Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

Llun o laswelltir sy’n frith o rywogaethau

Tirlun newydd ar gyfer ffermwyr a natur?

Cyhoeddwyd 25/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Yn ystod y Chweched Senedd, byddwn yn gweld y newidiadau mwyaf i bolisïau rheoli tir mewn degawdau. Beth allai hyn ei olygu i gymunedau gwledig a'r amgylchedd naturiol?

Yn sgil ymadael â’r UE, bydd Cymru yn gallu datblygu cynlluniau amaethyddol unigryw. Mae gan bolisi ffermio, sydd wedi'i ddatganoli, oblygiadau o ran amgylchedd, economi a diwylliant Cymru, ac mae’r pwnc hwn wedi bod yn bwnc llosg ers refferendwm yr UE.

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn cynnig newid polisi ffermio yn sylfaenol er mwyn cefnogi dull ehangach o reoli tir yn gynaliadwy, gan symud i ffwrdd o’r drefn o dalu amaethwyr yn benodol am gynhyrchu bwyd. Er bod amgylcheddwyr wedi croesawu'r dull hwn, mae tensiynau wedi dod i’r amlwg mewn cymunedau ffermio, wrth i’r undebau alw am daliadau am gynhyrchu bwyd. Bydd penderfyniadau polisi yn y dyfodol yn cael eu gwneud yng nghyd-destun tirlun cymhleth o ran masnach bwyd-amaeth, ac yng nghyd-destun yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Ystadegau ffermio Cymru (mae'r ffigurau hyn ar gyfer 2018 neu 2019, yn dibynnu ar y rhai diweddaraf sydd ar gael)

Ystadegau ffermio Cymru – 90% y ganran o arwynebedd tir Cymru sy’n cael ei defnyddio ar gyfer ffermio; 0.45% cyfran amaethyddiaeth o GVA Cymru; £7.47 biliwn gwerth y diwydiant bwyd; £397 miliwn y swm a ddarperir i ffermwyr mewn taliadau PAC; 3.51% cyfran amaethyddiaeth o gyflogaeth yng Nghymru; 43% canran y gweithwyr yn y sector amaeth, coedwigaeth a physgota sy’n siarad Cymraeg; 81% y ganran o arwynebedd tir amaethyddol Cymru a ddynodwyd yn dir mewn ardal lai ffafriol (LFA); £23,500 incwm busnes fferm, ar gyfartaledd.

Ffynhonnell: Arolwg Mehefin, Amaethyddiaeth yn y DU 2019 , Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Cymru, Amaethyddiaeth yng Nghymru 2019, Ffeithiau a ffigurau amaethyddiaeth: 2019.

Cefnu ar Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE

Ymunodd y DU â Pholisi Amaethyddol Cyffredin yr UE (PAC) ym 1973. Yn wreiddiol, roedd ffermwyr yn cael incwm i ategu’r prisiau a oedd yn cael eu talu am eu cynnyrch, a hynny er mwyn sicrhau diogelwch bwyd a safonau byw da. Fodd bynnag, roedd y drefn hon yn annog ffermwyr i or-gynhyrchu, gan arwain at y 'llynnoedd gwin' a’r 'mynyddoedd menyn' bondigrybwyll a welwyd ar ddiwedd yr 20fed ganrif.

Cafwyd diwygiadau mawr i’r PAC yn 2005, pan symudodd y system tuag at gyfundrefn o daliadau a oedd yn seiliedig yn fras ar arwynebedd y tir a oedd yn cael ei ffermio. Roedd ffermwyr yn cael taliadau uniongyrchol (yn fwyaf diweddar drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS)), ynghyd â chymorth datblygu gwledig (er enghraifft, cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir).

Mae llawer o ffermwyr yng Nghymru wedi dibynnu’n sylweddol ar y PAC am eu hincwm, yn enwedig Cynllun y Taliad Sylfaenol, a hynny i raddau mwy helaeth na’r hyn a welwyd mewn unrhyw wlad arall yn y DU.

Incwm ffermydd

Incwm ffermydd mewn miloedd (£) – Amaethyddiaeth: Pob fferm - 6; Llaeth - 62; Gwartheg a defaid LFA - -5; Gwartheg a defaid yr iseldir - 5. Arallgyfeirio: Pob fferm - 3; Llaeth - 2; Gwartheg a defaid LFA - 3; Gwartheg a defaid yr iseldir - 3. Cynlluniau amaeth-amgylcheddol: Pob fferm - 5; Llaeth - 2; Gwartheg a defaid LFA - 6; Gwartheg a defaid yr iseldir - 2. Cynllun y Taliad Sylfaenol: Pob fferm - 21; Llaeth - 17; Gwartheg a defaid LFA - 23; Gwartheg a defaid yr iseldir - 14.

* LFA = Ardal Lai Ffafriol, ** BPS = Cynllun y Taliad Sylfaenol

Ffynhonnell: Yr Arolwg Busnesau Fferm (data fel yr adroddwyd arnynt yn Amaethyddiaeth yng Nghymru 2019)

Mae'r DU bellach wedi cefnu ar y PAC, ac mae system interim sy’n debyg i’r PAC yn cael ei chynnal o dan Ddeddf Amaethyddiaeth y DU 2020 hyd nes y bydd Cymru’n pontio i gynlluniau domestig newydd. Bu anghytuno rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU Llywodraeth flaenorol Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch a gyflawnwyd yr addewid i ddarparu arian cyfatebol llawn ar gyfer y cynlluniau dan sylw. Daw hyn yn sgil dehongliadau gwahanol o gyllid parhaus yr UE a gaiff ei ddarparu drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig.

Mae rhai o’r farn bod cefnu ar y PAC yn gyfle i wneud newidiadau radical, gan ddadlau bod y PAC wedi llesteirio’r broses o wella’r amgylchedd,, wedi dosbarthu taliadau mewn modd annheg (gan fod ffermydd mwy yn cael mwy o gymorth), ac wedi bod yn rhy gymhleth.

Mae eraill yn parhau i fod yn wyliadwrus, o ystyried y ddibyniaeth drom ar incwm Cynllun y Taliad Sylfaenol a'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig ag ymadael â’r UE a phandemig COVID-19.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ym mis Rhagfyr 2020 ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru) (y bwriedir ei gyflwyno yn nhymor yr haf 2022), a hynny at ddibenion sefydlu cynlluniau rheoli tir newydd.

Polisi ffermio yn y dyfodol sy’n seiliedig ar nwyddau cyhoeddus?

Mae’r cynigion yn y Papur Gwyn yn nodi dull gwahanol ac uchelgeisiol iawn o ddarparu cymorth amaethyddol. Yn seiliedig ar yr egwyddor o reoli tir yn gynaliadwy, byddai'r polisi dan sylw yn gwobrwyo ffermwyr am ddarparu 'nwyddau cyhoeddus' o'r tir, gan gynnwys deilliannau cymdeithasol ac amgylcheddol. Gellir dadlau bod y polisi hwn yn mynd y tu hwnt i'r PAC, gan gefnogi gwaith ehangach i wella gweithgarwch rheoli tir.

Yn wahanol i'r PAC, ni fyddai ffermwyr yn cael cymorth penodol ar gyfer cynhyrchu bwyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau, yn sgil y ffaith bod gan fwyd werth ar y farchnad, ni ddylid ei ystyried yn fudd cyhoeddus, ac felly ni ddylai’r wladwriaeth ei ariannu'n uniongyrchol.

Yn hytrach, byddai’r cyllid a ddarperir yn canolbwyntio ar fuddion cynhyrchu bwyd cynaliadwy na ellir eu marchnata, megis gwella bioamrywiaeth a dal a storio carbon. Gallai hyn ddigwydd drwy wella amrywiaeth blodau gwyllt ar ffermydd, neu drwy blannu coed ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd.

Mae amgylcheddwyr wedi croesawu’r cynigion hyn yn fras, gan dynnu sylw at yr argyfyngau hinsawdd a natur sydd wedi’u datgan. Mae rhai yn galw am gyflymu’r broses o bontio i’r drefn newydd. Ar y llaw arall, mae ffermwyr yn dadlau y dylai cynhyrchu bwyd fod yn gymwys i gael cymorth penodol, gan fynegi pryderon ynghylch dyfodol cymunedau gwledig os yw’r cymorth uniongyrchol hwn yn cael ei golli.

O dan y cynigion newydd, mae’n bosibl y bydd gofyn i ffermydd arallgyfeirio eu gweithgarwch er mwyn atgyfnerthu gwytnwch eu busnesau, ac mae nifer wedi croesawu hynny. Fodd bynnag, mae academyddion wedi rhybuddio bod busnesau fferm yng Nghymru yn wynebu sawl rhwystr wrth geisio arallgyfeirio eu gweithgarwch, fel ansawdd tir gwael yn yr ucheldiroedd a phellter o ganolfannau poblogaeth.

Tirlun masnach newydd, yn ddomestig ac yn rhyngwladol, ar gyfer y sector bwyd-amaeth

Bydd polisi amaethyddol y dyfodol yn cael ei ddatblygu yng nghyd-destun cytundebau masnach newydd. Mae ffermwyr yn galw am strategaeth fasnach sy'n ceisio sicrhau'r mynediad mwyaf posibl i farchnadoedd tramor, gan ddiogelu safonau uchel Cymru o ran ei bwyd a’i gweithgarwch ffermio.

Ystadegau masnach bwyd-amaeth (yn ôl gwerth)

Daw'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael o 2019, cyn i'r DU ymadael â Marchnad Gyffredin yr UE.

Mae sector bwyd-amaeth y DU yn dibynnu'n fawr ar fasnach dramor – yn 2019 roedd 55 y cant o'r bwyd a fwytawyd a’r ddiod a yfwyd yn y DU wedi ei gynhyrchu yn y DU.

Mewnforion: Yr UE yw’r brif ffynhonnell o ran mewnforion bwyd a diod y DU: o'r UE y daeth 26 y cant o'r bwyd a fwytawyd a’r ddiod a yfwyd yn y DU yn 2019. Y ffynonellau mewnforion bwyd a diod mwyaf ar ôl hynny oedd Affrica, Gogledd America, De America ac Asia (gyda phob un o'r rhain yn darparu 4 y cant o'r bwyd a fwytawyd).

Allforion: Yr UE hefyd yw’r brif farchnad ar gyfer allforion bwyd y DU, ac aeth ychydig o dan 60 y cant o allforion bwyd a diod y DU i’r UE yn 2019. Mae Cymru'n allforio cyfran uwch o'i hallforion bwyd a diod i'r UE na'r DU gyfan, ac aeth 75 y cant o gyfanswm allforion bwyd a diod Cymru i’r UE yn 2019. Y tu hwnt i'r UE, y marchnadoedd mwyaf ar gyfer allforion o Gymru yn 2019 oedd UDA, Twrci, Awstralia, Saudi Arabia a Chanada.

Roedd Llywodraeth flaenorol Cymru yn arddel brand bwyd o Gymru a fyddai’n seiliedig ar gynaliadwyedd amgylcheddol a chymdeithasol, ac a fyddai'n ategu'r cynllun nwyddau cyhoeddus i ffermwyr. Bydd penderfyniadau Llywodraeth y DU ynghylch masnach ryngwladol yn dylanwadu ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni’r uchelgais hon.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai cytundebau masnach newydd gynnig cyfleoedd ar gyfer y sector bwyd-amaeth. Fodd bynnag, mae rhai busnesau yng Nghymru yn pryderu am y posibilrwydd o gystadleuaeth frwd â mewnforion sy’n destun safonau is, , ac yn pryderu hefyd am rwystrau newydd i fasnach rhwng y DU a'r UE.

Masnach mewn cig oen

Llif masnach ar gyfer cig oen o ffermydd Cymru – Da byw yng Nghymru: 4.65 miliwn: mamogiaid bridio, 4.89 miliwn: ŵyn. Cynnyrch: 63,000 o dunellau o gig yng Nghymru, 287,000 o dunellau yn y DU. Defnydd yn y DU: 298,000 o dunellau (4.8kg / y pen / fesul blwyddyn). Allforion y DU: 78,100 o dunellau i gyd, 76,000 o dunellau i'r UE. Mewnforion i’r DU: 89,600 o dunellau o Seland Newydd ac Awstralia (67,000 o dunellau ac 11,400 o dunellau, yn y drefn honno).

Ffynhonnell: Ffeithlun wedi’i addasu o’r cyhoeddiad Amaethyddiaeth yng Nghymru 2019

Ar lefel y DU, mae’r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer gwahaniaethau polisi yn dod yn fwyfwy cymhleth. Mae fframweithiau cyffredin, marchnad fewnol y DU, a rhwymedigaethau rhyngwladol y DU i gyd yn cyfyngu ar ryddid Llywodraeth Cymru i weithredu yn y maes hwn. (Gweler yr erthygl ar Gymru yn y DU.)

Er enghraifft, bydd goblygiadau sylweddol i bolisïau bwyd-amaeth yn sgil Deddf Marchnad Fewnol 2020. Mae Rhan 1 o'r Ddeddf yn golygu bod hawl gwerthu cynhyrchion sy'n bodloni safonau mewn un rhan o'r DU yn awtomatig mewn unrhyw ran arall o’r DU, hyd yn oed os yw'r safonau'n wahanol. Mae hyn wedi arwain at bryderon y bydd y rheolau sydd ar waith yn y farchnad fwyaf, sef Lloegr, yn gyrru safonau ledled y DU.

Datblygu polisi ffermio yn y dyfodol yng nghyd-destun yr argyfyngau hinsawdd a natur

Bydd polisïau amaethyddol yn cael eu datblygu yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a gafodd ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru a’r Senedd yn 2019, a’r argyfwng natur, fel y’i disgrifiwyd gan y sector amgylcheddol.

O safbwynt cytuniad y Confensiwn ar Fioamrywiaeth, daethpwyd i’r casgliad yn ddiweddar fod y gymuned ryngwladol wedi methu o ran ei nod deng mlynedd i atal colli natur erbyn 2020. Roedd yr adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gan y sector amgylcheddol, sef Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, yn tynnu sylw at y ffaith bod 17 y cant o rywogaethau yng Nghymru yn wynebu’r bygythiad o ddifodiant. (Gweler yr erthygl ar newid hinsawdd).

Asesiad o’r risg o rywogaethau’n diflannu yng Nghymru (llinell sylfaen 1970)

Ffeithlun yn dangos bod 666 (neu 17 y cant) o’r 3,902 o rywogaethau a gafodd eu hasesu dan fygythiad, a bod 73 ohonynt (neu 2 y cant) wedi diflannu.

Ffynhonnell: Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019

Mae’r pwyslais cyhoeddus a gwleidyddol sydd wedi dod i’r amlwg o ran sicrhau adferiad gwyrdd yn dilyn pandemig COVID-19 wedi ysgogi dadleuon ynghylch 'datrysiadau sy’n seiliedig ar natur', fel rheoli dalgylchoedd er mwyn lleihau llifogydd, a chael coedwig genedlaethol er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd. Heb amheuaeth, bydd polisïau ffermio yn y dyfodol yn rhan o'r dadleuon hyn.

Ni fydd y broses o wneud penderfyniadau ar bolisïau amaethyddol yn y Chweched Senedd yn un hawdd. Bydd angen i wleidyddion ystyried hyfywedd a diwylliant cymunedau gwledig, yr amgylchedd masnach sy'n datblygu, a'r argyfyngau natur a hinsawdd sydd wedi’u datgan. Mae'n amlwg y bydd polisïau'r dyfodol yn arwain at effeithiau pellgyrhaeddol.


Erthygl gan Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru