Y wybodaeth ddiweddaraf am seilwaith digidol: mae’r bwlch rhwng Cymru a chyfartaledd y DU o ran 4G yn debygol o gulhau
Dros y saith mlynedd diwethaf, mae’r bwlch o ran mynediad at fand eang cyflym iawn yng Nghymru a chyfartaledd y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd wedi lleihau’n ddramatig, yn dilyn buddsoddiad a arweiniwyd gan Lywodraeth Cymru drwy ei rhaglen Cyflymu Cymru.
Mae’r darlun yn wahanol ar gyfer cysylltiadau ffonau symudol, lle mae’r ddarpariaeth fasnachol wedi gadael bwlch mawr rhwng y ddarpariaeth yng Nghymru a chyfartaledd y DU. Gallai datblygu “Rhwydwaith Gwledig a Rennir” – yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol – olygu y bydd y bwlch hwn yn lleihau’n sylweddol erbyn 2026.
Mae’r bwlch band eang cyflym iawn yn cau ond mae’r bwlch o ran 4G yn parhau
Mae telathrebu yn parhau’n fater a gedwir yn ôl gan San Steffan. Mae hyn yn golygu bod y pŵer i newid y rheolau ynghylch gwasanaethau band eang a rhwydweithiau ffonau symudol yn nwylo Ofcom, y rheoleiddiwr cyfathrebu, a Llywodraeth a Senedd y DU.
Felly, mae gwaith Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn gyfyngedig i gyllid grant – gan gynnwys grantiau ar gyfer unigolion, ac ar gyfer darparwyr telathrebu – a’r pwerau datganoledig eraill sydd ganddi, fel y system gynllunio a rhyddhad ardrethi busnes, i ysgogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau digidol.
Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Ofcom y Diweddariad Cysylltu'r Gwledydd: Haf 2021, sy’n cynnwys ystadegau allweddol ar gyfer darpariaeth band eang a chysylltiadau ffonau symudol yng Nghymru a ledled y DU.
Wrth edrych yn ôl i 2014, gallwn weld sut mae gwasanaethau band eang cyflym iawn a mynediad at gysylltiadau 4G wedi gwella ledled y DU a Chymru:
Band eang cyflym iawn a mynediad at gysylltiadau 4G yng Nghymru o’i gymharu â chyfartaledd y DU
Ffynhonnell: Cysylltu'r Gwledydd ac adroddiadau seilwaith Ofcom
Sylwer: dylid bod yn ofalus wrth ddefnyddio ffigurau ar gyfer cysylltiadau 4G cyn 2017 oherwydd amrywiadau yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gasglu’r data hyn.
Mae’r gwasanaeth band eang cyflym iawn yng Nghymru bron â chyrraedd yr un lefel â chyfartaledd y DU (94 y cant o gymharu â 96 y cant), ond mae’r bwlch rhwng Cymru a’r DU o ran cysylltiadau 4G yn parhau (60 y cant o gymharu â 69 y cant). Mae ffigur cyfartalog y DU ar gyfer mynediad daearyddol at 4G yn cuddio gwahaniaethau mawr rhwng cenhedloedd y DU: gydag 84 y cant o Loegr yn gallu cael mynediad i 4G a'r Alban ar ei hôl hi ar 44 y cant.
Cyflymu Cymru a’i olynydd
Cyflymu Cymru oedd rhaglen band eang cyflym iawn Llywodraeth Cymru, a oedd â’r nod o sicrhau bod gan oddeutu 96 y cant o adeiladau yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn (hynny yw, dros 24 megabit yr eiliad, neu “Mbps”).
Rhoddwyd dros £220 miliwn o gyllid cyhoeddus gan Lywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd, yn ogystal ag adnoddau Llywodraeth Cymru ei hun, i BT i ddarparu cysylltiadau band eang cyflym iawn mewn ardaloedd nad oedd disgwyl i wasanaethau masnachol eu cyrraedd. Llofnodwyd y contract gyda BT yn 2012, a daeth cymal cyntaf prosiect Cyflymu Cymru i ben ym mis Chwefror 2018.
Mae BT Openreach wrthi’n cyflwyno cynllun i olynu Cyflymu Cymru, ar ôl ennill pob un o’r tair lot a hysbysebwyd gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir y bydd 39,000 o adeiladau wedi'u cysylltu erbyn mis Mehefin 2022.
Cysylltu fy hun
Ynghyd â'r grantiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu talu i ddarparwyr rhwydwaith i fynd ymhellach na'u cynlluniau masnachol, mae yna grantiau amrywiol y gall pobl wneud cais amdanynt i wella eu band eang.
Mae cynllun Allwedd Band Eang Cymru Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid tuag at gostau gosod cysylltiadau newydd ar gyfer cartrefi a busnesau.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod £10 miliwn ar gael i gefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflawni prosiectau band eang yn lleol drwy ei Chronfa Band Eang Lleol.
Mae Llywodraeth y DU yn cynnal Cynllun Taleb Band Eang Gigabit sy'n rhoi cyllid i adeiladau mewn ardaloedd gwledig tuag at gost gosod band eang sy'n caniatáu gigabit pan fydd yn rhan o gynllun grŵp. Mae rhagor o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gael mewn rhai amgylchiadau.
Ers mis Mawrth 2020, os na allwch gael cyflymder lawrlwytho o 10 Mbps a chyflymder uwchlwytho o 1 Mbps, gallwch ofyn am gysylltiad wedi'i uwchraddio gan BT. Dim ond costau sy’n uwch na £3,400 sy'n cael eu talu gan yr ymgeisydd. Yn ystod chwe mis cyntaf gweithrediad y cynllun hwn, cysylltwyd saith adeilad yng Nghymru. Y llynedd roedd Ofcom yn pryderu nad oedd BT yn “cydymffurfio â’i amodau rheoleiddio wrth gyfrifo costau ychwanegol o bosib”.
Gwylio'r bwlch?
Yn 2020 amcangyfrifodd Ofcom y gallai 97 y cant o adeiladau gael band eang sefydlog ‘gweddol dda’ (10 Mbps neu fwy, sy'n ddigon ar gyfer galwad fideo manylder uchel). Unwaith y bydd cysylltiadau diwifr yn cael eu cynnwys, mae cyfran yr adeiladau heb fynediad yn gostwng i 1.2 y cant. Yn gynyddol, yr adeiladau sy’n cael eu gadael ar ôl gan brosesau cyflwyno masnachol a chyhoeddus yw'r rhai anoddaf, ac felly drutaf, i'w cysylltu.
Yn 2019, roedd gan 98 y cant o adeiladau yng Nghymru fynediad i Deledu Daearol Digidol, ac roedd tua 80 y cant o eiddo ar y grid nwy. Nid yw llywodraethau wedi pwyso am roi mynediad i’r gwasanaethau hyn i 100 y cant o’r wlad: a fyddant yn gwneud hynny am fand eang cyflym? Neu a oes pwynt yn dod lle mae llywodraethau’n penderfynu – fel y maent wedi’i wneud ar gyfer teledu digidol a nwy – nad yw buddion cyflwyno band eang ymhellach yn werth y gost i'r pwrs cyhoeddus?
Mae’r Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol – sef corff sy’n cynghori Llywodraeth Cymru – o’r farn y rhoddwyd gormod o sylw i hyrwyddo technoleg ffeibr i'r cartref, a dim digon ar wella'r ddarpariaeth band eang symudol. Mae hefyd wedi galw am sefydlu tasglu “chwalu rhwystrau”, dan arweiniad uwch was sifil, i wella'r broses o gyflwyno seilwaith digidol.
Cysylltiadau symudol
Mae gwelliannau yn y ddarpariaeth 4G wedi aros yr un peth i raddau helaeth ers 2018 (gweler y graff uchod), gan adael bwlch parhaus rhwng Cymru a chyfartaledd y DU. Yn sgil cynllun y cytunodd Lywodraeth y DU a gweithredwyr rhwydweithiau ffonau symudol arno ym mis Mawrth 2020, dylai’r ddarpariaeth wella mewn ardaloedd sydd wedi’u gadael ar ôl gan y ddarpariaeth fasnachol hyd yma.
Mae rhwydweithiau band eang wedi cael buddsoddiad uniongyrchol ar sawl achlysur gan lywodraethau ledled y DU. Yn lle hynny, mae rhwydweithiau ffonau symudol wedi cael eu gadael i gael darpariaeth fasnachol, gydag ysgogiadau’r llywodraeth yn cael eu defnyddio i gymell cyflwyno’r ddarpariaeth ar ymylon hyfywedd masnachol: er enghraifft, trwy newid rheolau cynllunio ar gyfer mastiau, neu drwy ddyraniad Ofcom o’r “sbectrwm” (bandiau amleddau radio y trosglwyddir signalau ffonau symudol drostynt).
Ym mis Mawrth 2020, cytunodd Llywodraeth y DU i fuddsoddi dros £500 miliwn mewn Rhwydwaith Gwledig a Rennir. Yn y cynllun hwn, bydd y pedwar gweithredwr rhwydwaith symudol – sydd hefyd yn rhoi dros £500 miliwn o’u hadnoddau eu hunain – yn datblygu rhwydwaith o fastiau ffôn newydd a mastiau presennol, dan oruchwyliaeth cwmni a berchnogir ar y cyd o’r enw Digital Mobile Spectrum Limited.
Erbyn diwedd 2025, dylai’r ddarpariaeth 4G gan bob gweithredwr yng Nghymru gynyddu o 60 y cant i 80 y cant. Dylai’r ddarpariaeth gan o leiaf un gweithredwr gynyddu o 90 y cant i 95 y cant.
Mae tair blynedd bellach ers i weithredwr rhwydwaith ffonau symudol EE lansio treial 5G byw cyntaf y DU yn Canary Wharf. Dywed Ofcom ei bod yn dal yn rhy gynnar i adrodd ar y ddarpariaeth 5G fel y mae’n ei wneud ar gyfer fersiynau blaenorol o dechnoleg rhwydwaith symudol. Ond rydym yn gwybod bod 3 y cant o safleoedd 5G y DU wedi'u lleoli yng Nghymru, o'i gymharu â'i 5 y cant o boblogaeth y DU. Wrth i'r bwlch 4G gulhau, pa ymyrraeth gan y llywodraeth fydd ei hangen i atal bwlch 5G rhag cymryd ei le?
Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru