Er bod Llywodraeth Cymru yn dal i annog pobl i fynd ar wyliau gartref yr haf hwn, mae teithio rhyngwladol wedi cael ei ganiatáu ers mis Mai gyda rhai cyfyngiadau y mae’n rhaid cadw atynt. Mae'r rheolau a'r gofynion mynediad perthnasol ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd Cymru (gan gynnwys pobl sy'n glanio mewn meysydd awyr yn Lloegr) yn amrywio yn ôl y wlad y maent yn teithio ohoni.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys rhai o’r cwestiynau cyffredin ynghylch teithio rhyngwladol.
Pa ofynion sydd angen cadw atynt cyn i mi deithio dramor o Gymru?
Bydd angen i deithwyr sy'n gadael Cymru wirio gofynion a chyfyngiadau mynediad y wlad y maent am ymweld â hi. Mae'r rhan fwyaf o wledydd angen naill ai dystiolaeth o ddau frechiad, prawf COVID-19 negyddol cyn cychwyn, cyfnod cwarantin, neu gyfuniad o'r rhain.
Lle bo angen prawf cyn cychwyn, mae angen trefnu'r prawf drwy ddarparwr profion preifat, yn hytrach na thrwy'r GIG.
Mae Swyddfa Dramor Llywodraeth y DU yn cynnig cyngor a chanllawiau ynghylch y gofynion mynediad ar gyfer y sawl sy'n teithio i wledydd neu diriogaethau dramor. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn argymell y dylid gwirio gyda’r cwmnïau hedfan, fferi neu drenau ynglŷn â’r rheolau ar gyfer teithiau a lleoliadau penodol.
Nid yw'r un rheolau a chyfyngiadau mynediad o reidrwydd yn berthnasol i holl deithwyr y DU i union yr un graddau. Denmarc oedd y wlad gyntaf yn yr UE i wahaniaethu rhwng pedair gwlad y DU wrth bennu eu gofynion mynediad. Er bod Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu hystyried yn ardaloedd 'coch' ar hyn o bryd, mae Cymru wedi'i dynodi'n 'oren', sy'n golygu bod y gofynion mynediad yn llai llym i deithwyr sy'n cyrraedd yn uniongyrchol o Gymru, ond mae’r gofynion yr un peth os ydyn nhw'n teithio trwy wlad arall yn y DU.
Pa ofynion sydd angen cadw atynt pan fyddaf yn cyrraedd Cymru o wlad dramor?
Rhaid i bob teithiwr rhyngwladol sy'n cyrraedd Cymru gwblhau ffurflen lleoli teithwyr a dangos tystiolaeth o brawf COVID-19 negyddol cyn teithio i Gymru, â’r prawf hwnnw wedi ei gwblhau heb fod yn gynharach na thridiau cyn dechrau eu taith. Mae hyn yn berthnasol i bob teithiwr dros 11 oed, gyda dirwy bosibl o £500 i'r rhai sy'n methu â dangos tystiolaeth o’r fath.
Ar ôl i deithwyr gyrraedd y DU, mae system goleuadau traffig wedi'i chyflwyno i bennu unrhyw ofynion profi neu ynysu pellach. Caiff gwledydd eu dosbarthu fel rhai gwyrdd, ambr neu goch, yn dibynnu ar ffactorau megis cyfraddau’r coronafeirws a phresenoldeb amrywiadau newydd o’r feirws. O ran pa gyfyngiadau pellach yn union sy'n berthnasol, mae hyn yn dibynnu ar ddosbarthiad y wlad y mae teithwyr wedi cyrraedd ohoni.
Mae rhai eithriadau, er enghraifft ar gyfer pobl sy'n teithio at ddibenion gwaith neu chwaraeon elitaidd.
Mae teithwyr unigol sy'n teithio i Gymru yn gyfrifol am drefnu unrhyw gyfnodau cwarantin neu brofion sydd eu hangen drwy borth archebu CTM. Rhaid archebu'r cyfnodau cwarantin a’r profion hyn cyn gadael. Mae'r gofyniad i ddefnyddio porth CTM wedi cael ei feirniadu gan rai, gyda phrofion wedi'u harchebu drwy'r system hon yn costio mwy na rhai profion preifat sydd ar gael i deithwyr sy'n teithio i Loegr.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r rheswm am hyn yw gan fod CTM yn defnyddio profion y GIG, yn hytrach na phrofion preifat, gyda'r canlyniadau wedyn yn cael eu hanfon yn uniongyrchol i systemau GIG Cymru. Mae hyn yn helpu i nodi unrhyw amrywiadau niweidiol ac yn ei gwneud yn haws olrhain cysylltiadau.
Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan AS wrth WalesOnline fod y gwahaniaeth hwn hefyd oherwydd bod rhai o’r cwmnïau profion preifat wedi “bod yn aneffeithlon iawn” wrth ddychwelyd canlyniadau a bod hyn yn arwain at “bobl yn methu mynd ar eu gwyliau”.
Y gwledydd a’r tiriogaethau ar y ''rhestr goch'' yw'r rhai yr ystyrir eu bod yn cyflwyno'r risg uchaf o drosglwyddo COVID-19.
Ni chaiff pobl sy'n teithio o wledydd rhestr goch, neu bobl sydd wedi teithio drwy wlad ar y rhestr goch yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, deithio'n uniongyrchol i Gymru, a rhaid iddynt gyrraedd drwy borth mynediad dynodedig yn Lloegr neu'r Alban. Yn ogystal â llenwi ffurflen lleoli teithwyr a darparu tystiolaeth o brawf COVID-19 negyddol wedi’i gymryd cyn gadael, rhaid i'r teithwyr hyn:
- dreulio cyfnod cwarantin o 10 diwrnod mewn gwesty cwarantin rheoledig;
- sefyll prawf COVID-19 ar yr ail ddiwrnod o’r cyfnod cwarantin, neu cyn hynny, ac ar yr wythfed diwrnod o’r cyfnod cwarantin, neu cyn hynny, a dyma’r achos i bob teithiwr 5 oed neu hŷn.
Mae’r gofynion ar deithwyr sy'n cyrraedd o wlad ambr yn dibynnu ar eu statws brechu o dan raglenni brechu'r DU, yr UE neu UDA. Rhaid i deithwyr sydd wedi'u brechu'n llawn (ac sydd wedi cael eu dos olaf o frechlyn cymeradwy o leiaf 14 diwrnod cyn cyrraedd Cymru):
- lenwi ffurflen lleoli teithwyr;
- bod â thystysgrif prawf cyn gadael sy'n dangos prawf COVID-19 negyddol o fewn 72 awr cyn gadael; a
- sefyll prawf COVID-19 ar yr ail ddiwrnod, neu cyn hynny (5+ oed).
Bydd angen i deithwyr dros 18 oed nad ydyn nhw wedi'u brechu'n llawn hefyd hunanynysu am 10 diwrnod a sefyll prawf COVID-19 ar yr wythfed diwrnod. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar yr hyn y caiff teithwyr ei wneud wrth hunanynysu, a’r hyn na chânt ei wneud.
Gwledydd y ''rhestr werdd'' yw'r gwledydd hynny y bernir eu bod yn peri risg is o drosglwyddo’r coronafeirws.
Rhaid i deithwyr sy'n cyrraedd o wledydd y rhestr werdd:
- lenwi ffurflen lleoli teithwyr;
- ddarparu tystysgrif prawf cyn gadael sy'n dangos prawf COVID-19 negyddol o fewn 72 awr i’w hamser teithio; a
- sefyll prawf COVID-19 ar yr ail ddiwrnod, neu cyn hynny (5+ oed).
Rheolau ar gyfer pobl sy’n cyrraedd o wledydd ar y rhestr goch, oren a gwyrdd
Coch |
Oren (pobl nad ydynt wedi’u brechu) |
Oren (pobl sydd wedi’u brechu*) |
Gwyrdd |
|
Ffurflen Lleoli Teithwyr |
✓ | ✓ | ✓ | ✓ |
Prawf cyn ymadael |
✓ | ✓ | ✓ | ✓ |
Prawf ar ddiwrnod 2 |
✓ | ✓ | ✓ | ✓ |
Prawf ar ddiwrnod 8 |
✓ | ✓ | ✘ | ✘ |
Cyfnod cwarantin 10 diwrnod mewn gwesty |
✓ | ✘ | ✘ | ✘ |
Cyfnod hunanynysu 10 diwrnod |
Amherthnasol | ✓ | ✘ | ✘ |
* Yn cyfeirio at deithwyr a gafodd y dos terfynol o frechlyn cymeradwy, a weinyddir o dan raglenni brechu'r DU, yr UE neu'r Unol Daleithiau, o leiaf 14 diwrnod cyfan cyn y dyddiad cyrraedd yng Nghymru
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Beth os bydd angen i mi brofi fy statws brechu ar gyfer teithio?
Mae pawb sydd wedi'u brechu'n llawn ac sy’n 16 oed neu’n hŷn yn gymwys i gael pàs COVID-19 digidol gan y GIG. I'r sawl sydd angen tystiolaeth eu bod wedi cael eu brechu cyn teithio i wlad arall, gellir lawrlwytho neu argraffu'r tocyn digidol hwn fel dogfen PDF.
Gall y sawl na allant ddefnyddio tocyn digidol neu'r sawl a hoffai dystysgrif ddwyieithog ofyn am bàs ar ffurf papur. Gellir gofyn am dystysgrifau papur bythefnos ar ôl gorffen cwrs brechu llawn, a gallant gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i gyrraedd.
Ydw i wedi fy eithrio rhag rhai gofynion os ydw i wedi cael fy mrechu y tu allan i'r DU?
Ar 28 Gorffennaf, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai Cymru yn dilyn Lloegr wrth ganiatáu i deithwyr o’r UE ac UDA sy'n cyrraedd o wledydd rhestr ambr ddod i mewn i Gymru heb orfod hunanynysu. Nododd y Gweinidog Iechyd, er eu bod yn “gresynu” penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar ofynion cwarantin, “byddai’n aneffeithiol cyflwyno trefniadau ar wahân i Gymru”, oherwydd y ffin agored â Lloegr.
Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i deithwyr sydd wedi'u brechu'n llawn â brechlyn a gymeradwywyd gan Weinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau UDA neu Asiantaeth Meddyginiaethau Ewrop o leiaf 14 diwrnod cyn teithio i Gymru. Yn UDA, nid oes cynllun pasbort brechlyn cenedlaethol i’w gael, ac mae'r dystiolaeth o frechiadau sydd ar gael yn amrywio fesul talaith. Yn Ewrop, mae tystysgrif Covid-19 Digidol yr UE ar gael fel tystiolaeth o frechiad yn holl Aelod-wladwriaethau'r UE, yn ogystal ag yn y Swistir, Gwlad yr Iâ, Norwy a Liechtenstein.
Mae teithwyr sy'n dod i Gymru a'r DU yn dal i fod yn ddarostyngedig i ofynion mynediad amrywiol ni waeth beth yw eu statws brechu yn yr UE neu UDA.
Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth?
Mae rhagor o wybodaeth fanwl am y rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol i ac o Gymru i'w gweld yng nghanllaw swyddogol Llywodraeth Cymru.
Er bod y rheoliadau sy'n nodi'r gofynion yn cael eu hadolygu'n ffurfiol bob 28 diwrnod, gwneir newidiadau’n amlach yn fynych. Er bod y wybodaeth yn yr erthygl hon yn gywir adeg ei chyhoeddi, dylai teithwyr ddarllen y canllawiau swyddogol rhag ofn y bydd unrhyw newidiadau.
Erthygl gan Aoife Mahon, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru