Mae'r Senedd yn arsylwi cyfnod o alaru cenedlaethol yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Y Frenhines. Mae busnes y Senedd wedi'i ohirio ac ni fydd mynediad cyhoeddus i adeilad y Senedd tan ar ôl yr Angladd Gwladol.
Plant sy’n derbyn gofal: pum ystadegyn allweddol
Cyhoeddwyd 20/11/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
Mae’n anodd dychmygu unrhyw un sydd am weld rhagor o blant yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru, ond roedd gwleidyddion o bob rhan o’r sbectrwm gwleidyddol yn ymddangos yn anniddig gan gynnig maniffesto Arweinyddiaeth plaid Lafur Cymru y Prif Weinidog yn 2018 bod ‘angen i Lywodraeth Cymru osod targedau newydd, gorfodol’ i leihau niferoedd.
Nid yw’r Comisiynydd Plant yn cytuno â chael targedau wedi’u gosod ac nid yw pob awdurdod lleol wedi bod yn hapus i ddatblygu’r hyn y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato’n ddiweddarach fel ‘cynllun pwrpasol ar gyfer y disgwyliadau, sydd wedi’i gyd-gynhyrchu’.
Gan gyfeirio at y cynnydd parhaus yn nifer y plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru a Lloegr, dywedodd Llywydd yr Is-adran Llys Teulu ar y pryd yn 2016 ein bod ‘yn wynebu argyfwng clir sydd ar ddod’. Ond roedd yr ‘adolygiad dan arweiniad y sector’ a ddilynodd yn ei gwneud yn glir nad oes atebion syml i’r broblem. Canfu nad oedd casglu tystiolaeth am y ffactorau sy’n cyfrannu at yr argyfwng yn cynnig esboniad syml am y niferoedd cynyddol hyn.
Yn 2019, asesodd yr arolygiaeth berthnasol pa ‘mor dda y mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn cefnogi plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal i fod yn ddiogel a chyflawni canlyniadau cadarnhaol’. Yn yr adroddiad ‘cadarnhaodd yr dystiolaeth a adolygwyd yn ystod yr arolygiad fod plant a phobl ifanc mewn gofal yno yn briodol a bod gan y rhan fwyaf ohonynt ddiogelwch cyfreithiol angenrheidiol’. Cyfeiriodd hefyd at y ‘cynnydd yn nifer y plant sy’n cael cymorth i aros gyda’u teulu neu gyda’u rhieni o dan drefniadau cyfreithiol ar gyfer derbyn gofal’ a bod ‘awdurdodau lleol yn cael eu cymell fwyfwy i letya plant yn yr amgylchiadau hyn oherwydd disgwyliadau’r farnwriaeth’.
Nid yw cyfraith teulu yn fater sydd wedi’i ddatganoli ond dywed adroddiad nodedig yn ddiweddar fod y mater hwn yn pontio’r "‘ffin amrwd’ – rhwng materion datganoledig ac annatganoledig”. Aiff yr adroddiad ymlaen i argymell y “dylai’r gyfraith sy’n ymwneud â chyfiawnder plant a chyfiawnder teuluol yng Nghymru gael ei dwyn ynghyd yn un system gyfreithiol gydlynol sy’n gyson â swyddogaethau mewn perthynas ag iechyd, addysg a lles”.
Gyda hyn o gefndir y cynhelir gwaith craffu ar Adroddiad Blynyddol ar ganlyniadau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal cyntaf Lywodraeth Cymru, yn y Cynulliad, yr wythnos nesaf.
Dyma bum ystadegyn allweddol, a rhai ffyrdd i ganfod rhagor o wybodaeth.
Un: Nifer y plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth, fesul blwyddyn.
Ffynhonnell: StatsCymru Plant sy’n dechrau derbyn gofal yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth fesul awdurdod lleol ac angen am ofal
Dau: Nifer y babanod newydd-anedig sy’n destun achos gofal o fewn pythefnos i’w geni fesul 10,000 o enedigaethau byw.
Ffynhonnell: Arsyllfa Cyfiawnder Teulu Nuffield Born into care: newborns and infants in care proceedings in Wales (Saesneg yn unig) Hydref 2019
Tri: Canran y plant sy’n derbyn gofal yn ôl yr angen am ofal yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019
Ffynhonnell: Stats Cymru Plant sy’n dechrau derbyn gofal yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth fesul awdurdod lleol a’r angen am ofal
Pedwar: Nifer y plant o dan 18 oed sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth 2019 fesul 10,000 o’r boblogaeth
Pump Gwariant awdurdodau lleol fesul plentyn sy’n derbyn gofal yn 2018-19
Cliciwch yma os nad yw’r cynnwys rhyngweithiol ar y dudalen hon yn llwytho.
Ffynonellau: StatsCymru, Plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth fesul 10,000 o boblogaeth o dan 18 oed fesul awdurdod lleol a blwyddyn a Gwariant refeniw y gwasanaethau cymdeithasol yn ôl grŵp cleientiaid (£ miloedd)
I gael rhagor o wybodaeth gallwch edrych ar:
- Rhagor o ystadegau ar wefan StatsCymru;
- Datganiad ystadegol Llywodraeth Cymru:Plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol Ebrill 2018-Mawrth 2019;
- Tudalennau gwe Llywodraeth Cymru Rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant;
- Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad: Adroddiad ar blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, Tachwedd 2018.
- Born into care: newborns and infants in care proceedings in Wales (Saesneg yn unig) Hydref 2019.
- Rhan 7 o Adroddiad y Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru Hydref 2019; a’r
- Adolygiad o’r Argyfwng Gofal, sef adolygiad dan arweiniad y sector o’r cynnydd mewn ceisiadau am orchmynion gofal a nifer y plant mewn gofal, Mehefin 2018.
Erthygl gan Helen Jones, Sian Thomas a Joe Wilkes, Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru