Mae prisiau ynni cynyddol wedi bod cael llawer o sylw yn y newyddion, yn y DU ac ar draws y byd. Mae pris nwy wedi neidio i’r lefel uchaf erioed, gan gymryd prisiau trydan gydag ef, ac achosi i Lywodraeth y DU gamu i mewn i helpu pobl a busnesau.
Mae Bil Prisiau Ynni y DU, a gyflwynwyd ar 12 Hydref i wneud darpariaeth ar gyfer rheoli prisiau ynni, yn ymyrraeth digynsail. Mae’n cael ei datblygu fel deddfwriaeth frys, a disgwylir iddi ddod yn Ddeddf cyn diwedd mis Hydref. Mae hyn yn golygu na fydd gan y Senedd amser i ystyried rhoi cydsyniad yn llawn ar gyfer y Bil yn y ffordd arferol. Yn lle hynny, bydd y Cyfarfod Llawn yn trafod memorandwm cydsyniad deddfwriaethol funud olaf y prynhawn yma.
Bydd yr erthygl hon yn edrych ar sut y caiff ynni ei brisio, y cysylltiad rhwng prisiau nwy a chynhyrchu trydan, tueddiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac achosion ac ymatebion, gan gynnwys y Bil Prisiau Ynni.
Pris ynni
Mae tair elfen allweddol yn cydblethu er mwyn rhoi egni i ni ar flaenau ein bysedd:
- Cynhyrchu - yn hanesyddol, caiff trydan ei gynhyrchu drwy losgi tanwydd ffosil, ond yn gynyddol mae ynni adnewyddadwy yn cael ei ddefnyddio, yn ogystal ag ynni niwclear a mewnforion o wledydd eraill;
- Cludiant - mae ynni’n cael ei gludo trwy grid sy’n rheoli cyflenwad a galw; a
- Marchnadoedd - fel defnyddwyr rydym yn cael ein nwy a thrydan gan gyflenwyr sy’n prynu ynni yn y farchnad gyfanwerthu ac yn ei werthu i ni.
Mae’r farchnad ynni yn union fel unrhyw farchnad arall, caiff ei hysgogi gan gydbwyso cyflenwad a galw. Wrth gwrs, mae nifer o ffactorau ar waith sy’n dylanwadu ar y pris cyfanwerthol, sef un o gydrannau mwyaf cost ynni cyffredinol cwsmeriaid.
Mae un pris cyfanwerthu ar gyfer trydan ledled y DU, nad yw’n cael ei reoleiddio h.y. mae'n agored ac yn gystadleuol. Mae cynhyrchwyr trydan yn gwneud cais i gyfrannu at y grid pŵer. Caiff y ceisiadau hyn eu derbyn hyd nes bod y galw yn cael ei ddiwallu yn yr hyn a elwir yn ‘drefn teilyngdod’. Yn syml, mae’n drefn blaenoriaeth, felly mae ffynonellau sydd â’r gost isaf, fel arfer ynni adnewyddadwy, yn cael eu derbyn yn gyntaf, a ffynonellau fel gorsafoedd pŵer nwy a glo yw’r olaf.
Ffigur 1: darlun yn dangos y ‘drefn teilyngdod’; dewisir ffynonellau llai costus yn gyntaf, fodd bynnag, y pŵer, o ba bynnag ffynhonnell, sy’n bodloni'r galw brig, sy’n pennu’r pris cyfanwerthol cyffredinol. Amcangyfrif yw pob ffynhonnell ynni ac enghreifftiol yn unig.
Mae cost y ffynhonnell olaf a ddefnyddir i ateb y galw, sef nwy fel arfer, yn pennu pris cyfanwerthol trydan. Mae’r Institute for Government yn esbonio:
…although generation methods that have low marginal cost (including renewables and nuclear) produce the majority of UK electricity, the price that is paid for it in both wholesale and retail markets is set much higher, at the marginal cost of generating electricity with gas.
Y tu allan i’r gost gyfanwerthu, mae gweddill y pris a dalwn am ynni yn gyfuniad o gostau gweithredol eraill, gan gynnwys:
- Costau rhwydwaith – cost defnyddio’r grid;
- Costau rhwymedigaethau amgylcheddol a chymdeithasol – cyfraniad at bolisïau ynni’r llywodraeth, fel gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi a busnesau, cymorth i bobl agored i niwed ac annog pobl i ddefnyddio technoleg adnewyddadwy; a
- Chostau gweithredu - pethau fel gwasanaeth cwsmeriaid a bilio, yn ogystal ag elw cwmni.
Tueddiadau ynni
Mae pris cyfanwerthu ynni yn cynyddu, a’r prif beth sy’n achosi hynny yw cost gynyddol nwy. Mae hyn oherwydd cyfuniad o ddigwyddiadau, gan arwain at lai o gyflenwad ynghyd â galw cynyddol.
Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin wedi arwain at wledydd yn lleihau eu dibyniaeth ar nwy o Rwsia. Er nad oes unrhyw bibellau nwy yn cysylltu’r DU yn uniongyrchol â Rwsia, ac roedd mewnforion o Rwsia yn llai na 4% o gyfanswm cyflenwad nwy y DU yn 2021, mae osgoi nwy o Rwsia yn lleihau lefelau cyflenwad yn fyd-eang, tra bod y galw yn aros yr un fath. Mae hyn yn codi’r pris.
Roedd 2021 yn flwyddyn anodd i rai o ffynonellau pŵer y DU, gan gynnwys toriadau heb eu cynllunio yn adweithyddion niwclear, a thân yng Nghaint yn effeithio ar ynni sy’n dod i mewn i’r DU o Ffrainc. Roedd gaeaf 2020/21 yn arbennig o oer a hir, a oedd yn golygu ein bod wedi defnyddio mwy o nwy nag arfer i gynhesu ein cartrefi a’n busnesau. Mae hyn yn golygu bod lefelau nwy a gaiff ei storio yn y DU, sydd eisoes yn gyfyngedig, yn hanesyddol o isel.
Mae gan gyflenwyr o Ewrop broblemau eu hunain. Pan na allwch gael y pŵer sydd ei angen arnoch o un lle, byddech fel arfer yn mynd i le arall. Ond mae pob un o’r llefydd y mae'r DU fel arfer yn cael ei phŵer yn ei chael hi’n anodd ateb y galw. Mae gwledydd Asia a De America hefyd yn prynu mwy o nwy, gan gynyddu’r galw hyd yn oed ymhellach.
Cap Prisiau
Roedd deddfwriaeth y DU a gyflwynwyd yn 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Ofgem, y rheolydd ynni, gyfyngu ar y cyfraddau y gall cyflenwr eu codi ar gwsmeriaid domestig. Mae'n rhoi ‘cap pris’ ar y gost fesul uned o drydan a nwy, yn ogystal â chyfyngiadau ar y tâl sefydlog ar gyfer pob un, ac yn ail-werthuso bob chwe mis.
Cafodd y Cap Pris Tariff Rhagosodedig ei gyflwyno yn 2019. Wrth i brisiau cyfanwerthu gynyddu, cynyddodd Ofgem lefel y cap prisiau. Ym mis Chwefror cyhoeddodd Ofgem y byddai’r cap ar brisiau yn cynyddu 54% arall, a disgrifiodd hyn yn hynod bryderus.
Ym mis Awst, cadarnhaodd Ofgem y bydd y cap ar brisiau yn cael ei ddiweddaru bob chwarter, yn hytrach na phob chwe mis, a bydd yn gosod lefelau cap pris ar gyfer y nawfed cyfnod; 1 Hydref 2022 – 31 Rhagfyr 2022. Cododd hyn y cap ar brisiau unwaith eto, gyda chost ynni ar gyfartaledd rhwng £3,549 a £3,764.
Mesurau’r Llywodraeth
Mewn ymateb i’r cap cynyddol, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd biliau cyfartalog yn cael eu cadw ar £2,500, o dan y Warant Pris Ynni. Mae hyn yn golygu na fydd cap pris mis Hydref bellach yn cael ei roi ar waith yn llawn i gwsmeriaid.
Er bod y cap pris yn cael ei gyfrifo drwy ddefnyddio methodoleg yn seiliedig ar brisiau’r farchnad a’i adolygu’n rheolaidd, mae’r Warant Pris Ynni yn gosod uchafswm pris uned (o dan y lefel y bwriadwyd i’r cap prisiau godi iddi). Fe’i gosodwyd yn wreiddiol am ddwy flynedd o fis Hydref 2022. Fodd bynnag, cafodd ei leihau’n ddiweddar i chwe mis. Adroddwyd y gallai biliau ynni cyfartalog fod yn fwy na £4,000 ar ôl mis Ebrill 2023.
Ymhlith mesurau eraill, mae’r Warant Pris Ynni yn cynnwys atal dros dro gostau rhwymedigaethau cymdeithasol ac amgylcheddol (a elwir yn ardollau gwyrdd) ar gyfer cwsmeriaid, gan drosglwyddo’r costau i Lywodraeth y DU.
Bil Prisiau Ynni y DU
Nod Bil Prisiau Ynni y DU yw rhoi fframwaith deddfwriaethol i fesurau sy’n anelu at reoli pris ynni. Mae hyn yn cynnwys y Warant Pris Ynni, ynghyd â mesurau eraill a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y llywodraeth; y cynllun cymorth biliau ynni, a’r cynllun rhyddhad biliau ynni, a drafodwyd mewn erthygl ddiweddar gan Ymchwil y Senedd.
Mae’r Bil yn cynnwys mesurau i osod pris sefydlog dros dro, neu Derfyn Refeniw Cost ac Elw, ar gyfer cynhyrchwyr carbon isel. Mae hyn wedi’i gynllunio i dorri’r cysylltiad rhwng prisiau nwy uchel, a phris trydan o gynhyrchwyr carbon isel.
Yn syml, os yw pris cyfanwerthol trydan yn cael ei osod gan bris nwy, nid oes gan y generaduron hynny nad ydynt yn defnyddio nwy gostau cynyddol, ac eto maent yn elwa ar brisiau cyfanwerthu cynyddol. Mae’r mesurau yn y Bil yn eu hanfod yn cyfyngu ar yr elw y gall cynhyrchwyr carbon isel ei wneud.
Disgrifiwyd hyn fel treth annisgwyl ar generaduron ynni glân, gydag ofnau y gallai effeithio ar fuddsoddiad mewn datblygu ynni adnewyddadwy, ac yn ei dro targedau i leihau allyriadau i sero net.
Mae datblygwyr ynni wedi codi pryderon hefyd ynghylch pwerau yn y Bil i ganiatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol addasu trwyddedau ynni a ‘rhoi cyfeiriad’. Disgrifiwyd y pwerau hyn fel ‘cipio pŵer’, sy’n caniatáu i’r Ysgrifennydd Gwladol ddiystyru Ofgem i bob pwrpas.
Mae rhagor o fanylion am y darpariaethau yn y Bil, a’i daith drwy Senedd y DU i’w gweld yn y ddogfen briffio hon gan Lyfrgell Tŷ’r Arglwyddi.
Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru