Tair rhes o dai teras yng Nghwm Rhondda, Cymru.

Tair rhes o dai teras yng Nghwm Rhondda, Cymru.

Yr hawl i gael tai digonol: sut y dylai Cymru sicrhau cartref da i bawb?

Cyhoeddwyd 02/10/2023   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'n llawn yr egwyddor gyffredinol y dylai pawb gael mynediad at dai digonol. Llai hawdd, sut bynnag, yw cytuno ar sut i gyrraedd y nod hwnnw, yn enwedig gan fod pwysau costau adeiladu tai a nifer y bobl sydd mewn llety dros dro ar gynnydd.

Ddydd Mercher, bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor i'r hawl i gael tai digonol. Cytunodd y Pwyllgor mewn egwyddor y gallai’r hawl hon chwarae rhan bwysig wrth fynd i’r afael ag anghenion tai, a galwodd am waith pellach i ddeall y goblygiadau.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru chwech o argymhellion y Pwyllgor yn llawn, gan dderbyn pedwar arall mewn egwyddor.

'Newid y patrwm'

Mae’r hawl i gael tai digonol wedi’i hymgorffori mewn cyfraith ryngwladol o dan Erthygl 11(1) o Cyfamod Rhyngwladol yr Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economiadd, Cymdeithasol a Diwylliannol.

Yn ôl Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar yr hawl i gael tai digonol, ni all cartref fod yn ddigonol oni bai ei fod yn bodloni ystod o amodau, gan gynnwys sicrwydd deiliadaeth, argaeledd gwasanaethau megis dŵr ac ynni, fforddiadwyedd, hygyrchedd, a digonolrwydd diwylliannol.

Mae’r Cyfamod eisoes yn rhwymo mewn cyfraith ryngwladol, ond mae rhai gwledydd wedi mynd cam ymhellach ac ymgorffori’r hawl i gyfraith ddomestig, gan ddefnyddio dulliau gweithredu gwahanol, gyda chanlyniadau cymysg hyd yn hyn.

Y Ffindir yw'r wlad fwyaf datblygedig, a hynny’n gysylltiedig â’r gostyngiad sylweddol mewn digartrefedd yn y wlad honno. Mae ymdrechion Ffrainc a Sbaen, ar y llaw arall, wedi bod yn llai effeithiol.

Daeth ymchwil a gomisiynwyd gan Tai Pawb, Sefydliad Tai Siartredig Cymru a Shelter Cymru i’r casgliad bod yr ymrwymiad gwleidyddol i dai, yn enwedig i annog cyflenwad, wedi gwneud gwahaniaeth i debygolrwydd gwledydd o lwyddo.

Yng Nghymru, mae’r alwad i ymgorffori’r hawl mewn cyfraith wedi cael ei harwain gan gynghrair o sefydliadau tai sydd wedi paratoi deddfwriaeth ddrafft i’r perwyl hwnnw, ac sy’n cydweithio o dan faner “Cefnogi’r Bil”. Yn ei gwaith gydag Alma Economics, mae cynghrair Cefnogi’r Bil wedi dadleu y byddai gwireddu’r hawl i gael tai digonol yn costio £5 biliwn i Gymru dros gyfnod o 30 mlynedd, a byddai’n sicrhau buddion economaidd gwerth £11.5 biliwn – sy’n cyfateb i £2.30 mewn buddion am bob £1 a werir.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gais am dystiolaeth mewn Papur Gwyrdd ym mis Mawrth, gyda Phapur Gwyn i ddilyn yn ddiweddarach yn nhymor y Senedd hon er mwyn cadw at yr ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio. Mae Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi nodi ei bwriad i ddilyn y Papur Gwyn â Bil, ond dywedodd ei fod i’w gyflwyno yn ystod y tymor hwn.

Dywedodd Alicja Zalesinska, Prif Weithredwr Tai Pawb, wrth y Pwyllgor:

we think that it’s a potentially transformative legal framework that we could adopt here in Wales. It not only provides a transformative vision of what housing means; that vision is underpinned by a legal framework, which would help us shift the paradigm of how we view housing and hardwire that into our legislation and policy developments in the future.

Gwelwn ni chi yn y llys, neu beidio

Cwestiwn pwysig ansicr yw a ddylai’r hawl gael ei hymgorffori’n 'uniongyrchol' neu'n 'anuniongyrchol'.

Byddai ymgorffori uniongyrchol yn golygu y gallai unigolion ddibynnu ar yr hawl yn y llys. Byddai ymgorffori anuniongyrchol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus wneud cynnydd tuag at wireddu'r hawl, a chyflwyno adroddiadau rheolaidd i ddangos eu cynnydd. Ond ni fyddai modd i unigolion ddibynnu ar yr hawl yn y llys, ac eithrio mewn amgylchiadau technegol a chyfyngedig iawn.

Y cwestiwn yw: er ei bod yn parhau i fod heb ei gwireddu i lawer o bobl, a ddylid cyflwyno yr hawl fel ffordd o sicrhau cynnydd? Term eiriolwyr hawliau dynol am y dull hwn yw gwireddu cynyddol. Ynteu a ddylid gohirio’r hawl hyd nes y gall pobl ddibynnu arni fel grym amddiffynnol yn eu bywydau eu hunain?

Ymgorffori uniongyrchol y mae’r Gweinidog yn ei ffafrio. Mae hi wedi dweud ei bod am wneud y canlynol:

… implement an enforceable right to adequate housing – not a philosophical right, not a general right, but one that means you can rock up to your local authority and say, “Oi, where’s my adequate house?” That’s where I’d like to get to.

Opsiwn arall yw'r dull dau gam: anuniongyrchol yn gyntaf, gyda nod terfynol o sicrhau ymgorffori uniongyrchol a hawl i bawb y gellir ei gorfodi o dan y gyfraith. Dyma'r model mae cynghrair Cefnogi’r Bil yn ei ffafrio.

Gwnaeth y Pwyllgor argymell ymchwilio ymhellach i’r opsiwn dau gam. Derbyniodd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad hwn mewn egwyddor a dywedodd y bydd “ymatebion i'r ymgynghoriad, yn ogystal ag adroddiad y Pwyllgor a gwahanol ddulliau o ymgorffori yn cael eu hystyried ac yn llywio datblygiad y Papur Gwyn sydd ar ddod”.

Agweddau cyhoeddus

Canfu arolwg barn gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn 2020 fod 77 y cant o sampl o 1,000 o bobl yn cytuno y dylai pawb gael yr hawl i gael cartref digonol. Ym mis Chwefror eleni, galwodd grŵp llawr gwlad Siarter Cartrefi am Fil i ‘ymgorffori yn y gyfraith hawl dynol pobl Cymru i gartrefi fforddiadwy, o ansawdd da ac addas’.

Yr hyn sydd heb gael ei roi ar brawf eto yw a fyddai'r etholwyr yn croesawu hawl gyffredinol anorfodadwy.

Pwysigrwydd ymrwymiad gwleidyddol

Mae sawl tyst wedi dweud wrth y Pwyllgor na fyddai’r gyfraith yn llwyddo heb ymrwymiad gwleidyddol, yn enwedig o ran cynyddu’r cyflenwad tai. O ystyried y 'galw parhaus am dai fforddiadwy a’r nifer cynyddol o bobl sy’n byw mewn llety dros dro', mae’r Pwyllgor wedi mynegi pryder ynghylch a fydd ymrwymiad presennol y Llywodraeth i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel ar rent cymdeithasol yn ystod y tymor hwn yn ddigon.

Mae'r Llywodraeth wedi ymateb drwy ddisgrifio’r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wneud i wella’r cydgysylltu rhwng yr angen am dai a’r cyflenwad ohonynt. Dadl y Gweinidog oedd, er gwaethaf y presennol storm economaidd berffaith:

The long-term policy is in place, and now what we need to do is the various component parts of that policy to get us there. We're already delivering policy, programmes, legislative change, that moves us towards the right to adequate housing.

Gwaith pellach i'w wneud

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod Cymru yn parhau i fod 'ar ddechrau’r broses' o ystyried y cynigion a bod 'angen ystyried llawer o faterion ymhellach'.

Mae diffyg data Cymreig ar yr angen am dai. Mae angen deall canlyniadau anfwriadol. Mae gwahaniaethau barn academaidd: er enghraifft, mae Suzanne Fitzpatrick a Beth Watts-Cobbe o Brifysgol Heriot-Watt wedi dadlau efallai na fydd dull hawliau dynol ar gyfer digartrefedd yn effeithiol yn ymarferol.

Yn y pen draw, mae’r hawl i gael tai digonol yn gysyniad cynhenid hyblyg. Mae gwyntyllu ei botensial a chytuno ar ffordd ymlaen, a hynny ar adeg o bwysau tai lluosog ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, yn debygol o gymryd amser.

Gallwch wylio’r ddadl ar Senedd.tv.


Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru