwilio capasiti ôl-F2 i ymgymryd â gwaith meddygon teulu locwm;
- Byddai gwerthusiad o gyfnod meddygol/Meddygon Teulu Hyfforddi, Gweithio, Byw yn cael ei gynnal ym mis Ebrill 2018, gyda'r Cynllun Cymhelliant Meddygon Teulu yn cael ei werthuso ar wahân;
- Mae gwaith ar y gweill yn anelu at gael NHS Jobs fel un pwynt ar gyfer hysbysebu'r holl swyddi gwag meddygon teulu yng Nghymru;
- Cefnogaeth i ddatblygu mecanwaith i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth am swyddi meddygol gwag;
- Cred gref Llywodraeth Cymru ei bod am barhau i alluogi pobl o'r UE a thu hwnt i weithio o fewn GIG Cymru ac i fyw yn ein cymunedau, gan gynnwys ar ôl gadael yr UE.
Erthygl gan Dr Paul Worthington, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Delwedd oddi ar Flickr gan Chris Sampson. Licensed under the Creative Commons