Dyma ddiweddariad o erthygl flaenorol a gyhoeddwyd ar 25 Medi 2020
Mae Fframwaith Datblygu Cenedlaethol cyntaf Llywodraeth Cymru ar fin cyrraedd ei gyfnod craffu olaf yn y Senedd – sef dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 25 Tachwedd dan arweiniad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.
Mae'r erthygl hon yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am y Fframwaith, ac yn cynnwys lincs i’r prif ddogfennau.
Neidio:
Beth yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a pham ei fod yn bwysig?
Beth yw’r prif bolisïau yn y Fframwaith drafft?
Sut mae ‘map’ y Fframwaith drafft yn edrych?
Beth fydd y Senedd yn ei drafod yn y ddadl?
Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar y Fframwaith drafft?
Sut cafodd y Fframwaith drafft ei ddatblygu?
Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar fersiynau blaenorol o’r Fframwaith drafft?
Sut y mae’r Fframwaith drafft wedi newid o ganlyniad i’r gwaith craffu?
Beth yw’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, a pham ei fod yn bwysig?
Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn strategaeth ofodol genedlaethol 20 mlynedd newydd. Mae'n nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol, ac fe’i gelwir yn 'Dyfodol Cymru: y cynllun cenedlaethol 2040'.
Mae’n ddogfen bwysig oherwydd bod ganddi statws ‘cynllun datblygu’.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau cynllunio yn unol â’r Fframwaith. Rhaid i gynlluniau eraill – sef Cynlluniau Datblygu Strategol (CDS) (nad ydynt wedi’u cyflwyno eto) a Chynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) – gyd-fynd â’r Fframwaith.
Nid oedd gan ragflaenydd y Fframwaith - Cynllun Gofodol Cymru - statws cynllun datblygu.
Mae’n ofynnol, o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, cyhoeddi FfDC a rhaid ei adolygu bob pum mlynedd o leiaf.
Caiff ei ystyried ochr yn ochr â Pholisi Cynllunio Cymru, sef polisi cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru – a bydd ar frig hierarchaeth polisïau cynllunio.
Beth yw’r prif bolisïau yn y Fframwaith drafft?
Mae’r polisïau yn yr FfDC drafft yn cynnwys:
- tair ‘Ardal Dwf Genedlaethol’ lle bydd twf sylweddol ym maes cyflogaeth a thai, a buddsoddi mewn seilwaith
- Caerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd;
- Bae Abertawe a Llanelli; a
- Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.
- tair ‘Ardal Dwf Ranbarthol’ i gyd-fynd â’r Ardaloedd Twf Cenedlaethol:
- y De-orllewin;
- y Canolbarth; a
- y Gogledd.
- pedwar rhanbarth, a Chynllun Datblygu Strategol ar gyfer pob un;
- nifer benodol o gartrefi newydd i’w codi ym mhob rhanbarth erbyn 2039 (amcangyfrif yw’r niferoedd hyn, yn seiliedig ar y data presennol. Nid yw’n ofynnol cadw at y niferoedd hyn ac nid targedau ydynt):
- y Gogledd - 16,200;
- y Canolbarth - 1,800;
- y De-orllewin - 25,600; a
- y De-ddwyrain - 66,400.
- bydd 48 y cant o gartrefi newydd yng Nghymru yn dai fforddiadwy yn ystod y pum mlynedd gyntaf;
- rhoi canol trefi yn gyntaf, llywio twf ac adfywio trefol drwy greu lleoedd a drwy ddatblygu arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus;
- gwella’r cysylltiadau trafnidiaeth rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol;
- hybu cynlluniau ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel ar raddfa eang ac ar raddfa fach;
- hybu cyfathrebu digidol;
- rheoli peryglon llifogydd;
- hybu cymunedau gwledig a’r economi wledig; a
- datblygu coedwig genedlaethol, parc rhanbarthol y Cymoedd; lleiniau glas a rhwydweithiau ecolegol a seilwaith gwyrdd cydnerth.
Sut mae ‘map’ y Fframwaith drafft yn edrych?
Dyma ddiagram strategol o’r FfDC drafft:
Beth fydd y Senedd yn ei drafod yn y ddadl?
Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru osod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gerbron y Senedd am ‘gyfnod trafod’ o 60 diwrnod. Mae’n rhaid i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft gynnwys adroddiad yn crynhoi'r materion a godwyd yn ystod y broses ymgynghori a sut mae Llywodraeth Cymru wedi eu dwyn i ystyriaeth.
Gosododd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yr FfDC drafft ac adroddiad yr ymgynghoriad gerbron y Senedd ar 21 Medi ac, wrth wneud hynny, dechreuodd y cyfnod o 60 diwrnod.
Yn ei datganiad, dywedodd y bydd y Fframwaith yn “sicrhau datgarboneiddio, ecosystemau cydnerth a chynhwysol, a thwf economaidd teg.”
Hefyd, cyhoeddodd nifer o ddogfennau eraill gan gynnwys dogfen yn cynnwys newidiadau i’r Fframwaith drafft a ymgynghorwyd yn ei chylch yn 2019 a dogfen yn esbonio sut y bydd yr FfDC yn cael ei fonitro.
Ni all y Senedd 'gymeradwyo' y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Yn hytrach, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried penderfyniadau neu argymhellion a wneir gan y Senedd – neu unrhyw un o'i bwyllgorau – wrth benderfynu a ddylid diwygio’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ai peidio. Rhaid iddi gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol terfynol sy’n nodi sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol terfynol ym mis Chwefror 2021.
Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar y Fframwaith drafft?
Arweiniodd Llywodraeth Cymru ddadl yn y Senedd ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ar ôl ei osod ym mis Medi.
Yn dilyn y ddadl, craffodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr FfDC drafft yn fanylach. Mae adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 23 Tachwedd, yn nodi’r newidiadau sylweddol a wnaed i’r FfDC drafft yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor ar y fersiwn flaenorol yn 2019 (gweler isod am ragor o wybodaeth am hyn).
Mae’r adroddiad hefyd yn gwneud nifer o argymhellion, gan gynnwys:
- mwy o bwyslais ar yr adferiad ar ôl y pandemig;
- nodi y dylai fod perthynas ailadroddol rhwng Cynlluniau Datblygu Strategol a bargeinion twf, sy’n mynd y ddwy ffordd;
- rhoi mwy o gyfeiriad o ran risg llifogydd ac addasu arfordirol, yn enwedig mewn perthynas ag ardaloedd twf;
- rhoi strategaeth ar waith i wella’r seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan, gan gynnwys yng nghanolbarth Cymru;
- sicrhau aliniad rhwng yr FfDC a'r Cynllun Morol Cenedlaethol fel nad yw gwaith datblygu ar dir yn atal prosiectau ynni adnewyddadwy posibl ar y môr yn y dyfodol;
- cynnwys datganiad mai'r FfDC yw haen uchaf y cynllun datblygu, ac y bydd Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cael eu hasesu yn eu herbyn; a
- mwy o bwyslais ar wella’r cysylltiad rhwng gogledd a de Cymru a chysylltiadau trafnidiaeth rhyngranbarthol eraill o bwysigrwydd cenedlaethol.
Cyhoeddodd Gwasanaeth Ymchwil y Senedd bapur briffio i gefnogi gwaith craffu’r Pwyllgor.
Edrychodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu hefyd ar yr FfDC drafft. Ysgrifennodd at y Gweinidog ar 18 Tachwedd yn gwneud argymhellion ar:
- yr iaith Gymraeg;
- atebolrwydd ar y lefel ranbarthol;
- cydbwysedd y ffocws rhwng ardaloedd gwledig a threfol;
- a thai fforddiadwy.
Y ddadl ar 25 Tachwedd fydd y cyfnod olaf ym mhroses graffu’r Senedd. Bydd yn cael ei harwain gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, a bydd pob Aelod o'r Senedd yn cael cyfle i drafod canfyddiadau'r Pwyllgorau a rhoi eu barn.
Sut cafodd y Fframwaith drafft ei ddatblygu?
Dechreuodd y gwaith i ddatblygu'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn 2016. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi llinell amser yn dangos y gwahanol gamau sy'n gysylltiedig â datblygu'r Fframwaith. Mae hyn yn cynnwys:
- datblygu Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd (Ionawr – Medi 2016);
- casglu tystiolaeth ac ymgymryd â gwaith ymgysylltu i ddatblygu gweledigaeth, amcanion a dewisiadau ar gyfer y Fframwaith (Hydref 2016 – Mawrth 2018);
- cyhoeddi ac ymgynghori ynghylch materion, dewisiadau a’r dewis a ffefrir o ran y Fframwaith, gyda chymorth asesiadau ac adroddiadau amgylcheddol (Ebrill 2018 – Gorffennaf 2018);
- trafod ymatebion i’r ymgynghoriad ar y dewis a ffefrir a pharatoi'r Fframwaith drafft (Gorffennaf 2018 – Awst 2019);
- ymgynghori ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, trafod ymatebion a pharatoi adroddiad yr ymgynghoriad (Awst 2019 – Mehefin 2020);
- y Senedd i drafod yr FfDC drafft a’r newidiadau arfaethedig (Medi – Tachwedd 2020); a
- chyhoeddi'r Fframwaith terfynol (Chwefror 2020).
Sut y mae’r Senedd wedi craffu ar fersiynau blaenorol o’r Fframwaith drafft?
Bu’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn craffu ar y dewis a ffefrir ar gyfer y Fframwaith ym mis Mehefin 2018. Yna, ysgrifennodd at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad ar amrywiaeth o faterion. Ymatebodd y Gweinidog ym mis Medi 2018.
Craffodd y Pwyllgor ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft ar ddiwedd 2019. Lluniodd Adroddiad y Pwyllgor – a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr – 50 o gasgliadau. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i gasgliadau'r Pwyllgor wedi'i gynnwys yn adroddiad yr ymgynghoriad a osodwyd ar 21 Medi.
Trafododd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr FfDC drafft hefyd, a hynny ym mis Tachwedd 2019, ac ysgrifennodd at y Gweinidog. Unwaith eto, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn adroddiad yr ymgynghoriad.
Cyhoeddodd Ymchwil y Senedd bapur ymchwil i gynorthwyo’r Pwyllgorau i graffu ar y Fframwaith drafft bryd hynny.
Cafodd Ludi Simpson, Athro Astudiaethau Poblogaeth ym Mhrifysgol Manceinion, ei gomisiynu gennym o dan Gynllun Cymrodoriaeth Ymchwil y Senedd, i adolygu nifer y tai roedd yr FfDC drafft yn amcangyfrif yr oedd eu hangen.
Sut y mae’r Fframwaith drafft wedi newid o ganlyniad i’r gwaith craffu?
Mae’r newidiadau sylweddol yn yr FfDC drafft sy’n cyd-fynd â chasgliadau’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnwys y canlynol:
- cysylltiadau cliriach â dogfennau eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cynllun Carbon Isel Cymru, y Strategaeth Drafnidiaeth a Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru;
- rhoi rhagor o fanylion am y modd y caiff yr FfDC ei fonitro a’i adolygu;
- cryfhau'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol o ran ymateb i newid yn yr hinsawdd, er enghraifft trwy gynnwys polisi newydd ar reoli risg llifogydd; a
- rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio meini prawf wrth ystyried datblygiadau ynni adnewyddadwy.
Roedd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’n credu nad oedd yr FfDC drafft yn ddigon uchelgeisiol, ond gwrthododd Llywodraeth Cymru yr asesiad hwn yn bendant gan ddweud bod yr FfDC yn cynnwys polisïau “i’w gwneud yn bosibl i welliannau radical gael eu gwneud i olwg lleoedd a’r ffordd y maent yn gweithredu”.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru bryderon y Pwyllgor o ran y diffyg cynnydd ar y lefel ranbarthol, gan ddweud bod yBil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn mandadu paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol. Cytunodd Llywodraeth Cymru hefyd â sylwadau’r Pwyllgor ar gryfhau cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru a rhwng Cymru a mannau eraill.
Roedd yn well gan y ddau Bwyllgor rannu Cymru yn bedwar rhanbarth yn hytrach na’n dri, fel y cynigiwyd yn wreiddiol. Cytunodd Llywodraeth Cymru â hyn.
Bydd dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y FfDC drafft yn cael ei chynnal brynhawn Mercher 25 Tachwedd. Gallwch wylio'n fyw ar Senedd TV.
Erthygl gan Elfyn Henderson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru