Car yn aros ar groesfan reilffordd tra bod trên Trafnidiaeth Cymru yn mynd heibio. Yn y blaendir mae bws yn aros wrth safle bws.

Car yn aros ar groesfan reilffordd tra bod trên Trafnidiaeth Cymru yn mynd heibio. Yn y blaendir mae bws yn aros wrth safle bws.

Y wybodaeth ddiweddaraf am bolisi trafnidiaeth

Cyhoeddwyd 11/09/2024   |   Amser darllen munudau

Nid yw polisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn bell o'r penawdau yn ddiweddar. Arweiniodd y polisi terfyn cyflymder diofyn 20mya at y ddeiseb fwyaf yn hanes y Senedd tra bod perfformiad gwael y rheilffyrdd a chynlluniau ar gyfer diwygio bysiau hefyd wedi denu sylw'r cyfryngau.

Yn y cyfamser, roedd llawer o sôn am drafnidiaeth yn Araith y Brenin ym mis Gorffennaf a gallai cynlluniau Llywodraeth newydd y DU arwain at oblygiadau yng Nghymru.

Mae'r erthygl hon yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am yr hyn sy'n digwydd ar draws y sector trafnidiaeth yng Nghymru.

Ffyrdd

Cafodd y mater amlycaf eleni o ran trafnidiaeth – y polisi terfyn cyflymder diofyn 20mya – ymateb cryf gan y cyhoedd pan ddaeth i rym ym mis Medi 2023. Ers hynny, mae data wedi dangos gostyngiad mewn cyflymderau cyfartalog a gostyngiad mewn gwrthdrawiadau ffyrdd, tra bod y cwmni yswiriant Esure wedi dweud bod hawliadau am ddifrod i gerbydau wedi gostwng 20 y cant.

Er ei bod yn ymddangos bod y polisi yn cael yr effaith yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei obeithio, mae Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, wedi pwysleisio’r angen i edrych ar dueddiadau hirdymor o ran y data. Mae gwrthwynebiad y cyhoedd i’r newid hefyd yn parhau’n gryf. Canfu arolwg barn gan Redfield & Wilton, fis ar ôl i'r polisi gael ei gyflwyno, fod y mwyafrif yn erbyn y terfyn cyflymder newydd. Yn fwy diweddar, dangosodd arolwg YouGov ym mis Gorffennaf 2024 fod 7 o bob 10 o bobl yn gwrthwynebu’r polisi.

Ym mis Ebrill, adroddwyd y byddai newidiadau yn cael eu gwneud i sut mae’r polisi yn cael ei roi ar waith. Cafodd canllawiau wedi'u diweddaru i gynghorau eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf a disgwylir newidiadau i derfynau cyflymder ar rai ffyrdd.

Yn wahanol i farn flaenorol Llywodraeth y DU, mae Ysgrifennydd Gwladol newydd y DU dros Drafnidiaeth, Louise Haigh AS, wedi dweud y dylai awdurdodau lleol benderfynu a ddylid cyflwyno terfynau 20mya yn Lloegr, ond y byddai ganddynt ‘gefnogaeth lawn’ yr Adran Drafnidiaeth i wneud hynny.

Gall newidiadau ddod i'r amlwg hefyd mewn meysydd eraill o bolisi ffyrdd. Ym mis Chwefror 2023 ymatebodd Llywodraeth Cymru, o dan arweinyddiaeth Mark Drakeford AS ar y pryd, i adroddiad y Panel Adolygu Ffyrdd gyda datganiad polisi ffyrdd newydd. Roedd yn amlinellu’r amgylchiadau lle bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn ffyrdd newydd a phresennol. Roedd yn cyhoeddi newid sylfaenol yn y dull o fuddsoddi mewn priffyrdd yng Nghymru a gwelodd nifer o gynlluniau ffyrdd yn cael eu canslo.

Fodd bynnag, ym mis Ebrill, yn dilyn ei benodiad yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth, dywedodd Ken Skates AS:

Rydym hefyd yn mynd i adeiladu ffyrdd newydd a gwella'r rhai presennol, ond byddwn yn codi safon ac yn adeiladu'n well nag o'r blaen.

Ym mis Mehefin, gofynnwyd i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai’r datganiad polisi ffyrdd yn newid. Dywedodd wrth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith ei fod yn ystyried hynny ar hyn o bryd.

Bysiau

Er bod 20mya wedi dominyddu penawdau trafnidiaeth eleni, mae'n edrych yn debyg mai masnachfreinio bysiau fydd eitem fawr y flwyddyn nesaf. Mae disgwyl cyflwyno Bil Bysiau erbyn gwanwyn 2025.

Mae papur gwyn 2022 Llywodraeth Cymru ar ddiwygio gwasanaethau bysiau yn cynnig deddfwriaeth sy'n gofyn am fasnachfreinio gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Byddai’n golygu bod y cyfrifoldeb dros gynllunio’r rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yn cael ei drosglwyddo o awdurdodau lleol i ofal Trafnidiaeth Cymru a Gweinidogion Cymru.

Mae map ffordd Llywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau bysiau yn nodi sut y caiff ei weithredu. Mae'n cynnig defnyddio model “costau gros”. lle telir ffi i weithredwyr redeg gwasanaethau penodol (gyda chymhellion ar waith) tra bydd Trafnidiaeth Cymru yn cael refeniw tocynnau – sy’n golygu mai Trafnidiaeth Cymru sydd â’r risg os na chaiff targedau o ran teithwyr eu cyrraedd.

Dywed Ysgrifennydd y Cabinet y bydd y Bil yn dod â “c[h]yfleoedd enfawr” ar gyfer trafnidiaeth integredig ac yn awgrymu bod “synergeddau cryf” rhwng y Bil a chynlluniau newydd Llywodraeth y DU ar gyfer gwasanaethau bysiau yn Lloegr.

Trenau

O ran diwygio rheilffyrdd, mae Cymru eisoes wedi gwneuc cryn dipyn o waith. Arweiniodd effaith y pandemig at ddod â masnachfraint Cymru a’r Gororau o dan reolaeth gyhoeddus uniongyrchol (gyda Trafnidiaeth Cymru fel gweithredwr pan fetha popeth arall). Mae trenau newydd wedi’u cyflwyno ar y rhwydwaith ac mae prosiectau seilwaith amrywiol yn mynd rhagddynt.

Fodd bynnag, roedd ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i wasanaethau rheilffordd yn amlygu materion, gan gynnwys; ymrwymiadau masnachfraint ddim yn cael eu cyflawni; perfformiad gwael gwasanaethau rheilffordd Trafnidiaeth Cymru; y ffaith bod angen cyllid ychwanegol i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i weithredu yn 2023-24; a, gorwariant ar y Prosiect Metro De Cymru.

Ym mis Mehefin, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am reilffyrdd ac awgrymodd fod perfformiad rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru wedi “troi cornel”.

Ar lefel y DU, mae’r llywodraeth Lafur newydd wedi nodi ei chynlluniau ar gyfer diwygio’r rheilffyrdd. Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu’r cynigion, gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn tynnu sylw at sut y bydd y cynlluniau’n caniatáu i fasnachfraint Cymru a’r Gororau gael ei chadw o dan berchnogaeth gyhoeddus.

Mae Bil Gwasanaethau Rheilffordd i Deithwyr (Perchnogaeth Gyhoeddus) 2024-25, a gyflwynwyd i Dŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf, yn gweld gwasanaethau rheilffordd i deithwyr yn dod o dan berchnogaeth gyhoeddus pan ddaw cytundebau masnachfraint presennol i ben, neu pan gyrhaeddir torbwyntiau cytundebol. Mae’r Bil wedi mynd drwy gyfnod Tŷ’r Cyffredin – y darn mawr cyntaf o ddeddfwriaeth i wneud hynny ers ethol Llywodraeth newydd y DU – ac mae bellach wedi symud i Dŷ’r Arglwyddi.

O ran diwygiadau eraill, roedd Cynllun Williams-Shapps ar gyfer Rheilffyrdd ym mis Mai 2021 yn cynnig sefydlu corff newydd - Great British Rail (GBR) - i integreiddio rheilffyrdd yn well. Yn benodol, byddai’n dod â’r gwaith o reoli’r seilwaith rheilffyrdd ynghyd (mae Network Rail yn gyfrifol ar hyn o bryd) â gwasanaethau cynllunio. Mae Llywodraeth newydd y DU yn bwriadu adeiladu ar waith ei rhagflaenydd, ac yn ddiweddar cyhoeddodd y bydd GBR Cysgodol yn cael ei sefydlu i ‘ddod â thrac a thrên ynghyd’, cyn y ddeddfwriaeth sylfaenol sydd ei hangen i greu GBR. Ychydig o fanylion sydd ar gael ar hyn o bryd am y goblygiadau i Gymru.

Yn dilyn cyfarfod ym mis Awst gyda Gweinidog Rheilffyrdd Llywodraeth y DU, yr Arglwydd Hendy, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod y ddwy Lywodraeth wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth i ddiwygio'r rheilffyrdd.

Teithio llesol

Bydd cynyddu teithio ar fysiau a threnau yn bwysig er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer gwneud 45 y cant o deithiau drwy ddulliau cynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol) erbyn 2040. Ond mae hefyd wedi gosod targedau uchelgeisiol yn benodol ar deithio llesol.

Nod Cymru Sero Net yw cynyddu cyfran y teithiau llesol i 33 y cant erbyn 2030 ac o leiaf 35 y cant erbyn 2040. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir ei fod yn 27 y cant ac ychydig o dystiolaeth sydd bod cyfraddau teithio llesol wedi cynyddu ers pasio’r Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn 2013. Yn ddiweddar, mae Cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol wedi disgrifio’r cynnydd fel un “[p]oenus o araf”.

Yn 2023, cydnabu Lee Waters AS, y cyn-Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, fod angen diwygio mecanweithiau cyflawni teithio llesol yn fawr.

Porthladdoedd a hedfan

Mae cymorth ariannol i Faes Awyr Caerdydd yn parhau i fod yn fater dadleuol. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet y strategaeth hirdymor ar gyfer y maes awyr, sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn gynharach yr haf hwn. Cyhoeddodd hefyd £206 miliwn mewn cyllid dros y deng mlynedd nesaf. Mae Natasha Asghar AS, Gweinidog Trafnidiaeth Cysgodol y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw’n ddiweddar am werthu’r maes awyr.

Mewn mannau eraill, yn y sector porthladdoedd, mae gwaith yn mynd rhagddo i sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Roedd Porthladd Rhydd Ynys Môn a’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn gynigwyr llwyddiannus ar ôl cyrraedd cytundeb rhwng Llywodraethau blaenorol y DU a Chymru ar gymorth ariannol.

Beth sydd nesaf?

Nid yw blaenoriaethau trafnidiaeth y Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan AS, yn hysbys eto, ond mae'n amlwg bod y gwaith o ddiwygio'r rhwydwaith trafnidiaeth wedi hen ddechrau.

Mae'r daith yn parhau.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru