Sgiliau: y ffordd i ffyniant

Cyhoeddwyd 13/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Mae sgiliau’n hanfodol er mwyn gwneud Cymru yn genedl fwy llewyrchus. Fodd bynnag, nid yw’n ddigon codi lefelau cymwysterau ymysg y boblogaeth. Mae yna heriau eraill y mae'n rhaid eu goresgyn, er enghraifft ysgogi’r galw gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch.

Mae sgiliau’n ffactor allweddol wrth wella cynhyrchiant a chyflog, gyda’r naill beth a’r llall yn llywio twf economaidd a gwell safonau byw.

Er 2008, mae lefelau cymwysterau ymhlith y boblogaeth oedran gweithio yng Nghymru wedi codi'n sylweddol

Eto i gyd, mae Cymru – fel y DU – yng nghanol problem hirsefydlog o ran cynhyrchiant, gyda rhannau o'r genedl yn gaeth i “gylch o sgiliau isel, cyflogau isel a chynhyrchiant isel”.

Mae ‘cynhyrchiant sy’n llusgo’i draed’ – ochr yn ochr â chynyddu lefelau cymwysterau – yn dangos nad yw unrhyw berthynas rhwng sgiliau a ffyniant yn un syml.

Ymhlith yr heriau a fydd yn wynebu Llywodraeth newydd Cymru mae’r angen i ystyried y galw gan cyflogwyr am sgiliau, gwneud yn siŵr bod cynnwys cymwysterau’n gywir, y niferoedd sy’n dewis dysgu gydol oes a’r ddarpariaeth o hynny.

Gall lefelau cymhwyster fod yn fwy na’r galw gan gyflogwyr amdanynt

Mae cyflenwi’r farchnad lafur â chymwysterau’n debygol o barhau i dyfu, ond mae’n bosibl na fydd y galw gan gyflogwyr am sgiliau lefel uchel yn mynd bob yn gam â hynny.

Dyma’r hyn y mae un astudiaeth yn ei ragweld:

Bydd y cyflenwad o bobl â chymwysterau uchel iawn yn tyfu'n gyflymach na'r galw am gymwysterau o'r fath.

Mae hyn eisoes yn digwydd yng Nghymru, lle tyfodd lefelau cymwysterau rhwng 2004 a 2018 yn fwyaf cyflym yn y galwedigaethau â'r sgiliau isaf, gyda'r gyfradd gorgymhwyso yn aros yn sefydlog ar oddeutu 40% yn y degawd i 2017.

At hynny, mae cryn ddadlau dros effaith awtomeiddio a thechnoleg ar rai swyddi. Gellid creu swyddi newydd a dileu rhai presennol, neu eu newid yn sylweddol. Fodd bynnag, mae rhai arbenigwyr yn annog pwyll yn erbyn hyn:

[assuming] the introduction of new technologies will automatically raise the demand for more skilled workers, increase productivity or reduce income inequality in Wales

Nid oes gan gyflogwyr ddiddordeb bob amser mewn gweithwyr medrus iawn

Mae llawer o fentrau'n dwyn elw heb weithlu medrus iawn. Mae hynny’n golygu bod llawer o weithwyr yng Nghymru yn gweithio mewn 'ecwilibriwm sgiliau isel' lle mae galw isel gan gyflogwyr am sgiliau lefel uchel yn golygu nad oes fawr o ofyn na chymhelliant i weithwyr ennill sgiliau lefel uwch.

Er y gall y cwmnïau hyn fod yn rai sy’n dwyn elw, mae ecwilibriwm sgiliau isel yn gysylltiedig â canlyniadau personol tlotach a chyflog is i'w gweithwyr.

Fodd bynnag, nid yw cynyddu'r cyflenwad o weithwyr medrus yn unig yn ddigonol, gall olygu nad yw cyflogwyr yn gwneud y defnydd llawnaf o’r sgiliau hynny. Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn esbonio fel a ganlyn:

having skills is not enough; to achieve growth, both for a country but also for an individual, skills must be put to productive use at work

Goblygiad y polisi yw bod yn rhaid ystyried cyflenwi sgiliau i'r farchnad lafur, a galw gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch, ar yr un pryd.

Mae canlyniadau negyddol i gamgymhariadau rhwng cyflenwad sgiliau a galw am sgiliau.

Un canlyniad yn unig yw ecwilibriwmau sgiliau isel o’r rhyngweithio rhwng cyflenwad sgiliau a'r galw am sgiliau.

Canlyniadau rhyngweithio rhwng cyflenwad sgiliau a galw gan gyflogwyr

Ffynhonnell: Addaswyd o Future of Skills & Lifelong Learning a Low skill traps in sectors and geographies.

Gall cyflenwad a galw anghymharus arwain at brinder sgiliau a gwargedion o sgiliau. Er bod rhywfaint o gamgymhariad sgiliau yn normal mewn economi ddeinamig, fe all:

slow the adoption of new technologies, cause delays in production, increase labour turnover and reduce productivity.

Mae yna dri modd o geisio alinio sgiliau â'r galw:

  • Dewis y dysgwr: pan fo darparwyr yn addasu eu cwricwlwm i gyd-fynd â galw’r dysgwyr. Gellir dadlau mai hwn yw'r model sydd ar waith yn sector addysg uwch y DU.
  • Cynllunio’r ddarpariaeth yn ganolog: pan fo corff canolog neu ranbarthol yn casglu data a gwybodaeth am y farchnad lafur i ragweld galw gan gyflogwyr am sgiliau fel y gellir cynllunio darpariaeth sgiliau yn ganolog. Dyma sail model y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol a ddefnyddir yng Nghymru.
  • Penderfyniad y farchnad: pan fo dysgwyr yn rhydd i ddewis eu rhaglenni, ond mae'r rhaglenni sy'n cael eu cynnig yn cael eu llywio yn ôl galw gan gyflogwyr, er enghraifft y rhaglen brentisiaeth.

Mae'r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr yn nodi dealltwriaeth o gamgymhariadau sgiliau yng Nghymru.

Mae cyfranogiad mewn addysg yn cwympo gydag oedran, ac mae’r niferoedd sy’n dysgu rhan-amser yn parhau i ostwng

Mae adroddiad gan Swyddfa Gwyddoniaeth Llywodraeth y DU yn honni fel a ganlyn:

Collectively [changes to employment patterns] point to lifelong learning as the pathway for skills-driven economic growth, building on the skills that individuals have when they leave the education system, and enabling workers to adapt to changing demands for skills.

Fodd bynnag, mae'r data yn creu darlun heriol.

Yn gyffredinol, mae cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant sgiliau yn disgyn yn sylweddol gydag oedran, gyda nifer y dysgwyr mewn addysg bellach ac uwch, a dysgu yn y gweithle yn syrthio’n sylweddol o 40 oed ymlaen.

Yn 2019, roedd dros dri chwarter y bobl ifanc 16-18 oed mewn addysg neu hyfforddiant. Mae hyn yn syrthio i ychydig dros draean y bobl ifanc 19-24 oed (myfyrwyr addysg uwch yn bennaf) ac mae'n gostwng ymhellach ymhlith pobl 25-30 oed i ychydig dros 10%.

Ar yr un pryd, bu tuedd negyddol sylweddol o’r niferoedd sy’n dysgu rhan-amser mewn addysg uwch a phellach, ac addysgi oedolion yn y gymuned .

Er ei bod yn ymddangos bod diwygiadau diweddar i gymorth i fyfyrwyr addysg uwch rhan-amser wedi ysgogi cynnydd mewn dysgu rhan-amser addysg uwch, mae dadansoddiad pellach yn dangos bod y cynnydd hwn wedi'i lywio gan y Brifysgol Agored. Mae hyn yn awgrymu bod y cwymp mewn dysgu rhan-amser mewn addysg uwch o leiaf, yn peri problem gymhleth i lunwyr polisi, sy'n mynd y tu hwnt i'r gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn unig.

Y tueddiad o ran dysgwyr rhan-amser yng Nghymru

Ffynhonnell: StatsCymru

Mae cyflogwyr yn ffynhonnell allweddol o ddysgu gydol oes. Eto i gyd, er bod cyfran y gweithwyr o Gymru sy’n cael hyfforddiant yn y gweithle wedi cynyddu, mae dwyster yr hyfforddiant wedi gostwng. Ar ben hynny, nid yw’r darlun yn un gwastad, gydag un dadansoddiad yn dangos fel a ganlyn:

Benywod, pobl iau, rhai â chymwysterau uwch, deiliaid swyddi â lefel uwch o sgiliau a’r rhai sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus sy’n elwa fwyaf [o hyfforddiant yn y gweithle].

Mae rhai yn dadlau nad yw cymwysterau sgiliau presennol yn paratoi dysgwyr ar gyfer newid

Mae yna ddadl barhaus ym maes polisi sgiliau ynghylch pa briodoleddau y dylai cyrsiau eu datblygu mewn dysgwyr.

A ddylai darpariaeth sgiliau ganolbwyntio ar baratoi dysgwyr ar gyfer tasgau penodol sy'n gysylltiedig â swydd, neu’n gynnig mwy eang, gyda mwy o bwyslais ar addysg gyffredinol a 'sgiliau meddal' y mae’n wybyddus bod cyflogwyr yn eu hystyried fel bod o werth?

Gan herio’r hyn y mae'n ei ystyried fel y status quo, mae adroddiad a gomisiynwyd gan Colegau Cymru yn dadlau nad oes digon o addysg gyffredinol yng nghymwysterau galwedigaethol y DU:

Yn wahanol i'r ysgol a'r brifysgol, mae llawer o Addysg Bellach yn ymwneud â chymwyseddau sy'n berthnasol ar unwaith. […] Yn lle cymwyseddau mae’n bwysig bod addysg alwedigaethol yn datblygu’r syniad ehangach o alluogrwydd – gan roi’r gallu i ddinasyddion addasu’n gyflym i amgylchiadau sydd yn newid..

Yr heriau o'n blaenau

Mae sgiliau yn un ffordd allweddol o wneud Cymru yn fwy llewyrchus. Fodd bynnag, er bod lefelau cymwysterau yng Nghymru wedi codi, bydd Llywodraeth newydd Cymru yn wynebu heriau dyfnach eraill os ydyw am wneud yn siŵr bod y system sgiliau yn cyflawni ei photensial i wella ffyniant Cymru.


Erthygl gan Phil Boshier, Gwasanaeth Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru