Y datblygiad digidol

Cyhoeddwyd 17/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/11/2024   |   Amser darllen munudau

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Rhoddodd y pandemig derfyn ar fusnes arferol, gan wthio gwasanaethau cyhoeddus, cwmnïau ac unigolion i fabwysiadu ymddygiadau newydd yn gyflym. Rydym wedi gweithio gartref, siopa ar-lein, dysgu a chymdeithasu o bell.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi datblygu'r agenda ddigidol a chyflymu’r broses o arloesi. Ond beth yw rôl llunwyr polisi yn y byd cynyddol rithwir hwn? A sut y gellir lleihau anghydraddoldebau a achosir gan allgáu digidol?

Mae'r byd yn newid. Yn 2016 cafwyd datganiad:

We stand on the brink of a technological revolution that will fundamentally alter the way we live, work, and relate to one another.

Ond mae'r tueddiadau technoleg a yrrodd y pedwerydd chwyldro diwydiannol, sydd hefyd yn cael ei alw yn ‘chwyldro deallusrwydd’ neu ‘ddiwydiant 4.0’ wedi cyflymu ymhellach yn sgil y pandemig. Dywedodd un arweinydd technoleg ei fod wedi gweld gwerth dwy flynedd o drawsnewid digidol mewn dau fis.

Pennau yn y cwmwl

Mae storio a chael gafael ar ddata a rhaglenni dros y rhyngrwyd, sy’n cael ei alw yn ‘gyfrifiadura cwmwl’, wedi bod yn hanfodol i'n helpu ni i addasu.

Defnyddiwyd cyfrifiadura cwmwl i gefnogi ymateb iechyd y cyhoedd trwy apiau olrhain cysylltiadau a gofal iechyd rhithwir, ac roedd yn galluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Mae’r defnydd o offer cydweithio tîm ar-lein wedi cynyddu’n helaeth, gyda Microsoft Teams yn gweld cynnydd o 40% yn y galw yn ystod y cyfnod clo. Roedd rhaglenni cwmwl yn galluogi addysgwyr i gyflwyno dysgu ar-lein, ac fe welwyd sgil-effeithiau cadarnhaol ar yr amgylchedd hefyd.

Roedd hyblygrwydd cyfrifiadura cwmwl o gymorth i siapio ein bywydau a chyflymodd y broses o’i fabwysiadu yn 2020, gyda rhagolygon o dwf pellach yn 2021. Ond yn sgil hyn daw mwy o risgiau o ran diogelwch data, a fydd yn gofyn am ddull rhagweithiol i gadw amgylcheddau cwmwl yn ddiogel. A pha sgiliau fydd eu hangen ar y gweithlu i addasu i gyfrifiadura cwmwl yn y tymor hir?

Arferion digidol newydd

Er bod manwerthwyr y stryd fawr wedi dioddef, cododd gwerthiannau ar y rhyngrwyd fel canran o gyfanswm y gwerthiannau manwerthu yn y DU o 22% ar ddechrau mis Mawrth 2020, i dros 36% ym mis Ionawr 2021. Bu cynnydd o 84% yn elw net Amazon am y flwyddyn. Mae’r symudiad hwn i drafodion digidol hefyd wedi hybu twf mewn swyddi dosbarthu a chludo a swyddi mewn warysau.

Delwedd yn dangos Elin Jones, Llywydd y Senedd flaenorol, yn arwain Cyfarfod Llawn rhithwir y Senedd gan ddefnyddio meddalwedd fideogynadledda

Mae'n amhosib peidio â sôn am y cynnydd mewn meddalwedd fideogynadledda. Berf oedd 'Zoom' yn 2019, ond mae bellach yn enw cwmni cyfarwydd. Fe'i disgrifir fel stori lwyddiant y pandemig, a dywedir i fwy na 300 miliwn o bobl gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir bob dydd. Mae fideogynadledda wedi galluogi parhad diogel llu o weithgareddau, heb sôn am waith y Senedd, sef y senedd gyntaf yn y DU i fynd yn rhithwir.

'Yr arbrawf gweithio gartref gwych'

Er mwyn lleihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r feirws, a gyda chymorth cyfrifiadura cwmwl, roedd y rhai a oedd yn gallu gweithio gartref yn gwneud hynny. Arweiniodd hyn at ail-lunio diwylliant cwmnioedd, ac ychydig o ryngweithio diddorol ar-lein . Roedd yn rhaid i hyd yn oed sêr Hollywood addasu.

Canfu gwaith ymchwil diweddar fod nifer y gweithwyr cartref yng Nghymru wedi cynyddu o 3.8% i 36.8% rhwng mis Mawrth a mis Ebrill 2020. Canfu hefyd fod 93.3% o weithwyr eisiau parhau i weithio gartref, sy’n awgrymu’r canlynol:

… the great homeworking experiment will become an entrenched and widely accepted feature of work even when social distancing restrictions are fully lifted.

Gosododd Llywodraeth flaenorol Cymru uchelgais tymor hir i 30% o weithlu Cymru weithio o bell yn rheolaidd, ac mae rhai cyflogwyr cyflogwyr eisoes wedi ymrwymo i fwy o weithio o gartref a llai o ofod swyddfa. Mae eraill yn anelu i weithluoedd fod yn ‘hyper-gydweithredol’ pan fyddant yn y swyddfa, ac yn ‘hyper-gynhyrchiol’ wrth weithio gartref.

Canfu adroddiad gan McKinsey y canlynol ynghylch parhau i weithio o bell a chynnal cyfarfodydd rhithwir:

… this could prompt a large change in the geography of work, as individuals and companies shift out of large cities into suburbs and small cities.

Canfu dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol mai gweithwyr mewn swyddi sy’n talu’n uwch yw’r rhai a allai addasu i weithio gartref. Canfu astudiaeth arall fod gweithwyr sydd ar gyflogai is yn fwy tebygol o golli eu swyddi o ganlyniad i'r pandemig, gan waethygu'r anghydraddoldeb presennol yn y farchnad lafur o bosibl.

Beth fydd effaith mwy o weithio gartref ar ein hiechyd a'n ffyrdd o fyw? Ac a fydd manwerthu trefol, lletygarwch, a thrafnidiaeth gyhoeddus byth yn dychwelyd i’w lefelau cyn y pandemig?

Chwyldro newydd

Mae'r ‘chwyldro deallusrwydd’ yn golygu y gall AI, roboteg a dulliau awtomateiddio gyflawni ystod gynyddol o dasgau deallusol, sy’n adlewyrchu sut y gwnaeth y chwyldro diwydiannol cyntaf yrru awtomateiddio tasgau corfforol ailadroddus.

Roedd pwyllgor economi’r Senedd flaenorol o’r farn ei bod yn ‘hanfodol’ y dylai Cymru fod yn “darparu technolegau sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal â’u defnyddio”. Neges allweddol adolygiad 2019 Llywodraeth ddiwethaf Cymru o arloesi digidol a dyfodol gwaith oedd:

… y bydd technolegau digidol yn ystod y degawd nesaf yn arwain at ddadleoli a chreu swyddi, ond yr effaith fwyaf fydd ar ein profiad o weithio.

Mae cyfran y swyddi sydd â risg uchel o awtomateiddio erbyn dechrau'r 2030au yn amrywio o 26% i dros 36% ar draws rhanbarthau Cymru. Canfu astudiaeth yn 2017 i le y bydd awtomateiddio yn taro galetaf :

… the unequal geographical distribution of the impact of automation deserves immediate attention by Government, particularly as it is regions that have previously suffered the effects of industrial decline that are likely to be worst hit.

Felly sut y gall llunwyr polisi sicrhau nad yw arloesi digidol yn creu nac yn gwaethygu anghydraddoldebau rhwng pobl a rhanbarthau? A sut y gellir arfogi sectorau fel gweithgynhyrchu i fanteisio ar y cyfleoedd newydd sy'n gysylltiedig â newid technolegol?

Yr angen am gyflymder

Mae angen i fusnesau ac unigolion sydd â gofynion digidol cynyddol gael eu cefnogi gan seilwaith digidol dibynadwy.

Amcangyfrifir bod gan 94% o adeiladau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn. Ond awgrymodd astudiaeth gan Lywodraeth Cymru yn 2019 nad oes gan tua 79,000 o adeiladau hynny, ac nad oes gobaith o gysylltiad yn y tair blynedd nesaf.

Mae Ofcom yn amcangyfrif na all tua 18,000 (1.2%) o adeiladau yng Nghymru gael mynediad at “fand eang digonol”.

Ym mis Rhagfyr 2020 cyhoeddodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol adroddiad ar y seilwaith cyfathrebu digidol. Ymhlith pethau eraill, daeth yr adroddiad hwn i'r casgliad:

Credwn fod gwneuthurwyr polisi wedi rhoi gormod o sylw i hyrwyddo technoleg ffeibr i’r cartref yn y DU a dim digon ar wella darpariaeth band eang symudol.

Anghydraddoldebau digidol newydd

Er ei fod yn rhan annatod o'r gymdeithas fodern, nid yw hygyrchedd rhyngrwyd yn gyfartal, ac mae 10% o bobl yn dal ddim i fod ar-lein nac yn defnyddio'r rhyngrwyd yn rheolaidd. Eto, nid seilwaith lleol yw'r unig rwystr i gynhwysiant digidol, ac mae heriau eraill yn cynnwys incwm isel ac anallu i gael contract data.

Mae dadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n ymchwilio i'r rhaniad digidol yn dangos, er bod sgiliau digidol yn gynyddol bwysig, mae pobl yn parhau i fod wedi'u hallgáu. Disgrifiwyd cynhwysiant digidol yn “fater pwysig o ran cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol”.

Mae strategaeth cynhwysiant digidol Llywodraeth flaenorol Cymru yn egluro bod y pandemig wedi:

… tynnu sylw at yr anghydraddoldebau cynyddol a achosir gan allgáu digidol o ran cael gafael ar wasanaethau, cael gwybodaeth hanfodol, a phrynu nwyddau ar-lein. Mae'r ffaith bod mwy a mwy o wasanaethau cyhoeddus yn symud i lwyfannau ar-lein yn peri risg y bydd y bwlch rhwng y rhai sydd wedi'u cynnwys a'u hallgáu yn ddigidol yn cynyddu ymhellach.

Dywed Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fod angen i strategaeth cynhwysiant digidol Cymru gael ei “theilwra i’r heriau y mae gwahanol grwpiau’n eu hwynebu”, gan gydnabod y bydd angen mynediad at wasanaethau personol o ansawdd uchel ar rai o hyd.

Cyhoeddwyd Strategaeth Ddigidol newydd ar gyfer Cymru a'i chynllun cyflawni yn ddiweddar, gan nodi gweledigaeth ac uchelgais Llywodraeth ddiwethaf Cymru ar gyfer dull digidol cydgysylltiedig. Ond mae'n amlwg :

... nid yw ‘digidol’ yn ymwneud yn unig â chyfrifiaduron – mae’n ymwneud â phobl.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru