Dyma ddelwedd o’r rheilffordd yn tynnu i mewn i Orsaf Stryd y Frenhines Caerdydd liw nos.

Dyma ddelwedd o’r rheilffordd yn tynnu i mewn i Orsaf Stryd y Frenhines Caerdydd liw nos.

Rhoi'r 'cyhoedd' yn ôl mewn trafnidiaeth gyhoeddus

Cyhoeddwyd 20/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Mae gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd yn cael amser caled yn ystod y pandemig. Sut y gall polisi trafnidiaeth Cymru eu rhoi nhw ar y trywydd iawn, a pham mae hyn yn bwysig?

Mae perfformiad gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd wedi bod yn destun pryder ers blynyddoedd. Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi achosi cwymp yn nifer y teithwyr ac o ran refeniw. Mae’r ddau ddull teithio yn derbyn cymorth achubol ers mis Mawrth diwethaf.

Bydd adferiad y sector yn bwysig os yw Cymru am gyflawni rhai o’i blaenoriaethau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol. Ac eto, nid yw’n glir faint o alw a fydd am y dulliau trafnidiaeth hyn yn y dyfodol, na hyd yn oed beth fydd eu pwrpas ar ôl y pandemig.

O ran adferiad, bydd rhaid i lunwyr polisi ac ymarferwyr yn y Chweched Senedd ymateb yn effeithiol i roi trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl ar y trywydd cywir.

Beth sydd wedi digwydd i nifer y teithwyr?

Nid peth newydd yw problemau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae nifer y teithwyr ar y bysiau yn gostwng ers tua degawd. Mewn cyferbyniad, mae nifer y teithwyr ar y rheilffyrdd wedi cynyddu’n gyson, ond roedd trenau gorlawn ac oedran y stoc yn broblemau parhaus i Drenau Arriva Cymru, fel y maen nhw i Reilfyrdd Trafnidiaeth Cymru ers hynny. 

Mynegai teithiau defnyddwyr ar wasanaethau bysiau lleol mis Ebrill-Mehefin 2010 i fis Hydref-Rhagfyr 2020

Dyma graff sy'n dangos y mynegai ar gyfer Cymru a Phrydain Fawr. Mae'r llinell sylfaen 100 y cant yn cyfateb i’r cyfnod Ebrill-Mehefin 2011. Rhwng 2010 a diwedd 2019, gostyngodd Cymru a Phrydain Fawr yn gyffredinol, gyda pheth amrywiad. Yna cafwyd gostyngiad sydyn i tua 10 y cant o'r llinell sylfaen yn y cyfnod Ebrill-Mehefin 2020 ac adferiad rhannol i 27 y cant i Gymru a 40 y cant i Brydain Fawr yn y cyfnod Gorffennaf-Medi 2020.

Ffynhonnell: Ystadegau chwarterol ar gyfer bysiau, Adran Drafnidiaeth y DU

 

Mynegai teithiau ddefnyddwyr rheilffordd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru a Phrydain Fawr, mis Ebrill-Mehefin 2011 i fis Hydref-Rhagfyr 2020

Dyma graff sy'n dangos mynegai cyfanswm Trafnidiaeth Cymru a Phrydain Fawr. Mae'r llinell sylfaen 100 y cant yn cyfateb i’r cyfnod Ebrill-Mehefin 2011. Rhwng 2011 a diwedd 2019, cynyddodd teithiau gan ddefnyddwyr rheilffordd Trafnidiaeth Cymru a Phrydain Fawr yn gyffredinol, gydag amrywiad tymhorol bach. Yna cafwyd gostyngiad sydyn yn y cyfnod Ebrill-Mehefin 2020 i tua 10 y cant o'r llinell sylfaen ac adferiad rhannol i 27 y cant i Drafnidiaeth Cymru a 40 y cant i Brydain Fawr yn y cyfnod Hydref-Rhagfyr 2020.

Ffynhonnell: Defnydd teithwyr o’r rheilffyrdd, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd

 

Mae effaith y pandemig wedi bod yn ysgytwol. Mae nifer y bobl sy’n defnyddio bysiau a’r rheilffyrdd wedi cwympo’n aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bu gostyngiad 95 y cant yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn nyddiau cynnar y pandemig o'i gymharu â'r defnydd yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol.

O ystyried yr effaith ar dagfeydd a’r amgylchedd, testun pryder hefyd yw’r ffaith bod y defnydd o geir ym Mhrydain Fawr yn gyffredinol wedi cynyddu’n gyflymach o lawer nag y mae’r defnydd o fysiau a’r rheilffyrdd - ffaith a briodolir yn rhannol, yn ôl ymchwil RAC, i bryderon ynghylch diogelwch a diffyg dewisiadau amgen digonol.

Amcangyfrif o'r defnydd o ddulliau trafnidiaeth ym Mhrydain Fawr ers Ebrill 2020

Dyma graff sy'n dangos, ar gyfer Prydain Fawr yn gyffredinol, fynegai amcangyfrifon o’r defnydd o drafnidiaeth ar gyfer beiciau, ceir, bysiau (ac eithrio Llundain) a’r rheilffyrdd cenedlaethol ers mis Mawrth 2020 (mae'r llinellau sylfaen yn amrywio). Mae hyn yn dangos bod bysiau a’r rheilffyrdd yn benodol ymhell o dan y llinell sylfaen, lle maen nhw’n aros. Gwelwyd cwymp ar gyfer pob cerbyd modur hefyd, ond cafwyd adferiad cyflymach ac maen nhw’n aros ar lefel uwch, er o dan y llinell sylfaen.

Ffynhonnell: Y defnydd o drafnidiaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), Adran Drafnidiaeth y DU

Noder: Cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth y DU nodyn ar y fethodoleg ar gyfer y data hwn yn amlinellu ei chyfyngiadau. Mae llinellau sylfaen y ddau ddull teithio yn wahanol.

 

Pam mae trafnidiaeth gyhoeddus yn bwysig?

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn helpu gyda materion economaidd-gymdeithasol allweddol megis cynhwysiant cymdeithasol a mynediad i waith. Mae chwarter yr aelwydydd heb ddefnydd car ac mae Sefydliad Bevan wedi tynnu sylw at rôl trafnidiaeth gyhoeddus wrth gefnogi cynhwysiant cymdeithasol, gan gynnwys i bobl hŷn ac i bobl ag incwm isel.

Mae tystiolaeth i Bwyllgor Deisebau'r Senedd yn nodi bod un o bob pum swydd a gynigir ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy yn cael ei wrthod oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus wael neu dagfeydd ar y ffyrdd.

Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dod â buddion i’r amgylchedd. Mae trafnidiaeth ar y ffyrdd yn achos sylweddol o lygredd aer ac ansawdd aer gwael, felly gall bysiau allyriadau isel a gwasanaethau rheilffordd wella ansawdd yr aer. O ran newid hinsawdd, mae adroddiad cynghori diweddaraf Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU i Lywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod 14 y cant o allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru yn dod o drafnidiaeth ar yr arwyneb yn fwy cyffredinol yn cyfrannu, sy’n uwch fesul pen na’r ffigur ar gyfer y DU gyfan. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn nodi bod trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn flaenoriaethau ar gyfer datgarboneiddio yng Nghymru.

Cymorth achubol i drafnidiaeth gyhoeddus

Ymatebodd Llywodraeth Cymru ddiwethaf i’r cwymp yn nifer y teithwyr drwy drefnu cymorth achubol ar unwaith i wasanaethau bysiau a Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, gan roi rownd gychwynnol o gymorth ariannol brys ym mis Mawrth 2020

Rhoddwyd cymorth pellach i’r rheilffordd ym mis Mai y llynedd, cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn yr hydref y byddai Trafnidiaeth Cymru yn dod â gwasanaethau rheilffordd i berchnogaeth gyhoeddus fel eu “gweithredwr pan fetha bopeth arall”. Disgwylir i’r trefniant bara o leiaf bum mlynedd.

Daeth y gefnogaeth gychwynnol i wasanaethau bysiau yn rhan o’r blaenoriaethau ehangach ar gyfer diwygio ar ffurf y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau newydd (gweler blwch 1).

Gyda'i gilydd, cafodd y ddau ddull teithio gwerth £200 miliwn o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn 2020-21, gyda mwy i ddod yn 2021-22.

Diwygio bysiau

Oherwydd y pandemig, cafodd cynlluniau ar gyfer Bil Gwasanaethau Bysiau eu gohirio, felly cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddiwethaf y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau, gan gyfuno cyllid brys â rôl gynyddol i lywodraeth leol a TC yn y broses o gynllunio rhwydweithiau.

Rhagwelodd Llywodraeth Cymru flaenorol y byddai'r rôl gynyddol hon i'r llywodraeth yn para, ac felly fe barhaodd i ddatblygu deddfwriaeth i'w holynydd ei hystyried. Mewn cyferbyniad, mae gweithredwyr bysiau yn rhagweld y byddant yn dychwelyd i rwydwaith “masnachol” sy’n llai dibynnol ar arian cyhoeddus, ac felly maen nhw’n barnu bod y ddeddfwriaeth yn ddiangen.

Beth yw'r cynllun ar gyfer adferiad?

Mewn llawer o wledydd a dinasoedd mae eu hadferiad trafnidiaeth yn canolbwyntio ar symudedd cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus. Yng Nghymru, ac yn ehangach ym Mhrydain Fawr, mae cyrff anllywodraethol megis Ffocws ar Drafnidiaeth, yr Ymgyrch dros Dafnidiaeth Well a Transform Cymru wedi cyhoeddi blaenoriaethau ôl-COVID-19 sy'n cefnogi'r dull hwn.

Ym mis Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru flaenorol Strategaeth Drafnidiaeth Cymru newydd, sy'n adlewyrchu ei blaenoriaethau ehangach ar gyfer ail-greu ar ôl COVID-19. Un o flaenoriaethau’r strategaeth yw lleihau'r angen i deithio, ynghyd â newid o geir preifat i ddulliau mwy cynaliadwy. Yn arwyddocaol, mae'n cynnwys targed i gynyddu cyfran y siwrneiau ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithiau llesol o 32 y cant i 45 y cant erbyn 2040.

Ynghyd â diwygio bysiau, bydd llwyddiant y tair system Metro arfaethedig yn hanfodol er mwyn adfer trafnidiaeth gyhoeddus, fel y bydd cynlluniau i fynd i'r afael â thagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd (blwch 2) a threfniadau llywodraethu trafnidiaeth newydd (blwch 3).

Dyfodol coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Fis Tachwedd diwethaf, cyhoeddodd Comisiwn Burns argymhellion terfynol ynglŷn â dewisiadau amgen yn lle ffordd liniaru’r M4, gan ganolbwyntio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Er i Lywodraeth Cymru ddiwethaf eu derbyn, mae'r argymhellion yn gofyn am fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd nas datganolwyd.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer gwaith archwiliadol i argymhellion rheilffordd yr Arglwydd Burns. Fodd bynnag, mae Prif Weinidog y DU yn cefnogi ffordd liniaru, ac mae’r  Ysgrifennydd Gwladol wedi ei disgrifio fel yr ateb mwyaf amlwg i dagfeydd.

 

Llywodraethu trafnidiaeth

Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cael eu sefydlu er mwy cyflawni rhai o swyddogaethau llywodraeth leol Cymru yn rhanbarthol, gan gynnwys cynllunio trafnidiaeth.

Roedd Llywodraeth Cymru ddiwethaf yn ystyried ei chorff trafnidiaeth, sef Trafnidiaeth Cymru, fel y “dewis cyntaf” i gyflenwi ar gyfer y cyd-bwyllgorau corfforedig hyn. Ond nid yw llywodraeth leol bob amser wedi bod yn glir ynglŷn â’r berthynas rhwng Trafnidiaeth Cymru a'r strwythurau trafnidiaeth rhanbarthol arfaethedig.

Bydd y berthynas hon yn hanfodol er mwyn cyflawni nodau'r strategaeth drafnidiaeth newydd ac adferiad trafnidiaeth gyhoeddus.

Fodd bynnag, nid yw pob ysgogiad polisi ar gael i Gymru ar hyn o bryd. Yn benodol, gallai cynlluniau Llywodraeth y DU i ddiwygio’r rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr fod â goblygiadau mawr i Gymru (blwch 4).

Diwygio’r rheilffyrdd

Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau gweithredol, yn enwedig mewn perthynas â gwasanaethau rheilffyrdd, mae'r rheilffyrdd yn fater a gedwir yn ôl i raddau helaeth. Llywodraeth y DU sydd â rheolaeth gyffredinol ar y system reilffyrdd, gan gynnwys seilwaith rheilffyrdd Cymru y tu allan i Brif Linellau’r Cymoedd.

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru o’r farn bod Cymru ar ei cholled o ran gwariant gwella seilwaith rheilffyrdd, ac fe ddatblygodd achos strategol dros fuddsoddi.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganlyniad adolygiad sylfaenol  o reilffyrdd ym Mhrydain Fawr ar 20 Mai. Mae’n cynnig “meddwl arweiniol” canolog newydd – “Great British Railways” – ar gyfer y system ledled Prydain. Byddai “awdurdodau datganoledig” yn parhau i arfer eu pwerau cyfredol, a byddai “cytundeb cydweithio” newydd yn cael ei weithredu rhwng Cymru a’r corff newydd.

Nid yw’r goblygiadau llawn ar gyfer Cymru yn hysbys eto, ond nid yw’n ymddangos bod llawer o brif ofynion Llywodraeth flaenorol Cymru o’r broses ar eu ffordd.

Pwrpas newydd i drafnidiaeth gyhoeddus?

Ar ôl i'r argyfwng fynd heibio, bydd yn rhaid ateb y cwestiwn o hyd ynglŷn â sut olwg fydd ar drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl y pandemig.

Amlygodd Llywodraeth Cymru flaenorol ansicrwydd ynghylch effaith y pandemig ar y galw am deithio yn y dyfodol. Mae arolygon barn y cyhoedd a gwaith gan Ffocws ar Drafnidiaeth yn awgrymu y bydd newid hirdymor i deithio o ran arferion a’r galw, yn enwedig os bydd gweithio o bell yn ymsefydlogi yn ynol â bwriad Llywodraeth Cymru flaenorol.

Bydd angen i bolisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru nesaf sicrhau bod gwasanaethau bysiau a gwasanaethau rheilffyrdd yn gallu addasu i'w pwrpas newydd, os ydys am gadw’r targedau uchelgeisiol yn y strategaeth drafnidiaeth newydd a'u cyrraedd. 

Wrth wneud hynny, bydd angen iddi hefyd fynd i'r afael â materion lluosflwydd megis integreiddio â dulliau eraill, cydgysylltu â meysydd polisi sy’n cynhyrchu teithiau megis iechyd a chynllunio defnydd tir, mynd i'r afael â thagfeydd, a rheoli'r galw.

Mae talcen caled o flaen y Llywodraeth newydd yng Nghymru.


Erthygl gan Andrew Minnis, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru