Bwriedir i'r aelodau adlewyrchu cynrychiolaeth y pleidiau yn y Senedd yn gyffredinol.
Mae'r Pwyllgor wedi newid yn sylweddol ers y Senedd ddiwethaf gyda dim ond dau aelod o Bwyllgor 2010-15 ar ôl: y Cadeirydd, David TC Davies (Ceidwadwyr) a Mark Williams (Democratiaid Rhyddfrydol). Bydd dau o'r aelodau Ceidwadol newydd yn gyfarwydd i'r rheini sydd â diddordeb yng ngwaith Cynulliad Cymru: Byron Davies ac Antoinette Sandbach, yr oedd y ddau yn Aelodau'r Cynulliad cyn yr Etholiad Cyffredinol.
Newidiodd y system ar gyfer penderfynu pwy sy'n cadeirio Pwyllgorau Dethol drwy gyflwyno etholiadau yn 2010. Caiff Cadeiryddion Pwyllgorau eu hethol gan siambr Tŷ'r Cyffredin ac yna caiff aelodau'r Pwyllgor eu hethol o fewn eu pleidiau. Cafodd David TC Davies AS ei ailethol yn Gadeirydd y Pwyllgor ar Faterion Cymreig yn ddiwrthwynebiad ar 17 Mehefin.
Dyma aelodau newydd y Pwyllgor ar Faterion Cymreig:
David T. C. Davies (Cadeirydd), Ceidwadwyr, Mynwy
Byron Davies, Ceidwadwyr, Gŵyr
Chris Davies, Ceidwadwyr, Brycheiniog a Sir Faesyfed
Dr James Davies, Ceidwadwyr, Dyffryn Clwyd
Carolyn Harris, Llafur, Dwyrain Abertawe
Gerald Jones, Llafur, Merthyr Tudful a Rhymni
Christina Rees, Llafur, Castell-nedd
Antoinette Sandbach, Ceidwadwyr, Eddisbury
Liz Saville Roberts, Plaid Cymru, Dwyfor Meirionnydd
Craig Williams, Ceidwadwyr, Gogledd Caerdydd
Mark Williams, Democratiaid Rhyddfrydol, Ceredigion
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg