Cyflwynwyd y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru) i’r Senedd ar 21 Hydref 2024.
Mae’r dudalen hon yn dwyn ynghyd gyhoeddiadau allweddol gan Ymchwil y Senedd i gefnogi’r gwaith o graffu ar y Bil. Caiff ei diweddaru wrth i’r Bil fynd drwy broses ddeddfwriaethol y Senedd.
Gallwch ddilyn cynnydd y Bil ar wefan y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru). Mae hyn yn cynnwys lincs i’r Bil ei hun a’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys Nodiadau Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.
Geirfa ddwyieithog gan Ymchwil y Senedd: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru): Geirfa Ddwyieithog (29 Tachwedd 2024)
Crynodeb o'r Bil gan Ymchwil y Senedd: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru): Crynodeb o’r Bil (20 Tachwedd 2024)
Erthygl gan Ymchwil y Senedd: Nod Bil newydd gan y Senedd yw gwella hygyrchedd cyfraith Cymru (24 Hydref 2024)
Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru