Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol: Ysgrifennydd y Cabinet i wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn

Cyhoeddwyd 26/04/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 1 Mai 2018, bydd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn gwneud datganiad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Disgwylir i'r Ysgrifennydd Cabinet gyhoeddi fersiwn gyntaf y Fframwaith, a hynny ar ffurf ymgynghoriad ar faterion, opsiynau a'r opsiwn a ffefrir. Y bwriad yw agor yr ymgynghoriad ar y diwrnod cyn y datganiad, sef dydd Llun 30 Ebrill 2018.

Hwn fydd yr ail ymgynghoriad cynllunio mawr gan Lywodraeth Cymru yn ystod y gwanwyn. Mae'r ymgynghoriad arall, sydd eisoes wedi dechrau, yn canolbwyntio ar Bolisi Cynllunio Cymru ar ei newydd wedd. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n dod i ben ar 18 Mai 2018. Gallwch ddarllen ein blog blaenorol i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad ar Bolisi Cynllunio Cymru.

Beth yw'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol?

Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn ofynnol o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015. Bydd yn nodi polisïau Llywodraeth Cymru ar ddatblygu a defnyddio tir mewn cyd-destun gofodol. Bydd yn nodi Fframwaith defnydd tir 20 mlynedd, a bydd yn cael ei adolygu o leiaf bob pum mlynedd.

Bydd y Fframwaith yn disodli Cynllun Gofodol Cymru, sy'n gynllun yr ystyrir yn eang ei fod yn aneffeithiol. Yn hanfodol, ac yn wahanol i Gynllun Gofodol Cymru, bydd gan y Fframwaith statws cynllun datblygu. Golyga hyn y bydd yn rhaid i'r cynlluniau sy'n ddarostyngedig iddo, sef y Cynlluniau Datblygu Strategol a'r Cynlluniau Datblygu Lleol, gydweddu ag ef.

Mae Llywodraeth Cymru yn crynhoi diben y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel a ganlyn:

  • yn nodi lle y mae angen twf a seilwaith o bwysigrwydd cenedlaethol a sut y gall y system gynllunio gyflawni hyn;
  • yn creu cyfeiriad ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol;
  • yn cefnogi penderfyniadau ceisiadau o dan drefn Datblygiadau o Bwysigrwydd Cenedlaethol. Gellir darllen mwy am Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn ein papur briffio ar Ddatblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (PDF 498KB);
  • yn ategu Polisi Cynllunio Cymru, sy’n disgrifio polisïau cynllunio cenedlaethol Llywodraeth Cymru a bydd yn parhau i osod y cyd-destun ar gyfer cynllunio defnydd tir; ac
  • yn cefnogi strategaethau economaidd, trafnidiaeth, amgylcheddol, tai, ynni a diwylliannol cenedlaethol, ac yn sicrhau y gall y rhain gael eu cyflawni drwy’r system gynllunio.

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ddrafft terfynol y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol gael ei ystyried gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn cyhoeddi'r Fframwaith terfynol.

Bydd gan y Cynulliad 60 diwrnod (heb gynnwys y toriad) i ystyried y Fframwaith drafft. Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried unrhyw benderfyniad neu argymhellion a wneir gan y Cynulliad, neu unrhyw un o'i bwyllgorau, wrth benderfynu a ddylai'r Fframwaith drafft gael ei ddiwygio.

Rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi datganiad ochr yn ochr â'r Fframwaith terfynol yn amlinellu sut y mae wedi ystyried penderfyniadau neu argymhellion y Cynulliad.

Mae'r amserlen bresennol (a nodir isod) yn dangos y bydd y Fframwaith drafft yn cael ei ystyried gan y Cynulliad ym mis Ebrill – Mehefin 2020. Disgwylir i'r Fframwaith terfynol gael ei gyhoeddi ym mis Medi 2020.

Pa waith sydd eisoes wedi'i wneud?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal galwad am dystiolaeth a phrosiectau er mwyn helpu i lywio datblygiad y Fframwaith.

Roedd y galwad am dystiolaeth yn gofyn am brosiectau a thystiolaeth ar lefel genedlaethol a fydd yn helpu Cymru i gyrraedd ei hamcanion cenedlaethol amrywiol. Roedd yn rhoi'r canlynol fel enghreifftiau a allai fod yn berthnasol i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol:

  • astudiaethau Cymreig sy'n edrych ar y potensial i greu ynni adnewyddadwy, materion cysylltedd rhwng gwahanol rannau o Gymru neu faterion amgylcheddol sy'n berthnasol i sawl rhanbarth; a
  • materion sy'n ymwneud ag ardal lai ond sy'n bwysig i'r genedl, megis gorsafoedd pŵer neu gynefinoedd sy'n bwysig i'r genedl.

Cafodd y dystiolaeth a'r prosiectau a gyflwynwyd eu hystyried yng nghyd-destun y system cynllunio datblygiadau ac yn erbyn y saith nod llesiant, fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r alwad am dystiolaeth.

Beth yw'r broses ar gyfer cwblhau'r fersiwn derfynol?

Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Datganiad o Gyfranogiad y Cyhoedd yn nodi sut y bydd yn ymgynghori â'r cyhoedd wrth ddatblygu'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Cyhoeddwyd y ddogfen hon ym mis Tachwedd 2016 yn dilyn ymgynghoriad yn gynnar yn 2016.

Mae'r amserlen lawn ar gyfer y Fframwaith fel a ganlyn:


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru