- mae darparu a chynnal toiledau cyhoeddus yng Nghymru yn ôl disgresiwn yr awdurdodau lleol (nid oes unrhyw ddyletswydd i’w darparu);
- mae toiledau cyhoeddus yn gostus i awdurdodau lleol ac o ganlyniad i hynny, maent o dan fygythiad i gau ledled Cymru;
- mae’r Cynllun Grant Toiledau Cymunedol presennol (sy’n ad-dalu awdurdodau lleol am grantiau i fusnesau lleol am ganiatáu mynediad am ddim i’r cyhoedd i doiledau) yn gyfyngedig gan ei fod yn canolbwyntio’n unig ar sefydliadau preifat; ac
- mae cynllunio gwael o ran gwneud y defnydd gorau o doiledau o fewn adeiladau cyhoeddus e.e. llyfrgelloedd cyhoeddus, canolfannau chwaraeon ac ati
Toiledau cyhoeddus yng Nghymru
Cyhoeddwyd 02/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau
2 Gorffennaf 2014
Erthygl gan Amy Clifton, Gwasanaeth Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru)
Un o themâu papur gwyn Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) Llywodraeth Cymru yw ‘adeiladu asedau cymunedol’ - mae hyn yn cynnwys cynnig i gryfhau rôl awdurdodau lleol wrth gynllunio ar gyfer darparu toiledau at ddefnydd y cyhoedd, a mynediad iddynt. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 24 Mehefin 2014.
[caption id="attachment_1362" align="alignright" width="300"] Llun: o Wikimedia Commons. Dan drwydded Creative Commons[/caption]
Yn y papur gwyn, mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod costau i iechyd y cyhoedd a chostau amgylcheddol i’r gymuned ehangach o gyfleusterau toiled annigonol.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi nifer o heriau gyda’r system bresennol yn llywodraethu mynediad y cyhoedd i doiledau, gan gynnwys: