Gallwch ddod o hyd i'n rhestrau darllen ar gyfer y Chweched Senedd yma.
Os ydych yn ceisio dod i ddeall pwnc newydd sbon neu eisiau gwybod beth yw'r prif ddatblygiadau mewn maes polisi, yna gallai rhestrau darllen y Gwasanaeth Ymchwil fod yn le gwych i ddechrau. Mae'r rhestrau darllen ar gyfer y pynciau gwahanol wedi cael eu llunio gan ein hamryw arbenigwyr pwnc. Y nod yw darparu rhestr wirio ragarweiniol o ddogfennau allweddol a ffynonellau gwybodaeth ar gyfer y rhai sydd am ddysgu am faes pwnc newydd neu ganfod y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y maes hwnnw. Mae'r rhestrau darllen yn cynnwys lincs at y prif ddogfennau polisi, adroddiadau, adolygiadau, gwefannau a ffynonellau eraill o wybodaeth. Mae gennym restrau darllen ar gyfer y pynciau canlynol ar hyn o bryd:
- Amaethyddiaeth, Bwyd, Diod, Coedwigaeth a Lles Anifeiliaid;
- Plant a Phobl Ifanc;
- Diwylliant, Chwaraeon a Threftadaeth;
- Datblygu Economaidd ac Adfywio;
- Yr Amgylchedd: Newid Hinsawdd, Gwastraff ac Ynni;
- Yr Amgylchedd: Llifogydd, Dŵr, Cadwraeth Natur, Mynediad a Morwrol;
- Addysg a Sgiliau;
- Cydraddoldeb, Hawliau Dynol, Tlodi, Lles a'r Trydydd Sector;
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol;
- Tai a Chynhwysiant Ariannol;
- Llywodraeth Leol a'r Gymraeg;
- Ffynonellau Ystadegau Etholaethol a Rhanbarthol; a
- Trafnidiaeth.
Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru