Cyhoeddwyd 07/10/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024
  |  
Amser darllen
munudau
07 Hydref 2016
Erthygl gan Katy Orford, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
[caption id="attachment_6254" align="alignnone" width="682"]
Llun: Flikr gan ciukes. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR)
Mae'r adroddiad cyntaf ar
Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) wedi'i gyhoeddi. Mae'r adroddiad yn asesiad o gyflwr adnoddau naturiol Cymru a'r hyn sy'n digwydd i'r adnoddau hynny. Mae'n trafod i ba raddau y mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Lluniwyd yr adroddiad gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda chyfraniad nifer fawr o randdeiliaid. Dyma gynnyrch statudol cyntaf
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Y cyd-destun polisi
Mae llunio'r SoNaRR yn broses barhaus a bydd yr adroddiad yn cael ei ddiweddaru a'i gyhoeddi bob pum mlynedd gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n sylfaen o dystiolaeth i lywio Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru sydd yn ddyletswydd arall o dan Ddeddf yr Amgylchedd. Mae Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cael ei lunio ar hyn o bryd a disgwylir i ddogfen ymgynghori gael ei chyhoeddi ym mis Hydref neu fis Tachwedd 2016, a'r polisi terfynol ym mis Mawrth 2017.
Bydd SoNaRR hefyd yn cyfrannu at y Datganiadau Ardal (cyfrifoldeb ychwanegol Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd). Bydd hynny'n help i roi Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar waith drwy: a) pennu blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd i reoli'n gynaliadwy adnoddau naturiol y mae Cyfoeth Naturiol Cymru o'r farn bod angen mynd i'r afael â hwy yn yr ardal honno, a b) datgan sut y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â hwy.
Bydd y dystiolaeth a gyflwynir yn SoNaRR yn cael ei defnyddio hefyd i lywio'r asesiadau llesiant sy'n cael eu paratoi gan y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o ofynion
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae SoNaRR yn cyflwyno gwasanaethau a buddion ecosystemau mewn modd sydd â chysylltiad clir â'r saith nod llesiant, i helpu i ganfod bygythiadau i lesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd hirdymor. Mae rôl arall i SoNaRR hefyd sef cyfrannu at yr Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol sydd i'w gyhoeddi o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Strwythur
Dyma gynnwys a strwythur yr adroddiad:
Pennod 1 - cyflwyniad ac amlinelliad o'r dull o weithredu.
Pennod 2 - trosolwg o'r hyn sy'n sbarduno newid cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a thechnolegol i adnoddau ac ecosystemau naturiol yng Nghymru.
Pennod 3 - asesiad o gyflwr adnoddau naturiol Cymru.
Pennod 4 - trafod y cysyniad o gydnerthedd, gan ddwyn ynghyd asesiad o gydnerthedd ecosystemau yn seiliedig ar bedair nodwedd allweddol.
Pennod 5 - trafod y manteision a ddaw yn sgil ecosystemau a'r cyfraniad a wnânt i lesiant.
Pennod 6 - archwiliad o'r modd y mae Cymru yn defnyddio ac yn rheoli ei hadnoddau naturiol, ac yn nodi risgiau a achoswyd gan fethiannau yn y systemau rheoli presennol.
Pennod 7 - cofrestr risg adnoddau naturiol a llesiant ar gyfer Cymru.
Un o'r prif egwyddorion sy'n sail i'r adroddiad yw Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy sydd yn ddull a gyflwynwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (gweler
Datganiad Polisi ar Adnoddau Naturiol (PDF 779KB) tud 8). Yn gysylltiedig â hyn mae'r cysyniad o
gydnerthedd ecolegol sydd yn ystyriaeth allweddol yn yr adroddiad. Caiff cydnerthedd ei ddiffinio gan bedair nodwedd; amrywiaeth, cysylltedd, graddfa a maint, a chyflwr ac mae'n gysylltiedig â llesiant pobl Cymru mewn dull newydd o fewn SoNaRR.
Negeseuon cyffredinol SoNaRR a'r blaenoriaethau gweithredu
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi disgrifio casgliadau'r adroddiad fel galwad i ddeffro, a dywedodd ei bod yn annhebygol y bydd ecosystemau Cymru yn ddigon cydnerth ac y bydd hyn yn effeithio ar eu gallu i ddarparu gwasanaethau a buddion yn y dyfodol. Y prif ganfyddiadau yw:
- Mae llawer o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid yn dirywio
- Methodd Cymru â chyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth rhyngwladol a chenedlaethol yn 2010, ac mewn sawl achos mae'r dirywiad wedi parhau.
- O ran cydnerthedd ecosystemau, mae amrywiaeth yn dirywio fel y dangosir gan ddiflaniad cynefinoedd a rhywogaethau. Mae'r 'graddfa a maint' rhai cynefinoedd wedi lleihau'n sylweddol, mae eu 'cyflwr' yn dangos canlyniadau cymysg, ac mae 'cysylltedd' wedi dirywio'n sylweddol. Mae problemau yn yr holl gynefinoedd o ran pob un o bedair nodwedd cydnerthedd.
- Mae amrywiadau eang, rhanbarthol mewn ecosystemau, sy'n adlewyrchu'r defnydd hanesyddol o dir a cholli cynefinoedd. Mae amrywiaeth, graddfa a chysylltedd yn tueddu i fod yn gymharol uchel ar dir mynyddig ac ar yr arfordir, yn isel ar lawr gwlad ac yn arbennig o isel ar hyd dyffrynnoedd afonydd mawr.
- Mae pryder mawr am gydnerthedd hirdymor mynyddoedd, gweundiroedd a rhostiroedd.
- Mae amryw faterion yn cyfrannu at wanhau cydnerthedd ecosystemau Cymru. Mae hyn yn effeithio ar y manteision a ddaw o'r ecosystemau, ac mae hynny, yn ei dro, yn effeithio ar lesiant pobl.
- Nid oes digon o sylw yn cael ei roi i holl werth ein hadnoddau naturiol a'n hecosystemau yn y gwahanol brosesau o wneud penderfyniadau.
- Er y defnyddiwyd llawer o dystiolaeth a data i lunio'r adroddiad, mae yna fylchau sylweddol yn y data o hyd.
Yr achlysur lansio ac ymateb rhanddeiliaid
Lansiwyd SoNaRR ddydd Llun 3 Hydref. Cymeradwywyd yr adroddiad gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a dywedodd y byddai'n cefnogi penderfyniadau polisi ynghylch (ymhlith pethau eraill) cyfleoedd hamdden, lliniaru newid yn yr hinsawdd, gwarchod natur, ac amaethyddiaeth gynaliadwy mewn ymdrechion i gyrraedd y saith nod llesiant. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet bod SoNaRR yn ddechrau deialog, ac y byddai angen cydweithio ar draws gwahanol sectorau i allu rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn awr ac yn y dyfodol.
Rhoddodd nifer o randdeiliaid areithiau yn cymeradwyo SoNaRR hefyd. Croesawodd Confor y dull sector integredig o weithredu a amlinellwyd yn yr adroddiad, a gwelodd ei fod yn ffordd o wella cysylltedd ac ymgysylltu ar draws y sectorau. Soniodd Dŵr Cymru y byddai SoNaRR yn llywio ei strategaeth i sicrhau bod gwasanaethau dŵr yn gynaliadwy dros yr hirdymor ar gyfer yr amgylchedd a chwsmeriaid fel ei gilydd, yn enwedig yn wyneb y newid yn yr hinsawdd. Croesawyd SoNaRR gan yr RSPB ac amlygodd bwysigrwydd yr asesiadau o gydnerthedd a fydd yn helpu i nodi cyfleoedd ar gyfer adferiad ecolegol. Dywedodd RSPB mai un darn o'r pos oedd SoNaRR a bod yn rhaid i'r gwaith gael cyhoeddusrwydd a bod yn rhaid ymgysylltu ag ef i wireddu Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.