--

--

Rheolaeth o bell: darlledu gwasanaeth cyhoeddus

Cyhoeddwyd 15/07/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

Ar 17 Gorffennaf cynhelir dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Y sefyllfa sydd ohoni: Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Mae adroddiad arall wedi dweud bod y cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol. Ond mae cyfyngiadau cyllidebol ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a diffyg cyfeiriad polisi newydd gan Lywodraeth y DU, sy’n gyfrifol am ddarlledu, yn ei gwneud hi’n anodd gweld o ble y daw gwelliannau.

“Mae’r cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol”

Yn 2021, daeth Pwyllgor Diwylliant y Senedd flaenorol i’r casgliad a ganlyn "Mae'r cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol". Ategwyd hyn gan y Pwyllgor presennol yn ei adroddiad ym mis Mawrth 2024, sef Y sefyllfa sydd ohoni: darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yr un mor bryderus yn hyn o beth. “Mae’r sefyllfa bresennol yng Nghymru yn anghynaladwy”, yn ôl Dawn Bowden AS, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth blaenorol , ac “mae angen gweithredu i ddiogelu darlledu cyhoeddus ac i wella amgylchedd y cyfryngau yn gyffredinol yng Nghymru”.

Daeth sylwadau'r Dirprwy Weinidog yn dilyn adroddiad panel arbenigol a luniwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn 2023 a oedd yn nodi “y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol”. Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â gwneud hyn, ac yn lle hynny cyhoeddodd gynlluniau ar gyfer grŵp cynghori.

Dywedodd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn 2024 fod persbectif Cymreig ar faterion y DU yn aml yn absennol mewn cynnwys y cyfryngau ac roedd yn galw am ddiwygiadau cyfansoddiadol i roi llais cryfach i Gymru o ran polisi darlledu. Cyflwynodd adroddiad gan y Sefydliad Materion Cymreig yn 2023 achos dros ddatganoli rhai pwerau darlledu i Gymru, yn dilyn casgliadau tebyg a ddeilliodd o waith Pwyllgor Diwylliant blaenorol y Senedd.

Mae'r casgliad yn yr adroddiadau hyn yn ymddangos yn glir: nid yw cynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael y gwasanaethau cyfryngau y maent yn eu haeddu. Ble y mae modd gwneud gwelliannau, fodd bynnag?

BBC: dwywaith y gwariant ar deledu lleol yn yr Alban o gymharu â Chymru

Yr enghraifft fwyaf o ymyrraeth gyhoeddus ym maes darlledu'r DU yw ffi'r drwydded, sy'n ariannu'r BBC.

Incwm amcangyfrifedig y BBC o ffi’r drwydded a godwyd yng Nghymru yn 2022-23 oedd £187 miliwn, o’i gymharu â gwariant o £208 miliwn (11 y cant yn rhagor) gan y BBC yng Nghymru yn yr un flwyddyn.

Roedd £72 miliwn o hwn yn wariant ar deledu rhwydwaith. Yn ôl telerau ei drwydded weithredu gydag Ofcom, rhaid i o leiaf 5 y cant o wariant y BBC fynd ar raglenni rhwydwaith y DU yng Nghymru (yn 2022 y gwir ffigur hwn oedd 5.4 y cant).

Dros yr wyth mlynedd diwethaf, mae gwariant ar gynnwys teledu Saesneg i gynulleidfaoedd yng Nghymru (neu “gynnwys lleol” fel y’i gelwi) wedi cynyddu o £20.4 miliwn (yn 2014-15) i £36 miliwn (yn 2022-23). Er gwaethaf cynnydd sylweddol o 76 y cant, mae’r ffigur hwn yn fach o’i gymharu â’r gwariant ar gynnwys lleol yn yr Alban. Yno, mae’r angen i lenwi amserlen ar gyfer sianel ar wahân BBC Scotland, yn ogystal â darparu cynnwys ar gyfer BBC One yn yr Alban, yn golygu mai cyfanswm y ffigur cynnwys lleol yw £72 miliwn, sef dwywaith y swm sy’n cael ei wario yng Nghymru.

Pan gafodd ei holi gan y Pwyllgor Diwylliant ynghylch yr anghysondeb hwn, dywedodd Rhuanedd Richards, un o benaethiaid BBC Cymru Wales,: os oes ganddi darged [ar gyfer teledu Saesneg], mai twf o un flwyddyn i’r llall ydyw. Croesawodd y Pwyllgor y nod hwn, a galwodd am gydraddoldeb rhwng gwariant lleol yng Nghymru a’r Alban.

Nid oedd ymateb y BBC i adroddiad y Pwyllgor yn cyfeirio o gwbl at gynyddu cyllid ar gyfer cynnwys lleol yng Nghymru. Mae'r darlledwr wedi wynebu lleihad o 30 y cant mewn termau real o ran incwm cyhoeddus ar gyfer ei wasanaethau yn y DU dros y degawd diwethaf, sy’n codi cwestiynau ynghylch sut y gellid ariannu gwariant ychwanegol.

ITV: mae gwariant y rhwydwaith yng Nghymru wedi lleihau’n sylweddol

Mae ITV yn berchen ar drwydded Channel 3 yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ei fod yn darparu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus (pedair awr o newyddion a 90 munud o raglenni heblaw newyddion i Gymru bob wythnos) yn unol â thelerau trwydded a osodwyd gan Ofcom.

Yn 2022, gwariodd ITV (sy’n berchen ar holl drwyddedau Sianel 3 y DU heblaw’r rhai yn yr Alban) yn agos at 0 y cant o’i wariant rhwydwaith cymwys yng Nghymru, ar ôl i’r rhaglen ‘I’m a celebrity…get me out of here!’ ddychwelyd i Awstralia.

Cyfran y gwariant rhwydwaith cymwys yng Nghymru, fesul darlledwr gwasanaeth cyhoeddus: 2017-2022 (canran)

Mae’r graff yn dangos bod gwariant y rhwydwaith a’r oriau a gynhyrchwyd gan ITV yng Nghymru wedi lleihau i bron sero yn 2022. Roedd gwariant wedi cynyddu’n gyflym yn 2020 ac wedi aros yn uchel yn 2021. ITV sydd â'r ganran isaf o wariant rhwydwaith yng Nghymru o'r holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus.

 

Ffynhonnell: Ofcom, adroddiad Cyfryngau’r Genedl 2023

Galwodd y Pwyllgor Diwylliant am i drwydded nesaf Sianel 3, sy'n dod i ben ddiwedd 2024, fynnu cyfran uwch o gynnwys rhwydwaith yng Nghymru. Ymatebodd Ofcom nad oes ganddo’r pŵer i nodi ble y dylid cynhyrchu, uwchlaw gofyniad bod “o leiaf 35 y cant o gynnwys rhwydwaith gwreiddiol yn cael ei wneud y tu allan i ardal yr M25.”

S4C: dim “ffynhonnell ariannu ddigonol, ddibynadwy, rhagweladwy”

Ynghyd â'r BBC, mae S4C hefyd yn cael ei hariannu o ffi'r drwydded. Er i’r sianel gael cynnydd yn ei setliad ariannu diweddaraf, ers 2010, mae Llywodraeth y DU wedi lleihau cyllid S4C mewn termau real o dros 30 y cant.

Eglurodd S4C wrth y Pwyllgor eu bod wedi torri’r dilledyn i gyfateb i’r brethyn fel petai, drwy roi blaenoriaeth i raglenni plant, drama a chwaraeon. Ond yn ôl y cyn Gadeirydd Rhodri Williams, “mae’n rhaid i ni gael ffynhonnell ariannu ddigonol, ddibynadwy, rhagweladwy”.

Cytunodd y Pwyllgor, gan alw ar Lywodraeth y DU i “gynyddu’n sylweddol” gyllid S4C, ac ystyried defnyddio fformiwla ariannu i roi rhagor o sicrwydd i’r darlledwr ynghylch cyllid yn y dyfodol.

Llywodraeth y DU: croesawu’r Ddeddf Cyfryngau newydd, ond nid yw’n drawsnewidiol

Yn y pen draw, Llywodraeth y DU, sy’n dylunio’r bensaernïaeth ddarlledu yn y DU, sy’n gyfrifol am ysgogi gwelliannau. Hithau hefyd sy’n gosod ffi’r drwydded i ariannu y BBC ac S4C. Mae Ofcom yn gweithredu yn unol â chyfarwyddyd gan San Steffan.

Mae’r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth y DU i nodi sut y gellir gwella’r cynnwys a ddarperir ar y cyfryngau i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Ymatebodd Llywodraeth y DU drwy gyfeirio at wahanol agweddau ar Ddeddf y Cyfryngau 2024.

Mae’r Ddeddf hon yn diweddaru’r broses o reoleiddio darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Yn flaenorol, roedd hyn yn gweithredu o dan system a etifeddwyd o'r oes analog, cyn i'r diwydiant gael ei drawsnewid gan y chwyldro digidol aml-sianel. Croesawodd y Pwyllgor y Ddeddf, tra’n nodi ei bod yn annhebygol o ysgogi gwelliannau sylweddol i lefelau presennol y ddarpariaeth ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru.

Llywodraeth Cymru: llai o gyllid ar gyfer darlledu

Am flynyddoedd lawer, ni wnaeth Llywodraeth Cymru gefnogi datganoli darlledu, sy’n fater a gadwyd yn ôl ar gyfer San Steffan. Ond newidiodd hyn yn 2021 yn dilyn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, a ddaeth i ben ym mis Mai 2024. Polisi presennol Llywodraeth Cymru, yn ei Rhaglen Lywodraethu, yw “mynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu”.

Pan wnaeth y Pwyllgor Diwylliant drafod yr ymrwymiad hwn ag Ysgrifennydd newydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol ym mis Gorffennaf 2024, roedd hi’n taro nodyn ychydig yn fwy gofalus. Pan ofynnwyd iddi a fyddai’n mynd ar drywydd datganoli darlledu, dywedodd nad oedd hi “wedi ffurfio barn hyd yn hyn” ac y byddai’n trafod y mater gyda chydweithwyr yn y Cabinet a Llywodraeth newydd y DU.

Mae cyllideb o £1 miliwn ar gyfer darlledu yn 2024-25, fel y’i nodwyd yng nghyllideb y Cytundeb Cydweithio, wedi’i gwtogi i ddim bron. Dywedodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor mai dim ond £250,000 o hwn fyddai'n mynd ar gyfer darlledu nawr, i ariannu grŵp cynghori y mae cyhoeddiad newydd gael ei wneud yn ei gylch, gyda'r gweddill yn mynd i gefnogi datblygiad sgiliau a newyddiaduraeth y diwydiannau creadigol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog blaenorol bod “angen gweithredu i ddiogelu darlledu cyhoeddus ac i wella amgylchedd y cyfryngau yn gyffredinol yng Nghymru”. A fydd y gweithredu hwn yn ddigon i gynulleidfaoedd weld gwelliannau ar eu sgriniau?


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru