Ym mis Mai 2019, cyhoeddodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ei adroddiad: ‘Datblygu Trafnidiaeth yng Nghymru i’r Dyfodol’. Mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru wedi ymateb, cyn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Gorffennaf 2019.
Trafnidiaeth Cymru
Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn 2015 fel is-gwmni dan berchnogaeth lawn Llywodraeth Cymru. TC yw'r sefydliad trosfwaol, ac mae elfen y rheilffyrdd, 'Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC', a redir gan KeolisAmey, yn gweithredu Gwasanaeth Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.
Dechrau Trafnidiaeth Cymru
Pwrpas cychwynnol TrC oedd caffael, datblygu a gweithredu gwasanaethau masnachfraint rheilffyrdd a Metro newydd Cymru ar gledrau'r cymoedd, yn dilyn datganoli pwerau caffael masnachfraint y rheilffyrdd. Ym mis Mai 2018, cyhoeddwyd bod KeolisAmey wedi ennill y fasnachfraint hyd at fis Hydref 2033.
Dechreuodd Gwasanaethau Rheilffyrdd TrC weithredu ym mis Hydref 2018 gan addo buddsoddiad mawr. Ym mis Mawrth 2019, cyflwynodd y Pwyllgor adroddiad ar yr achosion sylweddol o darfu cynnar ar wasanaethau rheilffyrdd TC o fis Tachwedd 2018 ymlaen.
Ymchwiliad i ddatblygu TrC yn y dyfodol
Cynhaliwyd ymgynghoriad y Pwyllgor o fis Tachwedd 2018 i fis Ionawr 2019, a chafwyd 27 o ymatebion ysgrifenedig. Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor yn cynnwys:
- A yw llywodraethu, strwythur a chyllid TrC ar hyn o bryd yn effeithiol ac yn dryloyw;
- Y camau gweithredu a ddylai ddatblygu'r agweddau hyn, a'r modelau llywodraethu sydd ar gael; a
- Rôl a chyfrifoldebau TrC yn y dyfodol, a'r berthynas â Llywodraeth Cymru ac awdurdodau eraill.
Ymwelodd y Pwyllgor â Manceinion ym mis Ionawr i gyfarfod â chyrff gweithredol trafnidiaeth o ogledd Lloegr. Yng Nghaerdydd, clywodd dystiolaeth ffurfiol gan amrywiaeth o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys undebau llafur, darparwyr trafnidiaeth, academyddion a grwpiau teithwyr.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob argymhelliad a gofynnodd i TrC ymateb yn uniongyrchol i ddeg ohonynt. Trafodir isod ganfyddiadau allweddol a manylion yr ymateb.
Trefniadau llywodraethu a chylch gwaith TrC
Roedd pryderon ynghylch trefniadau llywodraethu TrC yn amlwg yn 2017, pan gynhaliodd y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad i Fasnachfraint Rheilffyrdd a Metro De Cymru, daeth o hyd i 'wendidau clir yn ei drefniadau llywodraethu'.
Yn y lle cyntaf, roedd rôl TrC yn ymwneud â gwasanaethau rheilffyrdd. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2018, gosododd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar y pryd, uchelgeisiau ehangach. Dywedodd mai’r nod 'yw y bydd mwy o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn eiddo i Drafnidiaeth Cymru, neu’n cael ei weithredu ganddynt, yn uniongyrchol.', ac y byddai gan TrC 'amrywiaeth lawer ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth, yn debyg o ran ei natur i weithrediadau Transport for London'. Eglurodd y Gweinidog fod achos busnes hefyd yn cael ei ddatblygu ynghylch rôl TrC yn y dyfodol.
Ym mis Rhagfyr 2018, hysbysodd Llywodraeth Cymru y Pwyllgor ESS fod TrC wedi bod yn gweithredu yn seiliedig ar lythyrau cylch gwaith tymor byr a chynllun busnes chwe misol. Roedd y Pwyllgor o'r farn bod y trefniadau hyn yn annigonol. Hyd yn hyn, nid oes cynllun busnes tymor hir nac achos busnes wedi'u cyhoeddi. Fodd bynnag, mae TrC wedi cyhoeddi Cynllun Busnes tymor byr (1 Hydref 2018 - 31 Mawrth 2019).
Roedd ehangu rôl TrC a'i gyfrifoldebau newydd yn faes a oedd o gryn ddiddordeb i'r Pwyllgor. Mae Llythyr cylch gwaith TrC yn ei ddisgrifio fel 'corff darparu trafnidiaeth arbenigol', sy’n gweithio mewn 'capasiti proffesiynol ac ymgynghorol'. Er bod Llywodraeth Cymru wedi nodi'n glir y byddai'r cyfrifoldeb polisi yn aros gyda'r Llywodraeth, roedd tystiolaeth gan randdeiliaid yn awgrymu bod TrC wedi bod yn rhan o’r gwaith datblygu polisi. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor, eglurodd Prif Weithredwr TrC, James Price, fod TrC wedi ymgymryd â gwaith o gynllunio 'darnau ymgynghorol' i Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac mewn un achos, ar gyfer y sector preifat.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod manylion y gwaith ymgynghori hwn yn aneglur, ac aeth James Price ymlaen i dderbyn bod rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at ddiffyg eglurder ynghylch beth yw cylch gwaith TrC a beth sydd ddim yn rhan o’r cylch gwaith. Roedd y Gweinidog hefyd yn cydnabod nad oedd un pwynt cyswllt yn cynnig gwybodaeth am bwy sy'n gyfrifol am beth.
Yn yr adroddiad cyfredol, dywedodd y Pwyllgor na allai argymell pa fodel llywodraethu y dylid ei ddefnyddio nes bod eglurder o ran cylch gwaith TrC. Argymhellodd fel a ganlyn:
Mae angen i Lywodraeth Cymru benderfynu beth y mae am i Trafnidiaeth Cymru ei gyflawni cyn cytuno ar fodel llywodraethu penodol…rhaid iddo ddiffinio cylch gorchwyl Trafnidiaeth Cymru yn glir, a datrys y tensiynau a grëir yn sgil bod â rolau o ran datblygu a chyflwyno polisi.
Rolau a chysylltiadau yn y dyfodol
Ar ôl i'r Pwyllgor ddechrau ei ymchwiliad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ymgynghoriad Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus drwy newidiadau deddfwriaethol i wasanaethau bws a thacsis a cherbydau hurio preifat. Roedd y Papur Gwyn hefyd yn cynnwys cynigion i sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth - sef strwythurau rhanbarthol/cenedlaethol statudol a fyddai'n ysgwyddo’r cyfrifoldeb am rai swyddogaethau trafnidiaeth llywodraeth leol. Gallwch ddarllen rhagor am Gyd-awdurdodau Trafnidiaeth a'r Papur Gwyn yn ein blog blaenorol. Ehangodd y Pwyllgor ei ymchwiliad i ystyried sut beth allai’r cyswllt fod rhwng Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth a TrC.
Roedd y Pwyllgor yn pryderu am gysylltiad TrC â Chyd-awdurdodau Trafnidiaeth yn y dyfodol, ac argymhellodd:
Felly, rhaid cyhoeddi achos busnes Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol Trafnidiaeth Cymru cyn y Papur Gwyn nesaf neu ochr yn ochr ag ef, a gwneud y berthynas ag Awdurdodau Trafnidiaeth ar y Cyd yn glir, fel bod strwythur cyffredinol llywodraethu trafnidiaeth yng Nghymru yn glir.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn cadarnhau y bydd yn cyhoeddi achos busnes TrC ochr yn ochr â'r Papur Gwyn nesaf ar y ddeddfwriaeth sydd ei hangen i sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth.
Tryloywder
Roedd tryloywder yn fater allweddol yn ystod yr ymchwiliad. Roedd pryderon ynghylch tryloywder ac arbenigedd y Bwrdd, hyd yn oed ar ôl sefydlu Fframwaith Gweithredu Bwrdd TrC. Awgrymodd yr Athro Ian Docherty y byddai angen i'r Bwrdd allu herio prosesau gwneud penderfyniadau a bod yn 'gyfaill beirniadol'.
Tynnodd rhanddeiliaid eraill sylw at y ffaith nad oes gan y Bwrdd arbenigedd ym maes trafnidiaeth - er bod TrC wedi egluro yn ei ymateb i'r adroddiad ei fod am benodi 'cyfarwyddwr anweithredol â phrofiad a gwybodaeth addas o’r sector trafnidiaeth'.
Codwyd materion yn ystod yr ymchwiliad ynghylch nifer yr ymgynghorwyr a oedd yn gweithio i TrC a’u rolau. Canfu'r Pwyllgor fod manylion y gwaith a wneir gan yr ymgynghorwyr yn aneglur. Mewn tystiolaeth ysgrifenedig, dywedodd TrC y bydd galw parhaus am ymgynghorwyr, er mwyn sicrhau cydnerthedd a hyblygrwydd.
Argymhellodd y Pwyllgor y dylai TrC gyhoeddi siart misol, tryloyw o wneuthuriad y sefydliad cyfan (nid y Bwrdd yn unig). Dylai'r siart esbonio'r rolau yn y sefydliad, a datgan yn glir a yw staff yn ymgynghorwyr, gan gynnwys manylion eu gwaith arbenigol. Argymhellodd hefyd y dylai TrC gyhoeddi ar ei wefan ganlyniadau’r arolwg dienw ynghylch boddhad staff.
Ymateb Llywodraeth Cymru a TrC
Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o'r 13 argymhelliad. Aeth TrC i'r afael â nifer o’r argymhellion yn uniongyrchol. Yn sicr, bydd y Pwyllgor yn croesawu mwyafrif yr ymrwymiadau, er enghraifft, addewid Llywodraeth Cymru i gyhoeddi achos busnes. Fodd bynnag, hwyrach bod rhai cwestiynau’n dal heb eu hateb.
Cytunodd y Llywodraeth y bydd angen i drefniadau llywodraethu TrC 'ddatblygu' os yw ei gylch gwaith am ehangu. Yn ei ymateb, gwrthododd y pryderon bod gorgyffwrdd rhwng rolau o fewn y Llywodraeth a TrC:
Mae cyfansoddiad Trafnidiaeth Cymru fel is-gwmni dan berchnogaeth lawn, felly, yn sicrhau bod gwahaniaeth rhwng cyfrifoldeb dydd i ddydd Trafnidiaeth Cymru i gyflenwi ei weithgarwch sy'n rhan o'i gylch gwaith i weithredu a rheoli gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith, a'r cyfrifoldeb a ysgwyddir gan Weinidogion Cymru am bob mater sy'n ymwneud â thrafnidiaeth.
Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn mynd i'r afael â'r dryswch ymhlith rhai rhanddeiliaid, a gydnabuwyd gan Brif Weithredwr TrC, oni wneir mwy o ymdrech i ddiffinio’r rolau i'r cyhoedd.
Efallai fod ymatebion ehangach hefyd yn esgor ar gwestiynau pellach i'r Pwyllgor. Wrth drafod tryloywder ynghylch trefniadau staffio a materion o ran ymgynghori, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cyfarwyddo TrC i wneud ymdrech gynyddol i gyflawni swyddogaethau’n fewnol. Ond yn ei ymateb i Argymhelliad 3, ynghylch cyhoeddi siart misol ar draws y sefydliad (gan gynnwys ymgynghorwyr), dywedodd TrC:
Ar hyn o bryd, rydym yn cyhoeddi enwau a chyfrifoldebau ein tîm uwch […] Credwn fod hyn yn gymesur ag arfer da, fel sydd yn amlwg oddi wrth yr Awdurdodau Trafnidiaeth eraill […] rydym yn bwriadu cyhoeddi contractau gwerth dros £25,000 a ddyfarnwyd ar ein gwefan yn chwarterol.
Darparodd TrC linciau â siartiau bwrdd/uwch dîm rheoli Transport for London, Transport Scotland, a Transport for the North fel enghreifftiau o arfer da. Fodd bynnag, lle mae TrC yn darparu manylion ynghylch aelodau'r Bwrdd, mae Transport for London, er enghraifft, hefyd yn cyhoeddi siartiau manylach ynghylch y sefydliad ar ei wefan, ac mae manylion aelodau'r Bwrdd y cyfeiriwyd atynt gan TrC wedi eu cyhoeddi ar wahân, gan awgrymu y gallai TrC wneud mwy.
Efallai fod ymateb TrC i’r mater ynghylch cysylltiadau ag undebau llafur hefyd yn esgor ar gwestiynau pellach hefyd. Roedd TrC yn cydnabod pwysigrwydd meithrin cysylltiadau ag undebau llafur, a dywedodd ei fod yn awyddus i ffurfioli unrhyw gytundebau cyn gynted â phosibl. Eto i gyd, roedd hyn yn lled adlewyrchu tystiolaeth lafar gan TrC yn ystod yr ymchwiliad, a oedd yn dilyn tystiolaeth gan undebau a oedd yn feirniadol o ffyrdd TrC o weithredu. Er enghraifft, dywedodd PCS:
… we finally have union recognition, but what we don’t have is everything else that goes with it, which means how often we would meet with the employer, what our terms of reference are, what it is that we would negotiate and consult with the employer on. So, there’s a raft of issues … but our experience, unfortunately, hasn’t been a good one so far.
Yn y pen draw, bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru a TrC i'r argymhellion hyn yn dod yn glir wrth i'r sefydliad ddatblygu. Bydd tystiolaeth yn dod i law wrth gyhoeddi Cynllun Busnes tymor hir a'r achos busnes, penderfyniadau ar gylch gwaith a threfniadau llywodraethu TrC, a mesurau tryloywder y sefydliad yn y dyfodol. Mae gan TrC rôl allweddol i'w chwarae wrth wella trafnidiaeth yng Nghymru a bydd y Pwyllgor yn sicr o fonitro’r cynnydd â diddordeb brwd.
Erthygl gan Holly Tipper, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Tipper gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau.