Cyhoeddwyd 10/10/2014
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024
  |  
Amser darllen
munudau
10 Hydref 2014
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_1650" align="alignright" width="198"]
Llun: o Pixabay. dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Y diwrnod ar ôl Refferendwm yr Alban dywedodd
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig:
"I have long believed that a crucial part missing from this national discussion is England. We have heard the voice of Scotland - and now the millions of voices of England must also be heard. The question of English votes for English laws – the so-called West Lothian question – requires a decisive answer.
So, just as Scotland will vote separately in the Scottish Parliament on their issues of tax, spending and welfare, so too England, as well as Wales and Northern Ireland, should be able to vote on these issues and all this must take place in tandem with, and at the same pace as, the settlement for Scotland.
I hope that is going to take place on a cross-party basis. I have asked William Hague to draw up these plans. We will set up a Cabinet Committee right away and proposals will also be ready to the same timetable. I hope the Labour Party and other parties will contribute."
Cyfarfu Pwyllgor y Cabinet ar bwerau datganoledig
am y tro cyntaf ar 25 Medi. Cylch gwaith y pwyllgor yw ystyried pwerau datganoledig ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ochr yn ochr â phwerau newydd ar gyfer yr Alban. Cadeirir y Pwyllgor gan William Hague AS, sy’n Arweinydd Tŷ’r Cyffredin ar hyn o bryd. Yr aelodau eraill yw:
- Canghellor y Trysorlys, George Osborne AS
- Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander AS
- Michael Gove AS, Prif Chwip
- Y Farwnes Stowell, Arweinydd Tŷ’r Arglwyddi
- Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, Alistair Carmichael AS
- Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Iain Duncan Smith AS
- Ysgrifennydd Gwladol dros Ysgolion a dros Swyddfa’r Cabinet, David Laws AS
- Ysgrifennydd Gwladol dros Gymunedau a Llywodraeth Leol, Eric Pickles AS
- Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb AS.
Mae’r rhan fwyaf o’r sylw yn y Wasg ynglŷn â’r Pwyllgor wedi canolbwyntio ar “Bleidleisiau Lloegr ar gyfer Deddfau Lloegr” (EVEL) ond ran amlaf wrth gyfeirio at yr Alban. Fodd bynnag,
adroddwyd bod Alun Cairns AS, Gweinidog Swyddfa Cymru wedi dweud:
"We are a family of nations and the model for Scotland isn't necessarily the right model for Wales. We don't have to be hamstrung by the model that is going to fit Scotland. Therefore the solution between the influence of MPs will be different, and that's the detail that needs to be worked through."
Felly, sut y byddai Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Deddfau Lloegr yn effeithio ar Gymru? Nid oes unrhyw atebion syml oherwydd mae amryw o gynigion gwahanol ar gyfer Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Deddfau Lloegr yn bodoli. Sefydlwyd Comisiwn McKay gan Lywodraeth y DU i ystyried Cwestiwn Gorllewin Lothian ym mis Ionawr 2012 a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Mawrth 2013. Argymhellodd na ddylid atal unrhyw AS rhag pleidleisio ar unrhyw Fil, ac y dylid cadw hawl Tŷ’r Cyffredin yn ei gyfanrwydd i wneud penderfyniadau terfynol. Fodd bynnag, dylai fod cyfle i greu swyddogaethau ychwanegol ar gyfer Aelodau Seneddol o Loegr (neu o Gymru-a-Lloegr). Mae’r dulliau a awgrymwyd yn cynnwys y canlynol :
- dylai Biliau nodi eu cwmpas tiriogaethol fel mater o drefn;
- trefn debyg i’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol (LCM) mewn Uchel Bwyllgor ar gyfer Lloegr (a Chymru) neu ar lawr Tŷ’r Cyffredin cyn ail ddarlleniad o Fil;
- defnyddio pwyllgor biliau cyhoeddus a gyfansoddwyd yn arbennig gyda chydbwysedd rhwng y pleidiau ar gyfer Lloegr neu ar gyfer Cymru-a-Lloegr yw’r lleiaf sydd ei angen fel modd effeithiol o ganiatáu i lais Lloegr (neu Gymru-a-Lloegr) yn cael ei glywed.
Fodd bynnag, mae eraill, er enghraifft,
John Redwood AS, yn dadlau o blaid Senedd ar wahân i Loegr, ond mae’n ymddangos ei fod yn dadlau dros Senedd i Loegr o fewn Senedd San Steffan yn hytrach na Senedd ar wahân fel sy’n cael ei ffafrio gan yr
Ymgyrch dros Senedd i Loegr.
Fel y nododd Uned Gyfansoddiadol Coleg Prifysgol Llundain (UCL) yn ei
Bluffer’s Guide to the English Question, mae anawsterau gweithredu Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Deddfau Lloegr yn sylweddol, ar lefel dechnegol a gwleidyddol.
Yn gyntaf, byddai anhawster adnabod y deddfau hynny sy’n berthnasol i Loegr y byddai hawl i ddim ond AS o Loegr bleidleisio arnynt. Mae cymalau cwmpas tiriogaethol ym Miliau San Steffan yn nodweddiadol yn cwmpasu’r DU, Prydain Fawr, neu Gymru a Lloegr. Mae llawer o Filiau yn amrywio o ran y modd maent yn berthnasol i diriogaethau mewn gwahanol rannau o’r Bil. Er enghraifft, mae’r
Bil Troseddau Difrifol sydd ger bron y Senedd ar hyn o bryd yn dangos cymhlethdod cwmpas tiriogaethol, gyda’r rhan fwyaf yn ymwneud â Lloegr neu Gymru a Lloegr; rhai cymalau’n ymwneud â’r DU gyfan a rhai’n ymwneud â’r Alban a Gogledd Iwerddon yn unig. Mae’n debygol y byddai angen cymryd agwedd wahanol iawn wrth ddrafftio deddfwriaeth ar lefel y DU.
Mater arall yw pwy sy’n pleidleisio a phryd. Mae McKay ac adroddiadau cynharach i gyd wedi cytuno y dylai’r holl AS gael pleidlais adeg y Trydydd Darlleniad gydag AS Lloegr yn unig yn ymdrin â’r Ail Ddarlleniad, a’r cyfnodau Pwyllgorau ac Adrodd. Gan wybod pa mor anghyson yw’r setliad datganoli yng Nghymru gall fod yn her penderfynu a ddylai “Uchel Bwyllgor” o Loegr yn unig neu un o Gymru-a-Lloegr graffu ar Fil. Er enghraifft, mae’r
Ddeddf Lleoliaeth 2011 yn ymwneud yn bennaf â llywodraeth leol yn Lloegr gyda llond llaw o ddarpariaethau yn ymwneud â Chymru. A fyddai AS o Gymru yn eistedd ar y pwyllgor yn ystyried Bil cyffelyb ac yn pleidleisio gydag AS o Loegr, er bod y rhan fwyaf o lywodraeth a swyddogaethau lleol wedi’u datganoli?
Mae atebion eraill sydd wedi’u hawgrymu yn cynnwys lleihau nifer yr AS o Gymru a’r Alban. Mae’r Uned Gyfansoddiadol yn awgrymu, yn seiliedig ar gynsail Gogledd Iwerddon, y gallai Aelodau Seneddol o Gymru leihau o 40 i 22. Fodd bynnag, gellid dadlau y byddai gor-gynrychiolaeth ohonynt o hyd ar faterion yn ymwneud â Lloegr, ond y byddent wedi’u tangynrychioli ar faterion yn ymwneud â’r DU gyfan.
Mae gwrthwynebwyr Pleidleisiau Lloegr ar gyfer Cyfreithiau Lloegr yn nodi bod penderfyniadau ariannu yn parhau i gael effaith ar y DU gyfan. Mae’r
Athro Vernon Bognador yn dadlau hyd yn oed pe bai holl reolaeth treth incwm yn cael ei datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, y byddai’r rhan fwyaf o’r refeniw datganoledig yn parhau i ddod o San Steffan. Mae hyn yn golygu y byddai unrhyw amrywiaeth mewn gwariant ar wasanaeth yn Lloegr megis iechyd yn cael sgil-effaith yn y gwledydd datganoledig. Dyfynna gasgliad Adroddiad Comisiwn Kilbrandon a gyhoeddwyd yn 1973:
"Any issue in Westminster involving expenditure of public money is of concern to all parts of the United Kingdom since it may directly affect the level of taxation and indirectly influence the level of a region’s own expenditure.” There are therefore no specifically “English” domestic matters involving public expenditure."
Mae rhai arbenigwyr cyfansoddiadol megis
Barry Winetrobe yn credu bod Cwestiwn Gorllewin Lothian yn anomaledd yng Nghyfansoddiad y DU y dylid ei dderbyn, yn hytrach na’i ddatrys. Dywed yr Athro Bognador:
"There is, of course, an English Question. But, as long as England rejects federalism, there can be no tidy, symmetrical solution. Asymmetry is the price England pays to keep Scotland within the union."
Fodd bynnag, mae’r momentwm y tu ôl i’r newid yn ei gwneud hi’n annhebygol y bydd y status quo yn cael ei gadw ar hyn o bryd.