Mae prosiectau niwclear newydd yn cynnig cyfleoedd economaidd i Gymru, ond mae’r diffyg eglurder a sicrwydd ynghylch cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn llesteirio ymdrechion i adeiladu’r sylfaen sgiliau angenrheidiol. Dyma un o brif ganfyddiadau adroddiad diweddar gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar ynni niwclear ac economi Cymru.
Roedd ymchwiliad y Pwyllgor yn canolbwyntio'n bennaf ar effeithiau economaidd posibl datblygiadau niwclear newydd yng Nghymru o safbwynt creu swyddi, sgiliau a chadwyni cyflenwi. Mae'r erthygl hon yn edrych ar bolisïau ynni niwclear Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac yn archwilio rhai o'r materion allweddol a drafodwyd yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor.
Beth yw polisi Llywodraeth y DU?
Caiff polisi ynni niwclear ei benderfynu i raddau helaeth gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae gan y ddwy Lywodraeth gyfrifoldebau ym maes yr economi a sgiliau.
Mae Strategaeth Diogelwch Ynni Prydain Llywodraeth y DU yn datgan bod prosiectau ynni niwclear newydd yn hanfodol i gyflawni rhwymedigaethau ynghylch allyriadau carbon sero net a sicrhau hunangynhaliaeth y DU o ran ynni. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddwyn ymlaen o leiaf un prosiect niwclear ar raddfa fawr erbyn diwedd tymor presennol Senedd y DU, yn ogystal â dau brosiect ychwanegol yn ystod tymor y Senedd nesaf. Mae’n debygol iawn mai Sizewell C yn Suffolk fydd yr un prosiect niwclear ar raddfa fawr yn ystod y Senedd hon, gan mai hwn yw’r prosiect mwyaf datblygedig ar hyn o bryd.
Gall datblygiadau niwclear newydd fod naill ai’n adweithyddion traddodiadol ar raddfa fawr neu'n dechnoleg newydd, sef adweithyddion modiwlaidd bach. Ar hyn o bryd, mae adweithyddion modiwlaidd bach yn dal yn cael eu datblygu ac nid oes unrhyw adweithyddion o’r math yn weithredol yn y DU.
Mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu Great British Nuclear (GBN) fel corff hyd braich i gyflawni ei huchelgeisiau ar gyfer ynni niwclear a chefnogi datblygiadau newydd.
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru?
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin fod ei dull o gyflawni allyriadau carbon sero net yn cyd-fynd yn fras â pholisïau Llywodraeth y DU ac yn ategol i’r polisïau hyn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cydnabod y rôl sylweddol y gall ynni niwclear ei chwarae o ran datgarboneiddio, ac mae'n cefnogi camau i leoli prosiectau niwclear newydd ar safleoedd presennol Wylfa a Thrawsfynydd.
Yn 2022, nododd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi ar y pryd, “bwysigrwydd y sector niwclear yng Nghymru”, gan “gydnabod … y cyfraniad y mae’r sector yn ei wneud i gynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a helpu i greu swyddi”.
Sefydlwyd Cwmni Egino, sef cwmni sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru, yn 2021 i lunio cynllun datblygu safle ar gyfer Trawsfynydd sy’n “canolbwyntio ar dwf economaidd-gymdeithasol”.
A fydd prosiectau niwclear newydd yng Nghymru?
Mae cynigion i ddod â phrosiect ynni niwclear i Wylfa ar Ynys Môn yn yr arfaeth, ond mae unrhyw ddatblygiadau niwclear newydd yng Nghymru yn dibynnu ar benderfyniadau sydd eto i’w gwneud gan Lywodraeth y DU.
Ym mis Ionawr eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU: 'Civil nuclear: Roadmap to 2050'. Mae’r ddogfen hon yn cynnwys ymrwymiad i archwilio prosiect ychwanegol ar gyfer adweithydd ar raddfa fawr, gan nodi llinellau amser a phrosesau yn ystod y Senedd hon; mae hyn yn amodol ar benderfyniad buddsoddi terfynol ar Sizewell C.
Fel y nodwyd uchod, mae cynigion i ddod â phrosiect niwclear i Wylfa. Mae Bechtel (cwmni rheoli prosiectau adeiladu) a Westinghouse (cwmni technoleg niwclear a gweithgynhyrchu) yn cynnig adeiladu dau Adweithydd Dŵr dan Bwysedd AP1000 yn Wylfa. Mae EDF Energy hefyd wedi mynegi diddordeb yn safle Wylfa, gan ddweud bod Wylfa yn safle ardderchog os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu y bydd prosiect arall ar raddfa gigawat yn dilyn Sizewell C.
Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd bod GBN yn prynu'r tir yn Wylfa oddi wrth Hitachi. Credir y gallai'r tir yn Wylfa fod yn gartref i adweithyddion ar raddfa fawr ac adweithyddion modiwlaidd bach.
Mae GBN yn cynnal cystadleuaeth i ddethol darparwyr technoleg adweithyddion modiwlaidd bach, a disgwylir i gytundebau gael eu dyfarnu i'r cwmnïau technoleg llwyddiannus eleni. Caiff safleoedd eu dyrannu i ymgeiswyr llwyddiannus a byddant hefyd yn cael cyllid i fwrw ymlaen â’u cynlluniau. Mae Cwmni Egino am i Drawsfynydd fod yn safle'r Adweithydd Modiwlaidd Bach cyntaf i gael ei adeiladu yn y DU. Fodd bynnag, dywedodd Simon Bowen o GBN wrth y Pwyllgor ei bod yn annhebygol y bydd Trawsfynydd ar flaen y ciw yn ystod y broses ddethol bresennol.
Nododd y Pwyllgor nad yw Wylfa na Thrawsfynydd wedi’u crybwyll ar fap trywydd niwclear Llywodraeth y DU, a galwodd am “sicrwydd yng Nghymru ynghylch datblygu niwclear yn y dyfodol”.
I ba raddau y gallai niwclear effeithio ar economi Cymru?
Yn ôl Cymdeithas y Diwydiant Niwclear, mae’r diwydiant niwclear ar hyn o bryd werth £700 miliwn i economi Cymru, gan gynnal dros 800 o swyddi yn y sector.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod gan y datblygiad yn Wylfa y potensial i fod y prosiect buddsoddi unigol mwyaf yng Nghymru, a’i fod felly’n debygol o gael effaith sylweddol ar yr economi a chymunedau ar Ynys Môn a rhanbarth gogledd Cymru yn ehangach.
Yn ddiweddar, mae Bechtel a Westinghouse wedi gorffen adeiladu dau adweithydd AP1000 yn Plant Vogtle yn Georgia, UDA. Yn ôl Bechtel, ar ei anterth, darparodd prosiect Plant Vogtle ragor na 9,000 o swyddi, a rhagwelir y bydd yn darparu rhagor nag 800 o swyddi parhaol â chyflogau uchel am ddegawdau i ddod.
Dywedodd Cwmni Egino y bydd Adweithydd Modiwlaidd Bach yn Nhrawsfynydd yn hybu’r economi ranbarthol gyda thros £600 miliwn o Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) ar gyfer gogledd orllewin Cymru a £1.3 biliwn ar gyfer Cymru gyfan. Mae’r cwmni o’r farn y byddai lleoli Adweithydd Modiwlaidd Bach yn Nhrawsfynydd yn creu mwy na 400 o swyddi, gan ddarparu cyflogaeth am dros 60 mlynedd.
Beth yw'r heriau o ran sgiliau a’r gadwyn gyflenwi?
Mae Cymdeithas y Diwydiant Niwclear wedi tynnu sylw at brinder sgiliau presennol ar draws y gweithlu adeiladu ledled y DU. Clywodd y Pwyllgor fod y gweithlu’n heneiddio, a bod angen sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd yn y sector a rhoi hyder iddynt fod swyddi yn y sector yn rhai hirdymor. Hefyd, dywedwyd wrth y Pwyllgor nad yw tua 80 y cant o'r swyddi sydd eu hangen ar gyfer prosiectau niwclear yn rhai 'niwclear-benodol', sy’n golygu bod y diwydiant niwclear yn cystadlu am weithwyr medrus gyda phrosiectau seilwaith mawr eraill, megis datblygiadau ynni adnewyddadwy.
Dywedodd Bechtel wrth y Pwyllgor fod y byd yn profi dadeni niwclear sydd eisoes yn rhoi pwysau sylweddol ar argaeledd pobl fedrus. Mae adroddiad y Pwyllgor yn amlygu’r “risgiau o ganlyniad i gystadleuaeth a phwysau ar gadwyni cyflenwi byd-eang i gefnogi datblygiad niwclear” ac mae’n datgan bod y pwysau hwn “yn ei gwneud yn bwysicach fyth i gael eglurder ar raglen niwclear y DU”.
Mae adroddiad y Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill fod â chynllun clir ar gyfer y gweithlu a fydd yn gwasanaethu unrhyw brosiectau niwclear newydd.
Ddydd Mercher 17 Ebrill, gallwch wylio Aelodau o'r Senedd yn trafod canfyddiadau'r Pwyllgor ynghylch dyfodol safleoedd ynni niwclear. Mae p'un a fydd niwclear yn cael ei 'wneud yng Nghymru' yn gwestiwn arwyddocaol sydd heb ei ateb eto.
Erthygl gan Lucy Morgan, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru