Gellir dadlau bod ymchwil ac arloesi yn allweddol i gynyddu ffyniant yng Nghymru.
Mae'r papur briffio hwn yn nodi'r darlun ymchwil ac arloesi yng Nghymru, gan ei roi yng nghyd-destun polisi presennol Llywodraeth y DU, sef cynyddu buddsoddiad ymchwil a datblygu’n sylweddol i 2.4 y cant o CDG erbyn 2027. Mae'r papur briffio’n ymdrin â’r canlynol:
- Y dadleuon o blaid defnyddio cyllid cyhoeddus i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi;
- Polisi ymchwil ac arloesi Llywodraeth y DU;
- Sut yr ariennir ymchwil ac arloesi yng Nghymru;
- Y 'dadleuon mawr' ym maes cyllid ymchwil ac arloesi;
- Dyfodol polisi ymchwil ac arloesi a buddsoddiad yng Nghymru
Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru