Y prif gynigion: cydgyfeirio rheoleiddiol
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn arwain ar y trafodaethau gyda'r Unol Daleithiau ar ran aelod-wladwriaethau'r UE. Nod y Comisiwn yw defnyddio'r Bartneriaeth i greu swyddi a thwf ar ddwy ochr yr Iwerydd, drwy gael gwared ar rwystrau masnach. Mae'r tair prif elfen i'r cynigion:- Mynediad i'r farchnad: cael gwared ar dollau ar nwyddau a chyfyngiadau ar wasanaethau, gan sicrhau gwell mynediad i farchnadoedd cyhoeddus, a'i gwneud yn haws buddsoddi.
- Cydlyniad a chydweithrediad rheoleiddiol gwell.
- Cydweithrediad gwell pan ddaw i bennu safonau rhyngwladol.
- Mae mandad negodi'r Comisiwn (sydd ar gael yn dilyn galwadau ymgyrchwyr am fwy o dryloywder yn y trafodaethau ynghylch y Bartneriaeth) ar gael yma.
Cyfleoedd ar gyfer busnesau bach a chanolig
Mae'r Comisiwn wedi dadlau mai busnesau bach a chanolig fydd yn elwa fwyaf o aliniad rheoleiddiol rhwng yr UE a'r Unol Daleithiau, gan y byddant yn gallu cael mynediad at farchnadoedd newydd heb fod yn atebol i'r cyngor cyfreithiol a oedd ei angen yn flaenorol i drafod cyfundrefnau rheoleiddio gwahanol. Mae'r cynigion hyn wedi'u croesawu gan y Ffederasiwn Busnesau Bach, sydd wedi'u galw yn 'wlad o gyfle' i fusnesau bach. Mae'r Comisiwn hefyd yn bwriadu defnyddio cynigion y Bartneriaeth i sicrhau caffael cyhoeddus rhwng y ddwy farchnad. Mae arweinwyr busnes yn gweld cyfleoedd sylweddol i fusnesau'r UE drwy agor marchnadoedd caffael, gan eu bod o'r farn bod y gyfraith ac arfer cyfredol yn yr Unol Daleithiau (yn cynnwys cymalau "Buy America(n)") yn rhwystro mynediad i gwmnïau Ewropeaidd. Yr Unol Daleithiau yw'r farchnad fwyaf o ddigon ar gyfer allforion o Gymru, ac mae'n un sydd wedi tyfu 1.6% dros y flwyddyn ddiwethaf, felly dylai'r drafodaeth ynghylch y Bartneriaeth yn sicr fod o ddiddordeb i fusnesau Cymru.Y prif bryderon: setlo anghydfodau rhwng busnesau a gwladwriaethau
Fodd bynnag, mae'r cynigion hyn wedi arwain at gryn feirniadaeth gan grwpiau, gan gynnwys y Grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop/Gwyrdd yn Senedd Ewrop (gan gynnwys Jill Evans ASE Cymru), yr undeb Unite a Cyfeillion y Ddaear . Yn ganolog i'w pryderon mae dull dadleuol i fuddsoddwyr ei ddefnyddio i ddatrys anghydfodau gyda llywodraethau cenedlaethol, y tu allan i'r llysoedd domestig. Bwriad y dull "Setlo Anghydfodau Buddsoddwr-i-Wladwriaeth (ISDS)" yw sicrhau diogelwch i fuddsoddwyr rhag triniaeth annheg neu wahaniaethu gan lywodraethau lletyol. Pan maent yn teimlo bod eu buddiannau wedi cael eu difrodi yn annheg gan ddeddfau cenedlaethol neu leol, byddai buddsoddwyr yn gallu ceisio iawn drwy banel cyflafareddu lle na ellid, fel arfer, herio ei benderfyniad yn y llysoedd. Er na fyddai tribiwnlys ISDS yn gallu diddymu deddfwriaeth, mae rhai yn ofni y byddai'r dull ISDS yn gorfodi llywodraethau sy'n ofni deddfu ac yn eu gwneud yn agored i gael eu herio o dan ISDS. Fel arall, gallai llywodraethau fod yn agored i filiau iawndal gwerth miliwn o bunnoedd ar gyfer yr hyn y byddai llawer yn ei ystyried yn benderfyniadau polisi a wnaed yn gyfreithlon. Er enghraifft, mae cwmni tybaco mawr Philip Morris wrthi'n defnyddio dull tebyg i herio penderfyniad Llywodraeth Awstralia i gyflwyno pecynnau plaen ar gyfer pacedi sigaréts, er nad yw'r dyfarniad yn yr achos hwn wedi'i wneud eto. Mae ymgyrchwyr wedi honni y gallai'r Bartneriaeth weithredu fel dull 'clicied' gan arwain at lechfeddiant anwrthdroadwy y farchnad rydd i'r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus. Maent yn ofni na allai llywodraethau wrthdroi penderfyniadau preifateiddio llywodraethau blaenorol (er enghraifft, drwy ail-wladoli'r rheilffyrdd) oherwydd y bygythiad o weithredu ISDS gan y cwmnïau preifat sy'n darparu'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth y DU wedi ceisio tawelu ofnau (yn ei hymateb i ymchwiliad Tŷ'r Arglwyddi i'r Bartneriaeth) drwy nodi bod gan y DU eisoes 90 o gytundebau masnach dwyochrog ar waith, gyda'r rhan fwyaf yn cynnwys dull ISDS, a hyd yma nid yw erioed wedi colli achos o dan y cytundebau hyn. Mae wedi datgan na fydd y Bartneriaeth yn newid y ffordd y mae'r GIG na gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cael eu rhedeg. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi ysgrifennu at Aelodau Seneddol yn dilyn pryderon a godwyd ynghylch y Bartneriaeth a'r GIG, gan nodi os bydd Llywodraeth y DU yn y dyfodol, neu gorff cyhoeddus y mae pŵer wedi cael ei ddatganoli iddo, yn gwrthdroi'r penderfyniadau a wnaed o dan llywodraeth flaenorol, er enghraifft drwy roi'r gorau i wasanaethau a ddarperir gan weithredwr tramor, y byddai'n gwbl rhydd i wneud hynny. Mae'r Comisiwn a Llywodraeth y DU yn dadlau nad yw sofraniaeth llywodraethau aelod-wladwriaethau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn ôl eu mympwy eu hunain yn rhan o'r cynigion. Fodd bynnag, mae llywodraethau Ffrainc a'r Almaen wedi mynegi gwrthwynebiad cryf i ISDS, gyda llywodraeth Ffrainc yn dweud na fydd yn llofnodi cytundeb y Bartneriaeth os caiff ISDS ei gynnwys. Mae teimlad y cyhoedd ynghylch y risgiau posibl a berir gan ISDS mor gryf fel bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi lansio ymgynghoriad i edrych yn benodol ar ddulliau o amddiffyn buddsoddiadau yn y Bartneriaeth yn ystod haf 2014. Nid yw'r Comisiwn wedi ymateb yn llawn i'r ymgynghoriad eto. Cafodd yr ymgynghoriad bron i 150,000 o ymatebion (dros 50,000 o'r DU).Trafod eithriadau
Un ffordd o amddiffyn y GIG - neu unrhyw faes arall y mae pobl yn teimlo sydd dan fygythiad gan y Bartneriaeth - fyddai cael eithriad, naill ai'n benodol ar gyfer y DU neu'n fwy cyffredinol, ar gyfer y maes hwn o gynigion y Bartneriaeth. Er enghraifft, mae Ffrainc wedi trafod eithriad sy'n golygu y bydd y sector clyweledol yn cael ei eithrio o drafodaethau. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi nad yw'n bwriadu dilyn eithriad o'r fath mewn perthynas â gwasanaethau iechyd, ac nid yw'n ystyried y Bartneriaeth fel bygythiad i sofraniaeth y DU yn y maes hwn.Y manylion
Un pwynt y mae'r rhanddeiliaid yn cytuno arno yw bod union eiriad unrhyw gytundeb yn y pen draw yn hanfodol i'r effeithiau y mae'n ei gyflawni. Er enghraifft, bydd angen i gymalau ISDS, os cânt eu cynnwys yn y drafft terfynol, fod yn gynhwysfawr fel nad yw cwmnïau preifat sy'n awyddus i sicrhau'r elw mwyaf yn manteisio'n ormodol arnynt. Yn rhannol, mae hyn yn anodd ei asesu, gan fod llawer o'r drafodaeth yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeëdig. Mae trafodaethau wedi'u hamserlennu i barhau, o bosibl tan 2016, pan fydd angen i'r cytundeb terfynol gael ei gytuno gan y Cyngor Ewropeaidd a Senedd Ewrop, a'i gadarnhau'n ddiweddarach gan seneddau cenedlaethol aelod-wladwriaethau. P'un a fydd y Bartneriaeth yn sicrhau 'gwlad o gyfle' i economi Cymru, neu'n agor y llifddorau ar gyfer pŵer corfforaethol i herio ewyllys democrataidd, bydd y manylion yn hollbwysig. I gael rhagor o wybodaeth, gweler:- Adroddiad Is-bwyllgor Materion Allanol Tŷ'r Arglwyddi yr UE ar y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig (gan gynnwys ymateb Llywodraeth y DU)
- Y Comisiwn Ewropeaidd: Y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig
- Swyddfa Ewropeaidd y GIG: Y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig, gwahanu myth o ffaith
- Stop TTIP (clymblaid o'r rhai sy'n gwrthwynebu'r Bartneriaeth)
Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.