Cyflwyniad
Ar 17 Ebrill 2018, cyfeiriodd Swyddogion Cyfraith Llywodraeth y DU, y Twrnai Cyffredinol ac Eiriolwr Cyffredinol yr Alban, gyfraith deddfwriaeth ymadael yr UE a basiwyd yn Senedd yr Alban, sef Bil Ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) ("Bil Parhad yr Alban"), i’r Goruchaf Lys am ddyfarniad ynghylch p’un a yw o fewn pwerau deddfu datganoledig. Clywyd yr achos ar 24 a 25 Gorffennaf.
Ymyrraeth y Cwnsler Cyffredinol
Ar 7 Mehefin 2018, cyhoeddodd y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad ysgrifenedig yn dweud ei fod wedi gwneud cais i’r Goruchaf Lys am ganiatâd i gymryd rhan yng nghyfeiriad Bil Parhad yr Alban. Ar 3 Gorffennaf fe wnaeth ddatganiad arall yn y Cyfarfod Llawn i gyhoeddi bod ei gyfranogiad yn y trafodion, ynghyd â Thwrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, wedi’i gadarnhau.
Hefyd, pasiodd y Cynulliad ei ddeddfwriaeth "parhad" ei hun, sef Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 ("Y Ddeddf"), ar 21 Mawrth 2018. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgymryd â’i diddymu, yn dilyn newidiadau i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a chytundeb rhynglywodraethol â Llywodraeth y DU. Dadl y Cwnsler Cyffredinol oedd nad oedd ei gyfranogiad yn yr achos yn gysylltiedig â’r Ddeddf, dywedodd y rheswm am hynny oedd:
the issues raised by the Attorney-General and the Advocate General for Scotland in their case raise questions regarding all of the devolution settlements in the UK and are not all limited to the Scottish Bill nor to the Scottish devolution settlement. So, our participation in the Scottish case before the Supreme Court touches upon these issues that extend beyond the Scottish settlement and that relate to the future functioning of the UK after Brexit, where it is vital that Wales has a voice.
Y dadleuon
Roedd y Cwnsler Cyffredinol wedi ffeilio ei achos ysgrifenedig gyda’r Goruchaf Lys ar 16 Gorffennaf 2018. Roedd yn mynd i’r afael â phedwar prif bwynt:
- effaith gadael yr UE ar gymhwysedd y Cynulliad. Honnodd y Cwnsler Cyffredinol y bydd gadael yr UE yn golygu y bydd yr holl bwerau hynny sydd gan yr UE ar hyn o bryd mewn meysydd datganoledig, er enghraifft mewn cysylltiad â chefnogaeth i amaethyddiaeth, heb gael eu cyfyngu gan gyfraith yr UE bellach. Fel y nododd y Goruchaf Lys ei hun yn achos R (ar gais Miller ac un arall) (Ymatebwyr) v Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Apelydd), bydd ymadael â’r UE yn gwella cymhwysedd y deddfwrfeydd datganoledig. Yn ôl y Cwnsler Cyffredinol, mater i’r Cynulliad yw penderfynu, os o gwbl, a yw’n dymuno ‘cronni’ unrhyw un o’r pwerau hynny drwy fframweithiau cyffredin ledled y DU.
- ymarferoldeb deddfwriaethol ymadael. Dadleuodd y Cwnsler Cyffredinol fod deddfu ar gyfer canlyniadau domestig ymadael â’r UE, pan fydd y canlyniadau hynny’n ymwneud â materion nad ydynt wedi’u cadw, heb amheuaeth, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac nid o fewn materion a gedwir yn ôl o ran cysylltiadau rhyngwladol.
- pwerau’r Cynulliad. Cytunodd y Cwnsler Cyffredinol ei bod yn gyfan gwbl o fewn cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu cyn ymadael er mwyn gwneud y newidiadau y mae angen iddynt fod ar waith o’r diwrnod cyntaf ar ôl i’r DU adael yr UE.
- cwmpas pŵer o dan gyfraith gyffredin y llysoedd i adolygu deddfwriaeth y Cynulliad. Dadleuodd y Cwnsler Cyffredinol fod y Goruchaf Lys yn ei gwneud hi’n glir yn yr achos Axa General Insurance Ltd. v. Yr Arglwydd Eiriolwr [2011] CSIH 31 lle mae’r deddfwrfeydd datganoledig sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd yn gweithredu o fewn cwmpas y fframweithiau datganoli a bennir gan y Senedd, caiff eu gweithredoedd eu hadolygu gan y llysoedd ar sail gyfyngedig iawn yn unig, a dim ond lle mae hawliau sylfaenol neu wir hanfod rheol y gyfraith yn y fantol. Ni ystyriodd y Cwnsler Cyffredinol fod Bil Parhad yr Alban yn ddeddfwriaeth o’r math eithafol hwnnw.
Yr achos
Gwnaed y cyfeiriad at y Goruchaf Lys gan y Twrnai Cyffredinol ac Eiriolwr Cyffredinol yr Alban. Eiriolwr Cyffredinol yr Alban ar hyn o bryd yw’r Arglwydd Keen o Elie ac ef a fu’n arwain achos Llywodraeth y DU. Gan gyfeirio at Ddeddf Ymadael y DU, dywedodd yr Arglwydd Keen ei fod yn "gwbl glir" bod bil yr Alban "yn anghyson yn uniongyrchol â Deddf y DU ar y lefelau mwyaf sylfaenol", a dywedodd, "yn syml, ni all y ddau sefyll gyda’i gilydd".
Dywedodd wrth y llys y byddai hyn yn creu "cyfundrefnau deuol ac anghyson" yn y DU, a fyddai’n uniongyrchol yn rhwystro diben Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sef creu un corff cydlynol o gyfreithiau’r UE a gedwir ar ôl Brexit.
Dadleuodd hefyd y gallai Bil Parhad yr Alban effeithio ar gysylltiadau rhyngwladol, sef, maes a gadwyd yn ôl i Senedd y DU. Dywedodd fod "ymadael â’r UE yn fater i Senedd y DU, ac nid oes gan y gweinyddiaethau datganoledig gymhwysedd deddfwriaethol cyfochrog" yn y maes hwn.
Roedd ei ddadl ysgrifenedig yn nodi:
The effect of what the Scottish bill does is to make provision for the future relationship with the EU and EU law when that relationship is under negotiation. That could serve to undermine the credibility of the UK’s negotiating and implementation strategy in the eyes of the EU..
Cyflwynodd yr Arglwydd Eiriolwr James Wolff QC, prif swyddog cyfraith Llywodraeth yr Alban, yr achos ar gyfer bod Bil Parhad yr Alban o fewn cymhwysedd deddfwriaethol. Roedd yn gwrthod dadl Llywodraeth y DU bod Senedd yr Alban yn ceisio amharu ar awdurdod San Steffan mewn trafodaethau rhyngwladol, gan fynnu nad oedd cyfraith yr UE "yn fater a gedwir yn ôl".
Dywedodd yr Arglwydd Eiriolwr fod Bil Parhad yr Alban "yn cael effaith yn y gorchymyn cyfreithiol domestig yn unig... ni all effeithio ar drafodaethau’r DU â’r UE".
Ni ymddangosodd y Cwnsler Cyffredinol ei hun yn y Llys. Cyflwynwyd achos Llywodraeth Cymru gan Michael Fordham QC, a ddywedodd fod sefyllfa’r DU na allai gweinyddiaethau datganoledig ddeddfu mewn meysydd datganoledig a reolir ar hyn o bryd gan yr UE oherwydd eu bod yn cyffwrdd â thrafodaethau cytundeb rhyngwladol yn "honiad rhyfeddol sydd â goblygiadau rhesymegol brawychus iawn". Dywedodd Mr Fordham y byddai hyn yn cyfyngu ar bwerau’r seneddau datganoledig hyd yn oed ar ôl i’r DU adael yr UE ac y trosglwyddir cyfraith Ewrop i gyfraith y DU.
Roedd John Larkin, Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon yn dadlau fod y bil a’i holl ddarpariaethau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd yr Alban.
Wrth gyflwyno ymateb ar ddiwedd y gwrandawiad, fodd bynnag, dadleuodd yr Arglwydd Keen ar ran Llywodraeth y DU nad oedd rhwydd hynt i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban gymryd yn ganiataol na chyflwynir cyfyngiadau deddfwriaethol newydd o ganlyniad i Brexit. Dywedodd ei fod yn "fater i Senedd y DU benderfynu ble y gallai meysydd o gymhwysedd priodol yr Undeb Ewropeaidd fod ar hyn o bryd". Mynnodd yr Eiriolwr Cyffredinol hefyd fod “ymadael â’r Undeb Ewropeaidd heb amheuaeth yn fater cysylltiadau rhyngwladol” oherwydd y bydd y llyfr statud ar ôl Brexit yn annatod ynghlwm â’r mater o ymadael ei hun. Disgwylir dyfarniad y Goruchaf Lys yn gynnar yn yr hydref.
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru